Ffocws yr Ysgol: Datblygu dawns drwy weithio gyda’r gymuned o Deithwyr
Trosolwg mynegi diddordeb
Mae Ysgol Gorllewin Mynwy yn Nhorfaen yn gwasanaethu ysgolion cynradd bwydo partner yn wardiau etholiadol cyfagos New Inn, Panteg, Pont-y-pŵl Fawr, Trefethin a Phenygam. Yn hanesyddol, mae’r ysgol wedi cynnig gweithgareddau chwaraeon a drama traddodiadol. Gyda phroffil economaidd-gymdeithasol y disgyblion yn newid, gyda’r cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim wedi cynyddu o 17% i 32% yn ystod y pum mlynedd diwethaf, roedd dyhead i gynnig darpariaeth ehangach yn unol â diddordebau’r disgyblion. Roedd diddordeb mewn bod yn rhan o ddawns, gan gynnwys gan ddisgyblion o’r gymuned o Deithwyr. Er mwyn ehangu’r cynnig, ceisiodd yr ysgol gynnal sesiynau ar ôl ysgol, gyda’r bwriad o hyfforddi disgyblion i ddod yn arweinwyr dawns a darparu sesiynau dawns i ysgolion cynradd bwydo. Y bwriad oedd i’r cyllid gael ei wario ar dri maes cyffredinol i gefnogi creu hwb cymunedol:
- Costau staff
- Darparwyr sesiynau dawns allanol
- Costau cyflwyno
Gweithredu’r rhaglen
Derbyniodd yr ysgol gyllid rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Gorffennaf 2022. Roedd y niferoedd oedd yn bresennol a gofnodwyd gan yr ysgol yn dangos bod y presenoldeb yn amrywio ar draws y misoedd, gyda’r presenoldeb mwyaf ym mis Mawrth (534 o gyfranogwyr) a mis Mai (456 o gyfranogwyr). Roedd y presenoldeb lleiaf ym mis Ionawr (111 o gyfranogwyr), a oedd gryn dipyn yn is na’r rhan fwyaf o’r misoedd, sy’n awgrymu felly bod y presenoldeb wedi cynyddu ar ôl i wybodaeth am y sesiynau gael ei dosbarthu. Roedd y cofnodion dysgu misol yn rhestru’r gweithgareddau roedd yr ysgol wedi bod yn eu cynnig, fel gweithgareddau dawns i ddisgyblion ac oedolion. Rhoddwyd sylw i amrywiaeth eang o arddulliau dawns (e.e. Lladin, jazz, hip hop, dawnsio stryd, a chyfoes).
Drwy gwblhau cofnodion dysgu misol, tynnwyd sylw at y pwyntiau adlewyrchu allweddol canlynol, a dogfennwyd gweithredu’r rhaglen gan yr ysgol yn yr amserlen a ddangosir yn Ffigur 16.
Beth weithiodd yn dda:
- Perthnasoedd wedi’u datblygu gyda darparwyr allanol, Datblygu Chwaraeon Torfaen, ac ysgolion cynradd bwydo
- Gwnaeth y disgyblion gynnydd cyflym a chymryd rhan mewn cystadlaethau
- Datblygu darpariaeth estynedig arweinwyr dawns
- Mae’r ysgol ar y llwybr at greu diwylliant dawns - nod tymor hir gyda darpariaeth bellach ar gael ar gyfer gwahanol grwpiau blwyddyn, i fechgyn a merched, ac oedolion
Pwyntiau dysgu:
- Gwaith pellach i ddatblygu arweinwyr a mwy o amser i wireddu uchelgeisiau a nodau cyffredinol
Y camau nesaf:
- Bydd Ysgol Gorllewin Mynwy a thîm Datblygu Chwaraeon Torfaen yn parhau i gefnogi darpariaeth ffitrwydd dawns oedolion yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf
- Parhau i ddatblygu cystadlaethau dawns mewn Eisteddfodau
- Potensial i ddarparwr sefydlu clwb cymunedol ychwanegol yn yr ysgol