Skip to main content

Ysgol y Grango

Ffocws yr Ysgol: Datblygu darpariaeth iechyd a lles sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm ysgol newydd.

Trosolwg mynegi diddordeb

Yn Ysgol Y Grango (ysgol uwchradd yn Wrecsam sy’n gwasanaethu cymunedau’r Rhos, Johnstown, Penycae, Rhiwabon a Rhostyllen), mae gan 27.1% o’r disgyblion hawl i brydau ysgol am ddim. Yn hanesyddol mae cyfleusterau Ysgol Y Grango wedi cael eu defnyddio gan dimau chwaraeon oddi mewn i gymunedau cyfagos dalgylch yr ysgol a’r tu allan iddynt. Yn dilyn derbyn cyllid ar wahân, cafodd yr ysgol gae pêl droed 3G newydd ac roedd yn awyddus i wneud y defnydd gorau ohono drwy alluogi’r gymuned i gael mynediad cynyddol iddo y tu allan i’r diwrnod ysgol. Mewn cydweithrediad â’r bartneriaeth ysgol / hwb a Wrecsam Actif, ceisiwyd creu rhaglen newydd yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau. Y bwriad oedd i’r cyllid gael ei wario ar bedwar maes cyffredinol i gefnogi creu hwb cymunedol:

  1. Offer
  2. Seilwaith (e.e. loceri newydd, ailaddurno, system archebu ar-lein)
  3. Mynediad a systemau diogelwch
  4. Dyddiau datblygu cymunedol

Gweithredu’r rhaglen

Derbyniodd yr ysgol gyllid rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Gorffennaf 2022. Roedd y cofnodion dysgu misol yn rhestru’r gweithgareddau yr oedd yr ysgol wedi bod yn eu cynnig, fel clwb brecwast, gŵyl pêl rwyd, ‘ystafell esgidiau’ o esgidiau sbâr i’w defnyddio ar y cae 3G. Roeddent hefyd yn ceisio gwella’r ystafelloedd newid i’w gwneud yn hygyrch i’r gymuned y tu allan i’r ysgol.

Drwy gwblhau cofnodion dysgu misol, tynnwyd sylw at y pwyntiau adlewyrchol allweddol a ganlyn, a nodwyd gweithredu’r rhaglen gan yr ysgol yn yr amserlen a ddangosir yn Ffigur 17:

Beth weithiodd yn dda:

  • Cyfarfodydd ysgol misol a chyfarfod [fforwm ysgol] cyntaf Chwaraeon Cymru – cafwyd syniadau newydd a chyfle i weld a ellid trosglwyddo syniadau ysgolion eraill i’w cyd-destun eu hunain
  • Cyrsiau arweinyddiaeth a oedd yn bwydo’n dda i’r cwricwlwm newydd ac a allai fod o fudd i glybiau lleol

Pwyntiau dysgu / meysydd i’w gwella:

  • Lleihau ffocws yr ysgol ar gyfer y rhaglen a nodi meysydd ffocws allweddol
  • Ystyried costau ychwanegu dyddiau clwb brecwast ychwanegol

Y camau nesaf:

  • Creu cysylltiadau ag ysgolion clwstwr a chyfathrebu â chlybiau ac ysgolion cynradd yn rheolaidd
Ffigur 17: Mae’r raffeg yn dangos adlewyrchu misol yr ysgol ar weithredu’r rhaglen.  Ionawr – Cyfarfod ysgol misol. Cynllunio syniadau i ddechrau’r prosiect  Chwefror - Cysylltu syniadau â'r cwricwlwm newydd. Gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd ffordd o fyw iach a'r rhan y gall ymarfer ei chwarae.  Mawrth - Mireinio syniadau. Cwblhau datblygiad ystafell newid. Dolen i gynllun cwricwlwm newydd yn barod i'w threialu.  Ebrill - Cyfarfod ysgol misol. Roedd gwyliau'r Pasg ac arholiadau'n golygu bod ffocws ar bethau eraill.  Mai - Ymweliad cadarnhaol gan Chwaraeon Cymru â'r ysgol. Arweiniodd perthnasoedd gwell rhwng y disgyblion a’r athrawon at bresenoldeb uwch.  Mehefin - Y nod yw gwella llif y cwricwlwm rhwng y cyfnod cynradd ac uwchradd. Sefydlwyd clwb brecwast ac roedd yn boblogaidd.

Trosolwg o arolwg y disgyblion

Cwblhaodd pedwar deg naw o ddisgyblion yr arolwg ym mis Gorffennaf. Yn gyffredinol, teimlai’r rhan fwyaf o’r plant (78%) bod mynychu’r sesiynau wedi cynyddu eu lefelau gweithgarwch corfforol, gyda 49% yn dweud eu bod wedi mynychu 10+ sesiwn AEBSD (Bocs 7). Adroddodd y disgyblion hefyd ei bod yn hawdd iawn teithio i’r sesiynau wrth iddynt fynd yn ystod eu hamser cinio / ar ôl ysgol neu gerdded. Roedd Ffigur 18 yn dangos bod mynychu’r sesiynau wedi helpu’r rhan fwyaf o blant i dreulio amser gyda’u ffrindiau (94% yn cytuno / cytuno’n llwyr) a dysgu neu wella sgiliau newydd (94%), teimlo’n dda (90%), a gwella eu perfformiad addysgol (84%).

Y camau nesaf – mis Medi 2022 ymlaen

Mae cysylltiadau agosach wedi’u sefydlu rhwng yr ysgol a’r awdurdod lleol, ac mae’r ysgol yn bwriadu dod yn Ysgol Fro o fis Medi ymlaen, gyda ffocws ar y ddarpariaeth gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Bydd y disgyblion hefyd yn cael eu hyfforddi fel arweinwyr chwaraeon i gefnogi cyflwyno gweithgareddau.

Nid oedd y data canlynol ar gael ar gyfer adrodd ar gyfer yr ysgol hon: Presenoldeb.

Bocs 7: Mae’r raffeg yn dangos yr wybodaeth a gofnodwyd gan y disgyblion ar gyfer Ysgol Y Grango.  Mae cylch (i) yn dangos y newidiadau yn lefelau gweithgarwch corfforol y disgyblion oherwydd mynychu sesiynau AEBSD.  78% wedi cynyddu 16% dim newid 6% wedi gostwng  Mae cylch (ii) yn dangos nifer y sesiynau AEBSD a fynychwyd gan y disgyblion.  Mynychodd 18% 1 sesiwn Mynychodd 33% 2 i 3 sesiwn Mynychodd 0% 6 i 10 sesiwn Mynychodd 49% fwy na 10 sesiwn  Mae cylch (iii) yn dangos sut teithiodd y disgyblion i'r sesiynau.  27% yn cerdded i'r sesiynau 6% yn beicio i'r sesiynau 20% yn teithio ar sgwteri i'r sesiynau Arhosodd 47% yn yr ysgol.
Ffigur 18: Mae’r siart yn dangos canfyddiadau’r disgyblion o ran sut gwnaeth mynychu sesiynau Addysg Actif y Tu Hwnt i’r Diwrnod Ysgol eu helpu.  Mae 41% yn cytuno’n gryf bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i dreulio amser gyda’u ffrindiau.  Mae 53% yn cytuno bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i dreulio amser gyda’u ffrindiau.  Mae 45% yn cytuno’n gryf bod y sesiynau Addysg Actif wedi helpu i wella perfformiad addysgol.  Mae 39% yn cytuno bod y sesiynau Addysg Actif wedi helpu i wella perfformiad addysgol.  Mae 47% yn cytuno’n gryf bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i gwrdd â phobl newydd.  Mae 27% yn cytuno bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i gwrdd â phobl newydd.  Mae 53% yn cytuno’n gryf bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i deimlo’n rhan o’u cymuned.  Mae 31% yn cytuno bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i deimlo’n rhan o’u cymuned.  Mae 35% yn cytuno’n gryf bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i ddysgu neu wella sgiliau.  Mae 59% yn cytuno bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i ddysgu neu wella sgiliau.  Mae 55% yn cytuno’n gryf bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i deimlo’n dda.  Mae 35% yn cytuno bod y sesiynau Addysg Actif wedi eu helpu i deimlo’n dda.