Rhoddodd un o arolygon mwyaf y byd o bobl ifanc, Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022, lais i bobl ifanc am chwaraeon a lles yng Nghymru. Mae’r arolwg yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni a’r sector ar lefelau cyfranogiad, ymddygiad ac agweddau.
Eleni, roedd yr arolwg yn bwysicach nag erioed gan ei fod yn rhoi cipolwg amhrisiadwy ar effaith pandemig Covid-19 ar arferion gweithgarwch pobl ifanc.
Diolch i waith caled ysgolion, awdurdodau lleol, ac eraill ar draws y sector addysg a chwaraeon, roeddem yn gallu gwrando ar leisiau dros 116,000 o ddisgyblion, a bron i 950 o athrawon.
Mae dyfnder y dystiolaeth yn golygu y gallwn ni – a’n partneriaid – wneud penderfyniadau mwy gwybodus am adnoddau buddsoddi yn y dyfodol. Gallwn ddadansoddi tueddiadau sy’n dod i’r amlwg a datblygu chwaraeon mewn fformat sy’n ysgogi plant a phobl ifanc heddiw. Mae hefyd yn ein galluogi ni i edrych ar grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac rydym yn defnyddio’r dystiolaeth i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau sy’n atal plant a phobl ifanc rhag cymryd rhan.