Mae ysgolion yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel lleoliad a all ddylanwadu ar ymddygiad plant a’r gymuned ehangach ac sydd â’r potensial i fod yn ffocws i’r gymuned. Mae’r cysyniad o ddefnyddio safle’r ysgol ar gyfer gweithgarwch corfforol mwy buddiol ac ystyrlon sy’n gysylltiedig ag anghenion cymuned yn cyd-fynd ag ethos y cwricwlwm ysgol newydd yng Nghymru. Yn 2022, tynnodd Sefydliad Iechyd y Byd sylw at leoliadau addysg actif fel mecanwaith sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer hyrwyddo gweithgarwch corfforol. Cyn hynny, fodd bynnag, sefydlodd Cymru’r prosiect peilot hwn o drawsnewid ysgolion yn lleoliadau addysg actif drwy’r rhaglen AEBSD yn 2021. Ffocws y peilot hwn oedd agor safleoedd ysgol, y tu hwnt i’r diwrnod ysgol, gan gynnwys gyda’r nos, ar benwythnosau, ac yn ystod gwyliau ysgol, gyda ffocws penodol ar ysgolion sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd difreintiedig neu sydd â demograffeg heriol.
Roedd llawer o’r arferion a’r heriau llwyddiannus y tynnwyd sylw atynt mewn adolygiad o dystiolaeth ryngwladol (Bocs 1) yn gyffredin i’r rhai a nodwyd yn y prosiect peilot hwn.
Mae’n bwysig sicrhau cefnogaeth uwch arweinwyr, er mwyn i’r rhaglen fod yn uchelgeisiol ac i yrru ei gweithredu yn ei flaen. Er mwyn bod yn gynaliadwy, dylai’r rhaglen gael
ei llywio gan yr hyn y mae’r defnyddwyr terfynol eisiau cymryd rhan ynddo a dylai gysylltu â’r gymuned ehangach. Tynnodd ysgolion sylw at yr her o barhau â’r rhaglen o safbwynt cost, yn enwedig y rhai a fuddsoddodd eu cyllid mewn pobl ac nid seilwaith ac offer. Bydd dod o hyd i ffyrdd o barhau i gyflwyno’r rhaglenni hyn yn hollbwysig i’r llwyddiant parhaus.
Trafodir y canfyddiadau yn unol â’r cwestiynau ymchwil a luniwyd gan Chwaraeon Cymru i werthuso’r prosiect peilot hwn ac yng nghyd-destun Gweledigaeth Chwaraeon Cymru ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Y cwestiynau ymchwil oedd:
- Beth sy’n galluogi ysgol i ddod yn lleoliad addysg actif?
- Beth yw effaith ysgol yn dod yn lleoliad addysg actif?
- Yr effaith a gaiff ar y weledigaeth ar gyfer chwaraeon a strategaeth chwaraeon Cymru
- Yr effaith a gaiff ar lefelau gweithgarwch corfforol
- Yr effaith a gaiff ar flaenoriaethau addysg
- Beth all sicrhau bod y dull addysg actif o weithredu’n dod yn gynaliadwy ac yn rhan annatod o gynlluniau datblygu ysgolion?