Meithrin capasiti cymunedol mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol
Un o fanteision y prosiect peilot fu’r gallu i gynnig cyfleoedd newydd i ddarparwyr preifat, timau awdurdodau lleol, a Chyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) i gysylltu â chyfranogwyr posibl. Mewn rhai achosion, mae’r prosiect peilot wedi helpu i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol a pharhaol gyda darparwyr chwaraeon lleol nad oedd ganddynt gyfleusterau addas i gynnig darpariaeth yn y gymuned. Mewn un achos, roedd yn galluogi CRhC i sefydlu clwb cymunedol cynhwysol mewn ysgol gan ddefnyddio cyfleusterau awyr agored a dan do’r ysgol pan oeddent wedi cael anhawster dod o hydi leoliad addas yn rhywle arall. Mae’r CRhC wedi parhau i ddarparu cyfleoedd drwy gydol gwyliau’r haf a’r nod yw cynnal y berthynas yn yr hirdymor.
Mewn un ysgol, mae un o’r darparwyr dawns preifat a ddefnyddiwyd yn ystod y prosiect peilot wedi cysylltu â’r ysgol gyda diddordeb mewn defnyddio’r ysgol fel canolfan i sefydlu clwb newydd ar gyfer y gymuned yn Hydref 2022.
Mae datblygu perthynas gyda grwpiau cymunedol cyfagos eraill ac ysgolion wedi cefnogi’r broses o gael mynediad at ddarparwyr allanol. Er enghraifft, mae ysgolion ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr wedi defnyddio darparwyr yn Lloegr, sy’n fwy tebygol o allu cynnal darpariaeth mewn ardal newydd o Gymru os gallant gynnig darpariaeth ar gyfer sawl grŵp, yn hytrach na theithio ar gyfer un neu ddau sesiwn yr wythnos yn unig. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn wir ym mhob man. Nododd un ysgol gynradd bod gan y clybiau a’r darparwyr chwaraeon lleol yn ei chymuned eu cyfleusterau a’u gofod eu hunain eisoes ac felly ychydig o ddiddordeb oedd ganddynt mewn defnyddio’r ysgol ar gyfer cyflwyno, neu (fel gwirfoddolwyr) darparu sesiynau ychwanegol ar gyfer disgyblion nad oeddent yn mynd i’r clybiau yn y gymuned. Felly, gallai defnyddio adnoddau i uwchsgilio a hyfforddi staff a disgyblion ysgol i helpu i gyflwyno sesiynau fod yn ddull mwy cynaliadwy o fynd i’r afael â bylchau ar gyfer y disgyblion hynny na allant fanteisio ar gynigion yn y gymuned.
Gwella perthnasoedd
Un o’r manteision y tynnwyd sylw atynt gan ysgolion fu sut mae’r prosiect peilot wedi eu galluogi i ymgysylltu â rhieni. Dywedodd wyth o’r 11 ysgol a gwblhaodd y cofnodion dysgu ei fod wedi helpu i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni, a oedd wedi bod yn gefnogol iawn ac weithiau’n cymryd rhan weithredol. Yn ogystal, helpodd y prosiect peilot yr ysgol i gyflwyno delwedd gadarnhaol ac ymgysylltu, nid dim ond gyda’u disgyblion eu hunain a’u teuluoedd, ond â phobl ifanc eraill ac oedolion sy’n byw gerllaw, gan agor yr ysgol fel hwb cymunedol. Dywedodd un ysgol mewn ardal ddifreintiedig bod pobl ifanc o bob rhan o’r ddinas yn dod i’r ysgol gynradd fel man diogel yn seiliedig ar argymhellion gan ffrindiau a theulu. Roedd llawer o’r bobl ifanc a fynychodd y sesiynau yn rhai sy’n cael anawsterau yn yr ysgol, addysg amgen, neu nid ydynt mewn unrhyw addysg. Mewn lleoliad arall, roedd plant o gymuned ynysig (y tu allan i ddalgylch yr ysgol), lle nad oedd llawer yn cael ei gynnig, yn mynychu’r sesiynau peilot yn yr ysgol. Un o’r mecanweithiau a ddefnyddiwyd i feithrin y perthnasoedd hyn fu ymgynghori parhaus â disgyblion a rhieni i helpu i lunio’r ddarpariaeth a lleddfu pryderon:
“Mae ymgysylltu â rhieni wedi ein galluogi i dawelu meddwl rhieni am ddiogelwch eu plentyn wrth fynychu clybiau. Oherwydd ein dalgylch, un pryder i rieni yw diogelwch yn ystod y nosweithiau tywyll. Mae creu ‘cyfeillion’ cerdded a defnyddio’r bws hwyr wedi gwella ein cydlyniant cymunedol wrth i rieni awgrymu eu bod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt a bod yr ysgol yn gefnogol i’w hadborth.” (Ysgol uwchradd)
Cyfrannu at leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
Dywedwyd bod sgil-effeithiau darparu cyfleoedd ychwanegol ar ymddygiad pobl ifanc yn fuddiol iawn i gymunedau. Canfu ysgolion a chymunedau bod y ddarpariaeth ychwanegol yn rhoi opsiwn arall i bobl ifanc, a oedd yn helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol y tu allan i oriau ysgol. Mewn un ysgol, defnyddiodd darparwyr gweithgarwch y sesiynau i liniaru anghytuno rhwng grwpiau lleol yn y gymuned:
“Roedd yn gyfle gwych i’r mentoriaid siarad â phobl ifanc mewn gwahanol grwpiau i siarad drwy’r sefyllfa.” (Ysgol gynradd)
Mewn rhai lleoliadau, gostyngodd nifer y digwyddiadau a gofnodwyd unwaith y dechreuodd y prosiect peilot, fel y nodwyd yn benodol gan un ysgol uwchradd:
“Rydyn ni’n credu bod y prosiect hwn wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned gan fod y plant bellach yn aros yn yr ysgol tan 6pm ac nid ydynt yn hongian o gwmpas y strydoedd gan achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydyn ni hefyd wedi cael adborth cadarnhaol gan lawer o rieni sydd wedi nodi eu bod yn gallu gweld gwelliant yn ymddygiad eu plentyn gartref. Maen nhw [rhieni] hefyd wedi gweld gwelliant yn eu hyder a’u cymhelliant i fod yn yr ysgol. Ar ôl siarad â’r Pennaeth Gweithredol, mae’r Heddlu lleol wedi rhoi gwybod iddo bod y troseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ASBO a gyhoeddwyd yn yr ardal wedi lleihau ers i’r rhaglen fod yn ei lle.” (Ysgol uwchradd)