Ymddygiad
Cofnododd dros hanner yr ysgolion effaith gadarnhaol ar ymddygiad disgyblion yn yr ysgol fel effaith addysgol, a nodwyd rhai gwelliannau mewn presenoldeb yn yr ysgol. Roedd y buddsoddiad wedi helpu i wella cyfleusterau a chreu amgylchedd dysgu mwy cadarnhaol. Roedd gweithgareddau a drefnwyd ar ôl ysgol yn darparu man diogel i ddisgyblion fynd iddo, yn aml lle nad oedd llawer o bethau eraill ar gael i bobl ifanc yn y gymdogaeth.
Dywedodd ysgolion bod y disgyblion yn cymryd rhan yn y ddarpariaeth chwaraeon newydd a bod galw mawr am weithgareddau ar y cyfan.
Daeth cyflwyno rhai cynigion chwaraeon yn adnodd effeithiol i addysgu disgyblion i reoli eu hemosiynau a dysgu hunanreolaeth. Roedd ysgolion yn aml yn nodi bod cael darparwyr allanol i arwain y gweithgareddau hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y disgyblion. Er y gallai athro fod wedi gallu cyflwyno camp debyg, roedd cael person annibynnol i gyflwyno’r gweithgaredd a oedd yn cael ei ystyried yn ‘arbenigwr’ yn galluogi mwy o gyfranogiad yn y profiad dysgu. Roedd y disgyblion yn gwrando.
“Mae bocsio wedi dod yn adnodd yn yr ysgol ar gyfer rheoli emosiynau” (Ysgol gynradd)
“Roedd y gweithgareddau planetree (darparwr antur awyr agored) yn cynnwys llawer o ymarferion meithrin tîm a chydweithio wrth fod yn actif. Mae rhai o’r plant sydd wedi dangos problemau ymddygiad yn dechrau dangos mwy o hunanreolaeth. Gallai hyn fod yn rhannol oherwydd Tae Kwando a’r ddisgyblaeth dan sylw.” (Ysgol gynradd)
“Mae llwyddiant y mis yma wedi galluogi un myfyriwr i wella ei ymddygiad yn y dosbarth. Oherwydd ei lwyddiant yn y clwb allanol, mae bellach yn teimlo ymdeimlad o gyflawni ac mae bellach yn defnyddio hyn i ysgogi ei hun o fewn yr ysgol. Mae hyn wedi cael ei gefnogi gan ddarparwr allanol / hyfforddwr chwaraeon. Mae’r darparwr allanol wedi ymgymryd â pherthynas fentora gyda’r myfyriwr ac mae’n ei gefnogi i ddewis yr ymddygiadau cywir tra mae yn yr ysgol.” (Ysgol uwchradd)
Gwella hyder, hunan-barch a gwydnwch
Cyfrannodd y sesiynau AEBSD at awyrgylch gadarnhaol o amgylch yr ysgol, gyda’r disgyblion a’r staff yn mwynhau’r ystod o wahanol ddarpariaethau, yn datblygu hyder a gwydnwch o roi cynnig ar bethau newydd, ac yn dyfalbarhau i ddysgu sgiliau newydd. Roedd yr ysgolion yn adlewyrchu bod y disgyblion yn cymryd mwy o ran ym mywyd yr ysgol ar ôl cymryd rhan, gyda sgil-effaith gadarnhaol ar eu hymwneud yn ystod amser cwricwlaidd.
“Rydyn ni wedi gweld bod y prosiect yma wedi cael effaith gadarnhaol ar flaenoriaethau addysgol yr ysgolion gan fod y disgyblion sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn fwy hyderus, yn llawn cymhelliant, ac yn ymgysylltu’n well â bywyd ysgol yn gyffredinol. Mae eu hymddygiad wedi gwella wrth iddynt deimlo’n rhan o’r ysgol a gallant weld y budd maent yn ei gael ohono.” (Ysgol uwchradd)
“Mae ymgysylltu’r disgyblion â’r ysgol wedi gwella. Roedd adborth y rhieni yn wych, gan ddangos bod y clwb yn cael ei werthfawrogi. Roedd adborth y disgyblion yn dangos bod gan bob un ohonyn nhw lefelau uwch o hunanhyder a hunan-barch. Teimlai pawb eu bod wedi dyfalbarhau gyda phrofiadau newydd.” (Ysgol gynradd)
Manteision trawsgwricwlaidd a chydweithredu
Mae rhai o ganlyniadau a llwyddiannau’r prosiect wedi helpu i sicrhau manteision trawsgwricwlaidd, yn ogystal â dysgu cydweithredol rhwng ysgolion. Roedd dwy ysgol wedi defnyddio gweithgareddau a oedd yn cefnogi darpariaeth Gymraeg; maent wedi cysylltu â’r Urdd ac wedi cymryd rhan yn yr Eisteddfod. Roedd dwy ysgol yn defnyddio ffocws arweinyddiaeth yn y cwricwlwm newydd ac yn defnyddio’r gweithgareddau i roi gwell dealltwriaeth i’r disgyblion o bwysigrwydd ffordd iach o fyw a’r rhan y gall gweithgarwch corfforol ei chwarae wrth gyflawni hynny.
“Oherwydd llwyddiant y prosiect a’r mwynhad gan y myfyrwyr, y flwyddyn academaidd nesaf fel ysgol byddwn yn blaenoriaethu arweinyddiaeth myfyrwyr ar draws yr ysgol. Nid yn unig mewn gwersi Addysg Gorfforol ond ar draws pob pwnc.” (Ysgol uwchradd)
“Datblygodd hyn waith ysgol i ysgol wrth i’r berthynas gryfhau rhwng yr ysgolion cynradd sy’n bwydo drwy ddawns.” (Ysgol uwchradd)
“Mae sesiynau sy’n cael eu cynnal mewn un ysgol wedi cryfhau’r ymdeimlad o undod ac wedi meithrin perthnasoedd cadarnhaol rhwng y plant a’r staff yn y ddwy ysgol..” (Ysgol gynradd)
“Datblygodd y disgyblion eu sgiliau trawsgwricwlaidd drwy ddatblygu ymhellach eu defnydd o’r Gymraeg drwy gymryd rhan yn yr Eisteddfod a dysgu dawns y glocsen.” (Ysgol uwchradd)
Dywedodd pedair ysgol bod y rhaglen wedi cefnogi cynlluniau lles cyffredinol eu hysgolion. Dywedodd un ysgol mai un o flaenoriaethau’r ysgol oedd cynyddu ymgysylltu’r rhieni, ac roedd y cyllid hwn wedi helpu drwy eu galluogi i gynnig dosbarthiadau i oedolion, yn ychwanegol at y ddarpariaeth i ddisgyblion.
Yr effaith ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol
Tynnodd pob ysgol sylw at y ffaith bod y rhaglen, yn eu barn anecdotaidd hwy, wedi arwain at lefelau uwch o weithgarwch corfforol a chyfranogiad mewn chwaraeon. Roedd y sesiynau wedi bod yn llawn ac roedd galw mawr amdanynt; weithiau roedd rhaid i ysgolion drefnu sesiynau ychwanegol i gynyddu capasiti. Drwy’r prosiect peilot, cyflwynwyd gweithgareddau a sesiynau blasu newydd i ddisgyblion, gan roi cyfle iddynt roi cynnig ar rywbeth na fyddent yn debygol o gael mynediad ato fel arall - naill ai oherwydd cost neu ddiffyg mynediad. Arsylwodd rhai
ysgolion ddisgyblion yn trosglwyddo eu sgiliau newydd i’w cyfoedion a phlant iau nad oeddent wedi bod yn y sesiynau, gan drosglwyddo sgiliau a chysyniadau o’r sesiynau i amser nad oedd yn sesiwn. Roedd awgrym yn adlewyrchu’r ysgol bod y peilot wedi cynyddu diddordeb mewn gwirfoddoli ymhlith y disgyblion, gan eu bod bellach eisiau helpu i ddarparu gweithgareddau, yn ogystal â chymryd rhan ynddynt.
Adroddodd ysgolion am y canlynol:
- Lefelau uwch o weithgarwch corfforol a gwell ffitrwydd
- Presenoldeb disgyblion a oedd yn segur yn flaenorol
- Ymgysylltu llwyddiannus disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
- Annog merched sydd wedi ymddieithrio i gymryd rhan ac ailymgysylltu ag addysg gorfforol
- Bechgyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau newydd, fel dawns
O ganlyniad i’r cyfleoedd, roedd sgiliau corfforol yn datblygu a gwelodd ysgolion well safon perfformiad, gan arfogi disgyblion â’r sylfeini a allai eu harwain at lwybrau cynnydd i ddarpariaeth gymunedol. Gall cael profiad cadarnhaol a gwella cymhwysedd corfforol gefnogi gweithgarwch corfforol a chyfranogiad mewn chwaraeon gydol oes, fel yr amlygir gan adlewyrchu’r ysgol hon:
“Mae’r prosiect wedi cael effaith aruthrol ar lefelau chwaraeon a gweithgarwch corfforol disgyblion yr ysgol. Mae gennym blant sy’n cymryd rhan nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol o gwbl. Rydym wedi eu gweld nid yn unig yn cymryd rhan mewn un sesiwn ond mewn llawer, ac mae eu hyder a’u cymhelliant wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Mae’r hyfforddwyr nid yn unig yn dysgu sgiliau iddynt ar gyfer y gweithgaredd, ond maent hefyd yn dysgu sgiliau bywyd iddynt a sut bydd y dewisiadau a wnânt nawr yn effeithio arnynt wrth symud ymlaen mewn bywyd. Maent yn cael eu haddysgu i werthfawrogi’r hyn maent yn ei wneud a’u bod yn gallu cyflawni pethau pan fyddant yn gweithio’n galed a bod ganddynt agwedd gadarnhaol. Mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar lawer o’r disgyblion, ond yn enwedig y rhai segur yn flaenorol. Maent bellach yn cymryd rhan nid yn unig mewn gweithgarwch corfforol yn y rhaglen ond hefyd yn ystod amser y cwricwlwm.” (Ysgol uwchradd)