Ffocws yr ysgol: Pontio o’r ysgol i’r gymuned, datblygu clybiau cymunedol a llwybrau cynnydd i’r llwybr chwaraeon. Darparu cludiant ychwanegol i alluogi disgyblion i ddychwelyd adref yn hwyrach yn y dydd.
Trosolwg mynegi diddordeb
Mae Ysgol John Frost yn ysgol amlddiwylliannol (41.5% o ddisgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol) ac yn gwasanaethu ardaloedd niferus o amddifadedd yng Nghasnewydd, De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r dull o ddatblygu lleoliad addysg actif, cynhaliodd yr ysgol arolwg llais y disgybl i helpu’r uwch dîm rheoli i nodi’r hyn yr oedd y disgyblion yn ei weld fel y rhwystrau o ran cael mynediad at ddarpariaeth allgyrsiol. Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r arolwg, ynghylch pa rwystrau y dylai’r cynllun peilot geisio eu dileu, bwriad yr ysgol oedd i’r cyllid AEBSD gael ei wario ar y tri maes cyffredinol canlynol i gefnogi cynyddu cynnig yr ysgol i’r gymuned mewn ffordd gynhwysol:
- Bws hwyr o’r ysgol uwchradd i’r cymunedau bwydo
- Pecyn cinio i ddisgyblion sy’n mynychu clybiau
- Ffioedd cysylltiedig â chyflwyno gan gynnwys ffi neuadd chwaraeon, darparwyr, a ffioedd cofrestru
Gweithredu’r rhaglen
Derbyniodd yr ysgol gyllid rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Gorffennaf 2022. Roedd y niferoedd yn bresennol, a gofnodwyd gan yr ysgol, yn amrywio ar draws y misoedd gyda’r presenoldeb mwyaf ym mis Mawrth (1,243 o gyfranogwyr) a mis Mai (1,128 o gyfranogwyr). Roedd y presenoldeb lleiaf ym mis Ionawr (307 o gyfranogwyr), a oedd gryn dipyn yn is na’r rhan fwyaf o’r misoedd, sy’n awgrymu bod y presenoldeb wedi cynyddu ar ôl i’r wybodaeth am y sesiynau gael ei dosbarthu. Roedd y cofnodion dysgu misol yn rhestru’r gweithgareddau roedd yr ysgol wedi bod yn eu cynnig, fel Bws Hwyr, sesiynau ‘Pound Fit’ am ddim i famau, amrywiaeth o glybiau chwaraeon, gan gynnwys pêl rwyd a phêl droed a phêl fasged, ymyriadau ymddygiad, dyddiau Mercher Lles, a sesiynau hamdden.
Drwy gwblhau cofnodion dysgu misol, tynnwyd sylw at y pwyntiau adlewyrchol allweddol a ganlyn, a dogfennwyd gweithredu’r ysgol ar y rhaglen yn yr amserlen a ddangosir yn Ffigur 2.
Beth weithiodd yn dda:
- Roedd bws am ddim yn cael gwared ar y prif rwystrau o ran trafnidiaeth a chost cymryd rhan
- Cyfraddau cymryd rhan gwell gan ddisgyblion benywaidd yng Nghyfnod Allweddol 4
- Defnyddio cyfleoedd arweinyddiaeth i fynd i’r afael ag ymddygiad disgyblion a gwella eu lles
- Gwella lefelau ymddiriedaeth a chyfranogiad drwy ddefnyddio darparwyr cymunedol sy’n gyfarwydd i ddisgyblion
Pwyntiau dysgu:
- Nodi ffyrdd gwell o gyfathrebu gyda disgyblion i godi ymwybyddiaeth o gynigion
- Mae heriau o hyd o ran cefnogi disgyblion i fynychu clybiau chwaraeon cymunedol - bydd rhwystrau cost a theithio yn parhau i fod angen cefnogaeth
Y camau nesaf:
- Parhau i gydweithio gyda phartneriaid cymunedol a chynnig y ddarpariaeth bws hwyr
- Yr ysgol yn bwriadu blaenoriaethu arweinyddiaeth disgyblion ar draws yr ysgol (nid dim ond mewn gwersi addysg gorfforol)