Eleni, cymerodd 116,038 o ddisgyblion o 1,000 o ysgolion yng Nghymru ran yn Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru 2022. Mae'r ddogfen hon yn rhannu'r data yn ôl cefndir economaidd-gymdeithasol, gan dynnu sylw at ffigurau a phatrymau allweddol. Mae’r holl ffigurau wedi cael eu talgrynnu.
Yn yr Arolwg Chwaraeon Ysgol, defnyddir chwarteli Prydau Ysgol Am Ddim (PYADd) fel mesur o gefndir economaidd-gymdeithasol. Mae cyfran yr hawlwyr PYADd o bob ysgol yn cael ei chyfrif ac mae'r ysgolion yn cael eu rhannu yn bedwar grŵp cyfartal yn seiliedig ar yr ystod hon o hawlwyr, gyda PYADd1 y lleiaf, a PYADd4 y mwyaf difreintiedig.
Rydym wedi strwythuro hyn o amgylch y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru: ‘Cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon gydol oes’. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon, lle mae pawb yn teimlo y gallant gymryd rhan waeth beth fo'u cefndir chwaraeon, mewn tirlun chwaraeon sy'n ymateb i anghenion pobl ar wahanol adegau yn eu bywyd, i greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol.
Cenedl Actif
Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yw creu cenedl actif. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon. Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad mewn chwaraeon, gan edrych ar amledd, lleoliad a chyfranogiad penodol i chwaraeon.
- Mae gwahaniaeth o 15% rhwng y disgyblion lleiaf difreintiedig (PYADd1) a'r disgyblion mwyaf difreintiedig (PYADd4) o ran cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i'r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau'r Dyfodol 38).
Graff 1: Amledd y cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm, yn ôl chwartel Prydau Ysgol Am Ddim.