Skip to main content

Ysgol Henry Richard

Ffocws yr ysgol: Datblygu perthynas rhwng ysgol a chanolfan hamdden leol a chynyddu cydlyniant cymunedol mewn pentrefi gwledig yng Nghymru.

Trosolwg mynegi diddordeb

Mae Ysgol Henry Richard yng Ngheredigion yn ysgol sy’n gwasanaethu disgyblion 3 i 16 oed. Mae tymhorau’r flwyddyn yn cael effaith enfawr ar lefelau gweithgarwch corfforol, ac mae sicrhau bod y cyfleusterau’n addas ar gyfer y nosweithiau tywyll cynnar yn hollbwysig er mwyn gwneud y defnydd gorau ohonynt. Mae mynediad cyfyngedig i gyfleusterau yn ystod misoedd y gaeaf wedi’i nodi gan ddisgyblion Ysgol Henry Richard fel problem. Yn ogystal, mae’r defnydd o gyfleusterau’r ysgol gan grwpiau cymunedol hefyd yn anodd yn ystod misoedd y gaeaf. I fynd i’r afael â hyn, ceisiodd yr ysgol gryfhau darpariaeth yr ysgol drwy ategu cyfleusterau’r ganolfan hamdden leol. Er bod pryderon wedi’u mynegi ynghylch effaith cyfleusterau’r ysgol newydd ar y ganolfan hamdden, gwelwyd a chadarnhawyd gyda chlybiau lleol nad oedd gan y ganolfan hamdden ddigon o gyfleusterau i gwrdd â galw’r gaeaf ac felly byddai darpariaeth yr ysgol yn ategol ac yn cynyddu cydlyniant cymunedol ymhellach. Y bwriad oedd i’r cyllid gael ei wario ar dri maes cyffredinol i gefnogi creu hwb cymunedol:

  1. Offer (e.e. llifoleuadau, batiwr, gasebo)
  2. System ddiogelwch (e.e. mynediad pad bysell)
  3. Seilwaith (e.e. uwchraddio trydan ar gyfer cyfleuster gwefru)

Gweithredu’r rhaglen

Derbyniodd yr ysgol gyllid rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2022. Oherwydd natur y modd yr oedd y cyllid yn cael ei wario, nid yw effaith, os o gwbl, y cyllid yn yr ysgol hon wedi cael amser i ddod i’r amlwg eto. O’r herwydd, mae’n bosibl y bydd data presenoldeb, cofnodion dysgu misol ac arolwg y disgyblion yn cael eu cwblhau yn nhymor yr Hydref.

Y camau nesaf – mis Medi 2022 ymlaen

Bydd monitro’r sesiynau yn parhau tan fis Rhagfyr 2022. Bydd effaith, os o gwbl, yr ystafell newid yng nghymuned yr ysgol yn cael ei hadrodd mewn adroddiad yn y dyfodol.