Roedd y rhan fwyaf o’r ysgolion yn llwyddiannus wrth symud tuag at fod yn lleoliad addysg actif neu ddod yn lleoliad addysg actif. Defnyddiodd yr ysgolion ddulliau gwahanol iawn o fuddsoddi’r cyllid, yn dibynnu ar eu hadnoddau presennol (corfforol a threfnus) a’u rhaglenni gweithgarwch corfforol. Er bod rhai ysgolion angen addasiadau i’r adeiladau (e.e. ystafelloedd newid, systemau diogelwch), roedd eraill yn cyllido cludiant ar gyfer sesiynau ar ôl ysgol, a / neu’n talu costau staff drwy ddarparu oriau ychwanegol i staff presennol neu drwy roi darpariaeth allanol allan ar gontract.
Roedd yr ysgolion yn cydnabod yr angen am ymgynghori â disgyblion a chynulleidfaoedd eraill i lunio’r ddarpariaeth, i’w gwneud yn fwy perthnasol a dymunol i’r gynulleidfa darged. Un mater y tynnwyd sylw ato oedd y ddarpariaeth ar gyfer grwpiau iau oherwydd yr angen am gymarebau staff uwch. Awgrymwyd bod angen sicrhau cyfle cyfartal ar draws yr oedrannau i sicrhau bod y rhaglen yn gynhwysol. Tynnwyd sylw at gynyddu a dechrau cyfathrebu yn gynharach fel gwers a ddysgwyd fel ffordd o hyrwyddo’r sesiynau, gyda’r bwriad o hybu presenoldeb. Yn ogystal, awgrymwyd cyfathrebu swyddogaethau a chyfrifoldebau’r rhai dan sylw fel galluogwr i ddod yn lleoliad addysg actif.
Mae ystyried sut bydd y disgyblion yn teithio i’r sesiynau yn allweddol; er bod rhai disgyblion yn dweud eu bod yn cerdded neu’n rhedeg i’r sesiynau, roedd trefnu darpariaeth deithio, fel bws hwyr, yn cael croeso da gan ddisgyblion. Yn seiliedig ar brofiadau llawer o’r ysgolion, mae’n amlwg bod rhai ysgolion wedi llwyddo i bontio’r bwlch rhwng yr ysgol a phresenoldeb mewn grwpiau chwaraeon cymunedol. Drwy’r rhaglen, mae’r ysgolion wedi cydnabod manteision cydlyniant rhwng ysgolion cyfagos, a all helpu i ddarparu cynigion ategol yn hytrach na chystadleuol.