Y rhaglen ‘Addysg Actif y tu hwnt i’r diwrnod ysgol’
Ym mis Hydref 2021, gwahoddwyd holl ysgolion Cymru, mewn cydweithrediad â’u Harweinwyr Chwaraeon / Hamdden ac Addysg yn yr Awdurdodau Lleol, i gyflwyno Datganiad Mynegi Diddordeb. Wrth gyflwyno eu Datganiad Mynegi Diddordeb, cytunodd yr ysgol a’r awdurdod lleol cefnogol i’r datganiad a ganlyn:
Bydd ysgolion a’r awdurdod lleol cefnogol yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i gefnogi’r dysgu o’r peilot. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth sylfaen, monitro a gwerthuso.
Roedd y meini prawf cynhwysiant ysgolion a bennwyd gan Chwaraeon Cymru fel a ganlyn:
- Ysgolion sy’n gwasanaethu ardaloedd o amddifadedd
- Ysgolion uwchradd, cynradd ac addysg arbennig
- Cymysgedd o leoliadau trefol a gwledig
- Ysgolion sy’n dangos y byddant yn defnyddio cynigion chwaraeon/gweithgarwch corfforol
Roedd yn ofynnol i ysgolion amlinellu cynnig ynghylch sut byddai eu hysgolion yn gweithredu fel lleoliad addysg actif i hwyluso sesiynau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i ddisgyblion, teuluoedd, a’r gymuned ehangach. Roedd yn ofynnol i ysgolion ystyried eu hamgylchedd er mwyn gwneud y cynnig yn gwbl addas i’r gynulleidfa darged a diwallu anghenion lleol. Roedd hyn yn golygu nad oedd unrhyw gynigion yr un fath, ac roedd y ddarpariaeth chwaraeon yn unigol. Roedd yn ofynnol i ysgolion wneud y cynnig chwaraeon yn hygyrch i’r “gymuned”, fodd bynnag, roedd y term yn hunanddiffiniol.
O ganlyniad, gellid diffinio “cymuned” fel naill ai “cymuned yr ysgol” neu’r “gymuned ehangach"
O fewn y labeli hyn, gallai cymuned yr ysgol gyfeirio at ddisgyblion yn unig, neu ddisgyblion a rhieni, a gallai’r gymuned ehangach gyfeirio at ddisgyblion o ysgolion cyfagos, yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd naill ai’n unigol neu drwy glybiau / grwpiau cymunedol lleol.
Y panel llunio rhestr fer a adolygodd y ceisiadau a dewis pa ysgolion oedd yn gymwys i gymryd rhan yn y peilot dan sylw:
- Aelodau o staff Chwaraeon Cymru o dimau amrywiol gan gynnwys: yr Arweinydd Addysg, yr Arweinydd Sylfeini a Chyfranogiad, yr Arweinydd Polisi, Swyddog Awdurdodau Lleol, cynrychiolydd y Tîm Buddsoddi ac aelod o’r Uwch Dîm Arwain
- Tîm Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru
Roedd pob ysgol beilot yn gyfrifol am weithredu’r cynnig chwaraeon a amlinellwyd yn eu cynnig. Roedd y ddarpariaeth chwaraeon i fod yn rhan o drefn arferol yr ysgol ac felly’n cael ei chynnwys o dan brosesau a pholisïau addysg safonol i blant, pobl ifanc ac oedolion gymryd rhan.
Os oedd angen caniatâd, roedd rhaid i ysgolion geisio a storio’r caniatâd yn unol â’u harferion arferol. Roedd pwy oedd yn mynychu’r sesiynau a drefnwyd yn unol â chyfarwyddyd yr ysgol; nid Chwaraeon Cymru na WIPAHS.