Y trydydd amcan oedd deall beth all sicrhau bod y dull addysg actif o weithredu’n dod yn gynaliadwy ac yn cael ei ymgorffori mewn cynlluniau datblygu ysgolion. Derbyniodd ysgolion gyllid ar gyfer gweithredu’r rhaglen o fewn un flwyddyn academaidd, ac wedyn mae’n ofynnol iddynt ystyried sut i barhau â’r rhaglen.
O ystyried bod yr holl ddisgyblion a gwblhaodd yr arolwg disgyblion wedi dweud y byddent yn debygol o argymell mynychu sesiynau i rywun, mae’n dangos dyhead gan blant i’r sesiynau barhau. O ystyried lleoliadau heriol llawer o’r ysgolion, mae’n bwysig bod y gweithgareddau diogel ac ysgogol y tu allan i oriau ysgol traddodiadol yn parhau er mwyn peidio â thynnu’n ôl o’r momentwm cadarnhaol a gafwyd. Amlygodd staff yr ysgol hefyd bod staff ysgol eisiau bod yn rhan o’r rhaglen a bod y cydlyniant cymunedol gyda’r gymuned ehangach wedi gwella.
Cydnabu’r ysgolion bod angen cyllid pellach i barhau â’r rhaglen, er bod llawer wedi nodi ffyrdd arloesol (e.e. gwirfoddoli, dull hyfforddi’r hyfforddwr gyda disgyblion) neu y byddant yn dyrannu cyllideb ysgol i’r rhaglen a ddarperir. Dylai awdurdodau lleol weithio gydag ysgolion i ystyried pa adnoddau (ariannol ac mewn nwyddau) y gellir eu darparu i’r ysgolion i helpu. Mewn fforwm ysgol, lle’r oedd y mynychwyr yn cael eu hannog i rannu eu harferion, awgrymwyd y byddai ysgolion sy’n defnyddio’r cyllid i brynu offer a / neu newid seilwaith ffisegol yr ysgol, yn hytrach na thalu am ddarparwyr allanol, yn ei chael yn haws parhau â’r rhaglen.
Gallai gweithio gydag ysgolion i greu pecyn adnoddau ar gyfer sut i ddod yn lleoliad addysg actif a chynnal y lleoliad fod yn fuddiol. Gellid ymgorffori awgrymiadau o gefnogaeth bellach ac awgrymiadau da ar gyfer trawsnewid ysgol.
Un agwedd na chafodd ei hystyried yn y gwerthusiad o’r prosiect peilot, ond y tynnwyd sylw ati yn natganiad mynegi diddordeb un ysgol, oedd y pryder ynghylch yr effaith y byddai’r rhaglen yn ei chael ar y ddarpariaeth bresennol a chyfleoedd sydd eisoes yn y cymunedau (os ydynt yn bodoli). Er enghraifft, mewn ysgol wledig 3 i 18 oed, mynegwyd pryderon ynghylch sut byddai cyfleusterau ysgol newydd yn effeithio ar y ganolfan hamdden. Yn yr achos hwn, lliniarwyd y pryder gan y byddai’r cyfleusterau’n ategu cyfleusterau’r ganolfan hamdden, ond ni fyddai hyn bob amser yn wir. Nid yw rhaglenni’n gweithredu ar eu pen eu hunain, a dylid monitro’r effeithiau ehangach, gan gynnwys rhai nad ydynt yn bwrpasol, lle bo modd. Bydd yn bwysig bod ysgolion a chyfleusterau lleol yn cydweithio, gyda’r ffocws craidd ar ddarparu cyfleoedd gweithgarwch corfforol i gymunedau, i sicrhau bod y rhaglenni o fudd i’r ddwy ochr ac nad ydynt yn niweidiol i’w gilydd, er enghraifft, gostyngiad yn aelodaeth y ganolfan hamdden leol.