Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Ethelwold mewn ardal o amddifadedd uchel yn Sir y Fflint ac er ei bod mewn lleoliad da yn y gymuned i ddisgyblion gerdded adref o’r ysgol ar ôl mynychu gweithgareddau ar ôl ysgol, roedd y presenoldeb yn isel yn flaenorol. Y bwriad oedd gwario cyllid AEBSD ar bedwar maes cyffredinol i gefnogi creu hwb cymunedol:
- Cefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion bregus ac anabl fynychu;
- Costau staff gan gynnwys hyfforddiant;
- Darparwyr darpariaeth sesiynau; ac
- Offer.
O haf 2022 ymlaen, roedd anawsterau o ran sicrhau bod darparwyr chwaraeon yn cyflwyno’r sesiynau, ac nid yw’r rhaglen wedi’i rhoi ar waith o fewn yr amserlen wreiddiol. Yn anffodus, mae amgylchiadau’r ysgol a’i chategoreiddio wedi newid ers dechrau’r prosiect ac mae’n derbyn cefnogaeth ychwanegol, felly nid oes capasiti o fewn yr ysgol i barhau gyda’r cyfnod monitro estynedig. Fodd bynnag, rhoddodd adborth gan arweinydd addysg yr awdurdod lleol ddiweddariad ar gynnydd yr ysgol.
Beth ddigwyddodd? Roedd y ddarpariaeth yn cynnwys sesiynau aml-chwaraeon a ddarparwyd drwy Aura Cymru, ynghyd â gweithgareddau celfyddydol, Taekwondo, cic-focsio, a sesiynau a gynhaliwyd gan y darparwr Forces Fitness. Gwerthfawrogwyd y gefnogaeth gan staff Aura Cymru. Ers yr haf, mae darpariaeth Forces Fitness (FF), a’r celfyddydau a’r cic-focsio wedi parhau mewn llawer o ysgolion yn Sir y Fflint. Mae’r ddarpariaeth FF yn cyd-fynd yn dda â rôl yr ALl o ddatblygu dysgu awyr agored ac fel rhan o weithio gyda grant SSCE. (Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg yng Nghymru).
Beth sy'n gweithio? Mae un o'r galluogwyr wedi bod yn gweithio fel clwstwr gyda chefnogaeth o fewn yr ALl i wneud cysylltiadau gyda darparwyr. Mae'r ysgolion yn y clwstwr hefyd yn rhannu eu gwybodaeth eu hunain am ddarparwyr maent eisoes yn gweithio â hwy, gan godi ymwybyddiaeth o ddarpariaeth leol. Mae hyn yn helpu ysgolion lle mae capasiti staff cyfyngedig i ymchwilio a nodi darpariaeth allanol o safon sydd â chymwysterau addas. Ystyriwyd bod y rôl gydlynu yn bwysig:
“Roedd pawb yn gwybod beth roedd pawb yn ei wneud. Fe gawsom ni ddibynadwyedd da gan y darparwyr, roedd y nifer a gymerodd ran yn dda iawn... Mae gweithio gyda rhai o’r darparwyr hyn wedi agor cryn dipyn o gyfleoedd i ysgolion ehangach hefyd, sydd wedi bod yn dda iawn.” (Cynrychiolydd yr ALl)
Canlyniadau
Y manteision i’r disgyblion
Un o’r manteision oedd bod dod â darparwyr allanol lleol i mewn yn codi ymwybyddiaeth ac yn cyflwyno cyswllt i ddisgyblion at dimau / darpariaeth gymunedol y gallant ymuno â hwy. Gall disgyblion ddod i adnabod darparwyr cymunedol, gan helpu i sefydlu’r berthynas honno mewn gofod cyfarwydd ac felly, o bosibl, bydd hyn yn cael gwared ar rwystr i ymgysylltu â’r gymuned. Ffactor arall yw cyflwyno mwy o fodelau rôl nad ydynt yn athrawon, a ymgorfforwyd yng nghynlluniau’r ysgolion. Roedd darparwyr allanol yn dangos diddordeb yn y disgyblion a hefyd yn helpu gyda bwlch gyda diffyg modelau rôl gwrywaidd yn aml mewn lleoliadau cynradd. “Roedd Forces Fitness, roedden nhw’n gweld artistiaid, cynrychiolwyr chwaraeon..” ac roedd y rhain yn cyflwyno sgiliau gwahanol, syniadau newydd, rhywun i edrych i fyny atynt a’u hysbrydoli, gan gyfrannu at eu datblygiad personol.
Roedd y rhieni hefyd yn elwa. “Pwy sydd ddim eisiau gweld eu plant allan ac yn gwneud rhywbeth adeiladol?” Dywedodd un teulu ei fod wedi bod yn “achubiaeth” iddynt hwy gan fod ganddynt blentyn heriol a oedd yn tarfu yn y cartref a bod hynny wedi rhoi rhywfaint o ofod iddynt. Nid oedd yr ymddygiadau hyn o reidrwydd yn ailadrodd eu hunain gyda darparwyr gwahanol.
Roedd model amseru’r gweithgareddau’n gweithio’n dda a gellid dod â’r ddarpariaeth ymlaen yn ystod misoedd y gaeaf i sicrhau llwybr diogel yn ôl i’r ysgol. Gallai presenoldeb swyddog AEBSD yn yr ysgol ddarparu lle diogel i ddisgyblion gael amser tawel ar ddiwedd y diwrnod ysgol cyn i ddarpariaeth wedi’i threfnu ddechrau ychydig yn hwyrach. Mae gan hyn hefyd fanteision o ddarparu cefnogaeth i rieni na allant fod yno a darparu rhywle i fod pan mae risg o ymddygiad gwrthgymdeithasol a phlant yn hongian o gwmpas y strydoedd heb ddim i’w wneud.
Cydlyniant cymunedol
Dywedodd arweinydd addysg yr awdurdod lleol: “Mae’n bendant yn llesol i’r gymuned weld y plant yn gwneud rhywbeth pwrpasol ac maen nhw’n hoffi eu gweld nhw’n cymryd rhan weithredol mewn rhywbeth. Mae'n rhoi rhywbeth i bobl ifanc ei wneud yn lle hongian o gwmpas. Efallai bod y rhan fwyaf o’r plant allan ar y strydoedd (fel arall), ddim o reidrwydd yn gwneud unrhyw beth o’i le, ond mae’n weladwy...”.
Roedd cynrychiolydd addysg yr awdurdod lleol yn cytuno’n gryf â’r datganiadau canlynol:
- Mae'r cynllun peilot wedi cynyddu amrywiaeth y chwaraeon a’r gweithgarwch corfforol a gynigir.
- Mae'r cynllun peilot wedi cynyddu ansawdd y chwaraeon a’r gweithgarwch corfforol a gynigir (drwy addysgu rheolau a strategaethau cywir y gweithgareddau roeddent yn eu gwneud, nad oedd yr athrawon yn gwybod amdanynt efallai).
- Mae'r cynllun peilot wedi annog plant segur yn flaenorol i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol: “Oes, mae llawer o ddisgyblion yn hoffi gwneud Taekwondo nad ydyn nhw'n hoff iawn o Addysg Gorfforol mewn ysgolion... Mae wedi agor llygaid y disgyblion i ystod wahanol o weithgareddau y mae modd iddyn nhw gymryd rhan ynddyn nhw.”
- Mae rhieni ein myfyrwyr ni wedi bod yn cymryd rhan yn y cynllun peilot (roedd hyn yn cynnwys rhieni yn cyrraedd cyn diwedd y sesiynau celfyddydol i ddarganfod mwy a chymryd rhan).
- Mae’r cynllun peilot wedi gwella perthynas yr ysgol â’r gymuned ehangach.
- Mae'r awdurdod lleol wedi cynorthwyo i roi'r cynllun peilot ar waith.
Heriau
Nid yw darpariaeth i’r un graddau wedi bod yn gynaliadwy gyda’r ysgolion llai, gyda darpariaeth staffio fechan. Talodd cyllid AEBSD arian ychwanegol i staff ysgol fod yn bresennol ac agor adeiladau am gyfnod hwy ond nid oes capasiti fel arall. Y brif her a nodwyd oedd cyllid. Roedd yr ysgolion eisiau parhau, ond ni allant dalu costau darparwr o £40 yr awr.
Er ei bod yn annhebygol y bydd darpariaeth gyson barhaus ar ôl ysgol heb fuddsoddiad pellach, mae staff ysgol wedi bod yn awyddus i fod yn rhan o’r broses o gyflwyno’r cynllun peilot. Un awgrym yw gwneud defnydd o’r hyn a weithiodd mewn ffyrdd eraill os nad oes cyllid ar gael:
“Rydw i’n meddwl mai un o’r pethau fyddai’n annog yr ysgolion – os na allant fforddio ei redeg ar ôl ysgol ar hyn o bryd – i barhau i edrych ar ddod â rhai o’r darparwyr hynny i mewn i’r cwricwlwm”. (Cynrychiolydd yr ALl)
Awgrymodd cynrychiolydd yr ALl y gellid dod o hyd i adnoddau ar gyfer hyn drwy ddarpariaeth gyflenwi Cynllunio, Paratoi ac Asesu (CPA). Roedd potensial hefyd mewn ysgol arall lle mae canolfan deulu i adeiladu ar y cyllid cymunedol i oedolion i gynnig sesiynau rhieni a phlant a allai gynnwys y celfyddydau, ioga, coginio iach, uwchsgilio digidol yn ogystal â chwaraeon.
Gwerthusiad pellach
Awgrymodd y cyfwelai y gallai gwerthusiad pellach ystyried ymchwilio ymhellach i sut mae darpariaeth ar ôl ysgol wedi effeithio ar amser dysgu – a yw syniadau a sgiliau newydd yn trosglwyddo i’r diwrnod ysgol, ac os nad ydynt, sut gallai wneud hynny?
Ffactorau galluogi
- Cyllid, yn enwedig ar gyfer ysgolion bychain i dalu costau darparwyr;
- Arweinydd yn yr awdurdod lleol a ‘dyn canol’ sy’n gallu cydlynu darpariaeth ar draws grŵp o ysgolion, gan rannu arbenigedd darparwyr ar gyfer darpariaeth gymunedol ac ymgorffori hyn yn amser y cwricwlwm.
“Dim ond gweld y plant yno a’r hyn maen nhw wedi’i gael ohono, rydw i’n meddwl ei fod (y peilot AEBSD) yn werth ei bwysau mewn aur. Mae wedi helpu i gael effaith gadarnhaol ar hyder ac yn ffynhonnell gadarnhaol o egni.” (Cynrychiolydd yr ALl)