Skip to main content

Ysgol Uwchradd Pencoedtre

Ffocws yr ysgol: Datblygu cynnig cyfannol yn canolbwyntio ar weithgarwch corfforol a maeth mewn ardal o amddifadedd drwy gyflogi cydlynydd i gefnogi oriau agor ychwanegol safle’r ysgol.

Trosolwg mynegi diddordeb

Mae Ysgol Uwchradd Pencoedtre wedi’i lleoli yn Ward Cadog y Barri ym Mro Morgannwg lle mae heriau cymdeithasol- economaidd sylweddol, gyda dalgylchoedd yr ysgol yn cynnwys rhai o’r 10% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r ysgol wedi profi cynnydd amlwg yn nifer y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim; mae’r ysgol wedi cydnabod mai’r teuluoedd tlotaf sy’n wynebu’r heriau mwyaf. Mae’r ysgol yn ceisio creu sefydliad addysgol, lles a chymunedol o’r safon uchaf. I gyflawni hyn, nododd yr ysgol angen am wella’r ddarpariaeth o gyfleoedd gweithgarwch corfforol cymunedol yn yr ardal. Er enghraifft, yn Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru yn 2018, canfu’r ysgol

bod y cyfranogiad mewn darpariaeth chwaraeon ar ôl ysgol ymhlith eu disgyblion yn isel o gymharu â gweddill Bro Morgannwg. Dysgodd yr ysgol hefyd o’r arolwg ‘Lleisio eich Barn’ bod disgyblion ysgolion uwchradd eisiau gwneud mwy o weithgarwch corfforol ar ôl ysgol ac mewn lleoliadau cymunedol. Mewn ymateb i hyn, ymrwymodd yr ysgol i ymestyn oriau agor yr ysgol, ynghyd â threfnu a chynnal sesiynau yn yr ysgol. Y bwriad oedd i’r cyllid gael ei wario ar y tri maes cyffredinol a ganlyn i gefnogi creu hwb cymunedol:

  1. Cyflwyno gweithgareddau chwaraeon
  2. Costau staff
  3. Costau seilwaith

Gweithredu’r rhaglen

Derbyniodd yr ysgol gyllid rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Mawrth 2022, ond parhaodd y ddarpariaeth tan fis Gorffennaf 2022. Roedd y niferoedd oedd yn bresennol, a gofnodwyd gan yr ysgol, yn amrywio ar draws y misoedd, gyda’r presenoldeb mwyaf ym mis Mawrth (248 o gyfranogwyr) a mis Ionawr (187 o gyfranogwyr). Roedd y presenoldeb lleiaf ym mis Gorffennaf (71 o gyfranogwyr). Roedd y cofnodion dysgu misol yn rhestru’r gweithgareddau roedd yr ysgol wedi bod yn eu cynnig, fel dawns, Tai chi, hunanamddiffyn, pêl fas, ioga, sglefrfyrddio, rhedeg a golff.

Drwy gwblhau cofnodion dysgu misol, tynnwyd sylw at y pwyntiau adlewyrchu allweddol a ganlyn, a dogfennwyd gweithredu’r rhaglen gan yr ysgol yn yr amserlen a ddangosir yn Ffigur 7.

Beth weithiodd yn dda:

  • Galluogodd partneriaeth â thîm Byw yn Iach y Fro gysylltiadau â chynigion cymunedol - llwybr cynnydd i ddisgyblion
  • Roedd sglefrfyrddio yn boblogaidd
  • Datblygodd yr hyfforddwyr berthynas â’r disgyblion, gan feithrin sgiliau bywyd iddynt a sut bydd y dewisiadau maent yn eu gwneud nawr yn effeithio arnynt wrth symud ymlaen mewn bywyd
  • Adborth cadarnhaol gan rieni ac effaith gadarnhaol ar y gymuned
  • Adroddodd yr heddlu am lai o droseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chyflwyno Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBOs) yn yr ardal ers i’r rhaglen ddechrau

Pwyntiau dysgu:

  • Nid oedd cludiant bws mini i glybiau a chyfleusterau lleol bob amser ar gael ac roedd angen cynllunio
  • Mae’r gwaith o ddatblygu cyfleusterau awyr agored yn yr ysgol newydd yn mynd rhagddo

 

Y camau nesaf:

  • Parhau i ymgynghori â’r disgyblion ac ymgysylltu â’r grŵp Blwyddyn 7 newydd ym mis Medi
  • Defnyddio canlyniadau Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru pan fyddant ar gael yn yr Hydref fel sail i’r rhaglen a datblygu mwy o gysylltiadau â chlybiau lleol
Ffigur 7: Mae’r raffeg yn dangos adlewyrchu misol yr ysgol ar weithredu’r rhaglen.  Ionawr – Yr ysgol yn bartner gyda thîm Byw yn Iach y Fro i gynnig amrywiaeth o weithgareddau.  Chwefror - Roedd sglefrfyrddio gyda darparwr allanol yn boblogaidd, er bod y cymarebau'n cyfyngu ar y niferoedd i 10 disgybl y sesiwn. Enillodd y disgyblion y sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder i fynd ymlaen i sglefrio mewn parciau sglefrio lleol.  Mawrth - Roedd y disgyblion a gymerodd ran yn y prosiect yn fwy hyderus, yn llawn cymhelliant, ac yn ymgysylltu'n well â bywyd ysgol yn gyffredinol. Gwellodd ymddygiad wrth i ddisgyblion deimlo’n rhan o’r ysgol.  Ebrill - Effaith gadarnhaol yn enwedig ar ddisgyblion a fu'n segur. Roeddent bellach nid yn unig yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn y rhaglen ond hefyd yn ystod amser y cwricwlwm.  Mai - Mae'r ysgol yn parhau i gynnig hunanamddiffyn, ioga, sglefrfyrddio a phêl fas gan mai dyma'r sesiynau sy'n gweithio'n dda.  Mehefin - Ychwanegwyd darpariaeth golff at y sesiynau oedd ar gael, gyda’r disgyblion yn mynd ar fws i'r clwb golff lleol.  Gorffennaf - Datblygu cysylltiadau gyda chlwb bowlio lleol i gyflwyno bowlio yn rhan o’r rhaglen ym mis Medi.

Trosolwg o arolwg y disgyblion

Cwblhaodd pedwar ar bymtheg o ddisgyblion yr arolwg ym mis Gorffennaf. Yn gyffredinol, teimlai’r rhan fwyaf o’r disgyblion (79%) bod mynychu’r sesiynau wedi cynyddu eu lefelau gweithgarwch corfforol, gyda 74% yn dweud eu bod wedi mynychu 10+ sesiwn AEBSD (Bocs 4). Adroddodd disgyblion hefyd ei bod yn hawdd iawn teithio i’r sesiynau wrth iddynt fynd yn ystod eu hamser cinio / ar ôl ysgol. Mae Ffigur 8 yn dangos bod mynychu’r sesiynau wedi helpu’r disgyblion i ddysgu neu wella eu sgiliau (90% yn cytuno / cytuno’n llwyr), cwrdd â phobl newydd (89%), a theimlo’n dda (89%).

Bocs 4: Mae’r raffeg yn dangos yr wybodaeth a gofnodwyd gan y disgyblion ar gyfer Ysgol Uwchradd Pencoedtre.  Mae cylch (i) yn dangos y newidiadau yn lefelau gweithgarwch corfforol y disgyblion oherwydd mynychu sesiynau AEBSD.  79% wedi cynyddu 14% dim newid 0% wedi gostwng  Mae cylch (ii) yn dangos nifer y sesiynau AEBSD a fynychwyd gan y disgyblion.  Mynychodd 0% 1 sesiwn Mynychodd 11% 2 i 3 sesiwn Mynychodd 16% 6 i 10 sesiwn Mynychodd 74% fwy na 10 sesiwn  Mae cylch (iii) yn dangos sut teithiodd y disgyblion i'r sesiynau.  1% yn cerdded i'r sesiwn Arhosodd 99% yn yr ysgol
Ffigur 8: Mae’r siart yn dangos canfyddiadau’r disgyblion o ran sut gwnaeth mynychu sesiynau Addysg Actif y Tu Hwnt i’r Diwrnod Ysgol eu helpu.  Mae 26% yn cytuno’n gryf bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i dreulio amser gyda’u ffrindiau.  Mae 58% yn cytuno bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i dreulio amser gyda’u ffrindiau.  Mae 32% yn cytuno’n gryf bod y sesiynau Addysg Actif wedi helpu i wella perfformiad addysgol  Mae 21% yn cytuno bod y sesiynau Addysg Actif wedi helpu i wella perfformiad addysgol  Mae 26% yn cytuno’n gryf bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i gwrdd â phobl newydd.  Mae 63% yn cytuno bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i gwrdd â phobl newydd.  Mae 47% yn cytuno’n gryf bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i deimlo’n rhan o’u cymuned.  Mae 16% yn cytuno bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i deimlo’n rhan o’u cymuned.  Mae 37% yn cytuno’n gryf bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i ddysgu neu wella sgiliau.  Mae 53% yn cytuno bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i ddysgu neu wella sgiliau.  Mae 42% yn cytuno’n gryf bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i deimlo’n dda.  Mae 47% yn cytuno bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i deimlo’n dda.

Canfyddiadau ychwanegol

Ceisiodd yr ysgol uwchsgilio disgyblion i ddod yn arweinwyr chwarae drwy gydol y prosiect peilot.

Nododd yr ysgol bod y rhaglen yn cael effaith arbennig ar un disgybl, ac roedd yn dymuno rhannu siwrnai gadarnhaol y disgybl. O ganlyniad, casglodd yr ysgol dystebau gan unigolion a fu’n ymwneud â siwrnai’r disgybl (edrychwch ar Focs 5). Cyn cymryd rhan yn y rhaglen AEBSD, roedd y disgybl wedi ymddieithrio o’r ysgol ac roedd yn datgysylltu yn aml

mewn gwersi ac yn gwrthod cyfathrebu â’r staff. Mae stori’r disgybl yn enghraifft o sut gall y rhaglen arwain at fanteision ehangach y tu hwnt i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yn unig.

Y camau nesaf – mis medi 2022 ymlaen

Bydd yr ysgol yn ymgorffori’r hyn a ddysgwyd o’r peilot mewn model hirdymor cynaliadwy.

“Mae’r gwahaniaeth yn y Disgybl ers mynychu’r ddarpariaeth ar ôl ysgol yn enfawr. Mae’n fwy allblyg. Mae’n sicr ac yn gadarnhaol. Mae’n rhoi cynnig ar bob gweithgaredd ac yn rhyngweithio’n fwy hyderus gyda staff a disgyblion. Mae’n fodel rôl hyfryd i’r disgyblion iau ac wedi dod o hyd i sgil ar gyfer pêl fas nad oedd neb yn gwybod oedd ganddo!”

Miss Preece, Athrawes Ddosbarth Dyfodol Llwyddiannus

 

“Mae personoliaeth a hyder y disgybl wedi cynyddu cymaint ers dechrau’r ddarpariaeth ar ôl ysgol. Nid oedd y disgybl yn heini o gwbl yn y gorffennol ac nid oedd yn mwynhau ymarfer corff. Nawr mae’n mynychu bob nos, wedi dod yn fwy heini ac wedi gwneud llawer o ffrindiau. Mae’r disgybl hefyd wedi dangos cymaint o gynnydd fel ei fod yn cefnogi staff sydd â rôl arwain.”

Louis Johnson, Rheolwr Darpariaeth Amgen

 

“Roedd gan y disgybl ddiddordeb mewn pêl droed pan oedd yn iau ond rhoddodd y gorau i fynychu. Ers i’r rhaglen wella ar ôl ysgol ddechrau, mae wedi ymuno ag amrywiaeth o chwaraeon bob dydd. Mae wedi magu hyder yn ei allu ei hun ac wedi datblygu ei sgiliau cymdeithasol y tu hwnt i’r hyn y gallem fod wedi’i ragweld. Mae’n ysbrydoliaeth i ddisgyblion eraill oherwydd ei ymroddiad a’i ymrwymiad. Mae’r disgybl yn annog eraill i ymuno yn y gweithgareddau chwaraeon sy’n cael eu cynnig ac yn annog y rhai sydd â diffyg hyder. Mae lefelau ffitrwydd y disgybl wedi cynyddu, ac mae’n iachach ac yn hapusach nag yn y gorffennol.”

Tracey Young, Pennaeth Cynorthwyol

 

Y rheswm pam rydw i’n mwynhau’r dosbarth ar ôl ysgol yn fawr yw oherwydd byth ers i mi ddechrau mynd atyn nhw mae wedi fy helpu i’n fawr gyda fy hyder a fy hunan-barch, yn ogystal â gwneud rhai ffrindiau newydd ac mae hefyd wedi gwella fy ffitrwydd i ac mae’n brofiad gwych yn gyffredinol.”

Disgybl

 

“Ers mynychu ein darpariaeth ar ôl ysgol mae’r disgybl wedi magu hyder ac aeddfedrwydd. Mae wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ac mae’n hyfryd ei weld yn ymuno â llawer o weithgareddau newydd na fyddai erioed wedi’u gwneud o’r blaen. Mae’r ddarpariaeth wedi bod o fudd mawr iddo, a gobeithio y bydd yn parhau i gymryd rhan.”

Mrs Leckie, Ymddygiad a Lles