Ffocws yr ysgol: Cydweithrediad rhwng chwaraeon a’r gwasanaethau ieuenctid; mae ysgol yn lle diogel i fod yn actif
Trosolwg mynegi diddordeb
Yng nghymuned ynysig Sofrydd, sydd wedi’i lleoli ar gyrion Blaenau Gwent, nid oes unrhyw gyfleusterau na mannau agored yn y gymuned, y tu allan i’r ysgol. Canfu adroddiad diweddar nad yw 33.4% o boblogaeth Sofrydd yn berchen ar gar, sy’n uwch na’r ffigurau rhanbarthol (29%) a chenedlaethol (22.9%), sy’n golygu bod yr opsiynau trafnidiaeth i drigolion, i deithio i gyfleusterau, yn gyfyngedig. Mewn ymateb i hyn, ceisiodd Ysgol Gynradd Sofrydd ymestyn y mynediad i dir yr ysgol drwy gadw’r giât fynediad ar agor am oriau estynedig. Os oedd y tywydd yn gwahardd gweithgarwch awyr agored, neu os oedd angen darparu hyfforddiant, roedd mannau dan do (e.e. llyfrgell, ystafell ddosbarth) ar gael. Y bwriad oedd i’r cyllid AEBSD gael ei wario ar y tri maes cyffredinol canlynol i gefnogi cynyddu darpariaeth yr ysgol i’r gymuned mewn ffordd gynhwysol:
- Costau Staff
- Offer
- Darparu gweithdai
Gweithredu’r rhaglen
Derbyniodd yr ysgol gyllid rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Gorffennaf 2022. Amrywiodd y niferoedd oedd yn bresennol, a gofnodwyd gan yr ysgol, dros y misoedd, gyda’r presenoldeb mwyaf ym mis Mawrth (120 o gyfranogwyr) a’r lleiaf ym mis Ebrill (51 o gyfranogwyr). Roedd y cofnodion dysgu misol yn rhestru’r gweithgareddau yr oedd yr ysgol wedi bod yn eu cynnig, fel dawns, Taekwondo, darpariaeth Oddi ar y Stryd, celf a chrefft, sesiynau aml-chwaraeon, ramp sglefrio cludadwy, ac offer chwarae.
Drwy gwblhau cofnodion dysgu misol, tynnwyd sylw at y pwyntiau adlewyrchol allweddol a ganlyn, a dogfennwyd gweithredu’r ysgol ar y rhaglen yn yr amserlen a ddangosir yn Ffigur 9.
Beth weithiodd yn dda
- Rhieni eisiau darpariaeth yn ardal Sofrydd
- Ymgynghori â’r disgyblion
- Lefelau gweithgarwch corfforol wedi cynyddu
- Ymgysylltu ag Aneurin Leisure a darparwyr allanol i gyflwyno a chefnogi sesiynau
Pwyntiau dysgu
- Roedd y cymarebau staff i ddisgyblion yn gyfyngedig oherwydd salwch a achosodd i rai sesiynau gael eu canslo - mae’r ysgol yn edrych ar opsiynau staffio ychwanegol ar gyfer y dyfodol
y camau nesaf: - Trefnwyd darpariaeth gwyliau haf, gan ddefnyddio’r dysgu o’r misoedd blaenorol