Eleni, cymerodd 116,038 o ddisgyblion o 1,000 o ysgolion yng Nghymru ran yn Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru 2022. Mae'r ddogfen hon yn rhannu'r data yn ôl Cefndir Ethnig, gan dynnu sylw at ffigurau a phatrymau allweddol.
Rydym wedi strwythuro hyn o amgylch y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru: ‘Cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon gydol oes’. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon, lle mae pawb yn teimlo y gallant gymryd rhan waeth beth fo'u cefndir chwaraeon, mewn tirlun chwaraeon sy'n ymateb i anghenion pobl ar wahanol adegau yn eu bywyd, i greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol.
Cenedl Actif
Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yw creu cenedl actif. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon. Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad yn ôl amledd, lleoliad a chwaraeon, yn ogystal â gwirfoddoli.
- Mae’r cyfranogiad mewn chwaraeon y tu allan i'r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau'r Dyfodol 38) yn amrywio rhwng disgyblion o gefndiroedd ethnig gwahanol.
Tabl 1: Cyfranogiad mewn chwaraeon y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl cefndir ethnig
Cefndir Ethnig | Cyfranogiad mewn chwaraeon y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos |
Gwyn | 41% |
Grŵp ethnig cymysg neu luosog | 43% |
Asiaidd | 30% |
Du | 38% |
Grŵp ethnig arall | 33% |
- Ar draws pob grŵp ethnig, mae disgyblion yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos nag mewn chwaraeon allgyrsiol.
Tabl 2: Cyfranogiad mewn chwaraeon unwaith yr wythnos o leiaf mewn gwahanol leoliadau, yn ôl cefndir ethnig
Cefndir Ethnig | Cyfranogiad mewn chwaraeon allgyrsiol unwaith yr wythnos o leiaf | Cyfranogiad mewn chwaraeon mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf |
Gwyn | 40% | 58% |
Grŵp ethnig cymysg neu luosog | 42% | 56% |
Asiaidd | 35% | 43% |
Du | 46% | 49% |
Grŵp ethnig arall | 37% | 46% |
- Y prif chwaraeon y mae disgyblion o gefndir ethnig gwyn yn cymryd rhan ynddynt mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yw pêl droed, nofio a rygbi.
- Y prif chwaraeon y mae disgyblion o gefndir ethnig cymysg neu luosog yn cymryd rhan ynddynt mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yw pêl droed, nofio, a rhedeg neu loncian.
- Y prif chwaraeon y mae disgyblion o gefndir ethnig Asiaidd yn cymryd rhan ynddynt mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yw pêl droed, nofio a carate.
- Y prif chwaraeon y mae disgyblion o gefndir ethnig du yn cymryd rhan ynddynt mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yw pêl droed, nofio a phêl fasged.
- Y prif chwaraeon y mae disgyblion o unrhyw gefndir ethnig arall yn cymryd rhan ynddynt mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yw pêl droed, nofio a bocsio.
- Mae 24% o ddisgyblion o gefndir ethnig gwyn, 26% o gefndir ethnig cymysg neu luosog, 19% o gefndir ethnig Asiaidd, 28% o gefndir ethnig du a 23% gydag unrhyw gefndir ethnig arall yn gwirfoddoli neu’n helpu gyda chwaraeon yn yr ysgol neu yn eu cymuned.
Pawb
Mae'r Weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn ystyried eu hunain yn fedrus mewn chwaraeon i bobl sy'n ennill medalau, ar draws yr holl ddemograffeg. Mae'r adran hon yn edrych ar y cyfranogiad o fewn y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol.
Tabl 3: Canran y disgyblion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl cefndir ethnig ac ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.
Gwyn | Du | Asiaidd | Grŵp Ethnig Cymysg neu Luosog | Arall | |
Canolbarth y De | 42% | 38% | 30% | 42% | 32% |
Canolbarth Cymru | 41% | - | - | 38% | - |
Gorllewin Cymru | 43% | 40% | 31% | 46% | 29% |
Gwent | 39% | 38% | 29% | 39% | 38% |
Gogledd Cymru | 40% | 37% | 34% | 47% | 38% |
Gydol Oes
Mae'r Weledigaeth am oes. Mae'n ymateb i anghenion pobl mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywyd. Mae'r adran hon yn edrych ar y galw a'r cymhellion / galluogwyr i wneud mwy o chwaraeon.
- Mae gan 55% o ddisgyblion o gefndir ethnig gwyn, 54% o gefndir ethnig cymysg neu luosog, 65% o gefndir ethnig Asiaidd, 57% o gefndir ethnig du a 62% o unrhyw gefndir ethnig arall alw heb ei fodloni am chwaraeon.
- Y tair prif gamp y mae galw cudd amdanynt ymhlith disgyblion o gefndir ethnig gwyn yw nofio, pêl fasged, a beicio.
- Y tair prif gamp y mae galw cudd amdanynt ymhlith disgyblion o gefndir ethnig cymysg neu luosog yw pêl fasged, nofio a phêl droed.
- Y tair prif gamp y mae galw cudd amdanynt ymhlith disgyblion o gefndir ethnig Asiaidd yw pêl fasged, beicio a badminton.
- Y tair prif gamp y mae galw cudd amdanynt ymhlith disgyblion o gefndir ethnig du yw pêl fasged, nofio, beicio a phêl droed.
- Y tair prif gamp y mae galw cudd amdanynt ymhlith disgyblion o unrhyw gefndir ethnig arall yw pêl fasged, nofio a beicio.
- Mae disgyblion o gefndir ethnig du yn fwy tebygol o feddwl bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach.
TROEDNODYN: Mae galw heb ei fodloni yn cyfeirio at y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, ond eto maent â galw i wneud mwy o chwaraeon.
Tabl 4: Canran y disgyblion sy’n meddwl bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach, yn ôl cefndir ethnig.
Cefndir Ethnig | Canran y disgyblion sy’n meddwl bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach |
Gwyn | 52% |
Grŵp ethnig cymysg neu luosog | 50% |
Asiaidd | 50% |
Du | 58% |
Grŵp ethnig arall | 46% |
- Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 i ddisgyblion ddewis ymatebion i’r cwestiwn ‘Byddwn yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai…’. Y tri phrif ymateb a ddewiswyd gan ddisgyblion o gefndir ethnig gwyn, cymysg neu luosog, Asiaidd, ac unrhyw gefndir ethnig arall oedd ‘Pe bai mwy o gyfleoedd chwaraeon yn gweddu i mi’, ‘Pe bai gen i fwy o amser’ a ‘Pe bawn i’n fwy hyderus’. Y tri phrif ymateb a ddewiswyd gan ddisgyblion o gefndir ethnig du oedd ‘Pe bai mwy o gyfleoedd chwaraeon yn gweddu i mi’, ‘Pe bai gen i fwy o amser’ a ‘Pe bai’n haws eu cyrraedd’.
MWYNHAD Mae’r Weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon. Mae'r adran hon yn edrych ar fwynhad a hyder.
- Ar draws pob cefndir ethnig, mae disgyblion yn mwynhau AG yn fwy na chwaraeon clwb allgyrsiol a chymunedol.
Tabl 5: Mwynhad o chwaraeon mewn gwahanol leoliadau, yn ôl cefndir ethnig
Cefndir Ethnig | Mwynhau AG ‘yn fawr’ | Mwynhau chwaraeon allgyrsiol ‘yn fawr’ | Mwynhau camp mewn clwb cymunedol ‘yn fawr’ |
Gwyn | 57% | 40% | 49% |
Grŵp ethnig cymysg neu luosog | 56% | 40% | 43% |
Asiaidd | 53% | 33% | 33% |
Du | 64% | 45% | 44% |
Grŵp ethnig arall | 54% | 35% | 37% |
- Roedd yr hyder i roi cynnig ar chwaraeon newydd yn amrywio ymhlith y disgyblion o wahanol gefndiroedd ethnig.
Tabl 6: Canran y disgyblion sy’n ‘hyderus iawn’ wrth roi cynnig ar chwaraeon newydd, yn ôl cefndir ethnig.
Cefndir Ethnig | Canran y disgyblion sy’n ‘hyderus iawn’ wrth roi cynnig ar chwaraeon newydd |
Gwyn | 27% |
Grŵp ethnig cymysg neu luosog | 30% |
Asiaidd | 24% |
Du | 41% |
Grŵp ethnig arall | 29% |
- Mae disgyblion o gefndir ethnig du yn fwy tebygol o deimlo bod rhywun ‘bob amser’ yn gwrando ar eu syniadau am AG a chwaraeon ysgol.
Tabl 7: Canran y disgyblion sy’n teimlo bod rhywun ‘bob amser’ yn gwrando ar eu syniadau am AG a chwaraeon ysgol, yn ôl cefndir ethnig.
Cefndir Ethnig | Canran y disgyblion sy’n teimlo bod rhywun ‘bob amser’ yn gwrando ar eu syniadau am AG a chwaraeon ysgol |
Gwyn | 15% |
Grŵp ethnig cymysg neu luosog | 15% |
Asiaidd | 13% |
Du | 19% |
Grŵp ethnig arall | 14% |