Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol, fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon a gweithgarwch.
Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar edrych ar y ‘Galw’ a’r ‘Galw Heb ei Fodloni’ am chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion. Mae'r ffigurau hyn yn dangos lle mae gan weithgareddau y potensial i gynyddu ac, yn ei dro, darparu mwy o gyfleoedd i oedolion eu mwynhau.
5.1 Galw Cenedlaethol
Mae oedolion â ‘Galw’ yn cyfeirio at y rhai a ddywedodd eu bod eisiau gwneud mwy o chwaraeon a / neu weithgarwch. Efallai bod yr oedolion hyn eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol.
Ar draws y 2.5 miliwn o oedolion yng Nghymru, dywedodd 773,000 bod ganddynt alw i gymryd rhan mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol, sef 31% o’r holl oedolion.
Graff 8: Cyfran yr oedolion sydd â galw am o leiaf un math o weithgaredd
Ar draws y categorïau gweithgarwch eang, roedd gan 20% (500,000 o bobl) alw am o leiaf un ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’, roedd gan 10% (260,000 o bobl) alw am o leiaf un gweithgaredd ‘Chwaraeon a / neu Gêm’, ac roedd gan 5% (123,000 o bobl) alw am o leiaf un ‘Gweithgaredd Awyr Agored’.
Mae hyn yn cyfateb i tua 1 miliwn o gyfleoedd ychwanegol ar gyfer cyfranogiad ar draws y boblogaeth o oedolion.
Tabl 9: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o weithgarwch, yn ôl amledd y cyfranogiad.
Canran o Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion
Wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos
43%
328,000
Wedi cymryd rhan 2 waith yr wythnos
10%
79,000
Wedi cymryd rhan 1 waith yr wythnos
11%
82,000
Wedi cymryd rhan llai nag unwaith yr wythnos
37%
281,000
Ymhlith oedolion sydd â galw am chwaraeon, cymerodd 43% ran, ar gyfartaledd, deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ystod y pedair wythnos flaenorol. I'r gwrthwyneb, roedd 37% o oedolion oedd â galw wedi cymryd rhan lai nag unwaith yr wythnos ar gyfartaledd, neu ddim o gwbl, yn ystod y pedair wythnos flaenorol.
5.2 Daearyddiaeth
Tabl 10: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol, yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.
Canran o Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion
Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol
Gogledd Cymru
30%
165,000
Canolbarth Cymru
33%
55,000
Gorllewin Cymru
27%
156,000
Canolbarth y De
35%
265,000
Gwent
28%
132,000
Dwysedd Poblogaeth
Trefol
32%
529,000
Gwledig
29%
244,000
Cyfanswm Cymru
31%
773,000
Canolbarth y De oedd â'r gyfran uchaf o oedolion â galw am o leiaf un math o chwaraeon / gweithgarwch corfforol (35%), sef 265,000 o oedolion. Mae cyfran yr oedolion sydd â galw yng Nghanolbarth y De yn sylweddol uwch na Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, Gorllewin Cymru a Gwent.
Ymhellach, roedd cyfran yr oedolion â galw yng Ngorllewin Cymru a Gwent yn sylweddol is o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 31%.
Yn ogystal, roedd nifer yr oedolion sydd â galw am o leiaf un math o chwaraeon / gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd Trefol yn fwy na dwbl yr hyn a geir mewn ardaloedd Gwledig, gan gynrychioli cyfran ystadegol wahanol o alw rhwng poblogaethau â nodweddion dwysedd amrywiol.
Tabl 11: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):
Canran o Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
C1 (20% mwyaf difreintiedig)
28%
113,000
C2
27%
126,000
C3
31%
164,000
C4
30%
168,000
C5 (20% lleiaf difreintiedig)
35%
202,000
Cyfanswm Cymru
31%
773,000
Mae Tabl 11 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion oedd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn erbyn ei gilydd.
Roedd gwahaniaeth sylweddol o 7 pwynt canran yng nghyfran yr oedolion a oedd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hyn yn wahaniaeth o 89,000 o oedolion.
5.3 Oedrannau
Graff 9: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl Grŵp Oedran
Yn gyffredinol, mae cyfran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn gostwng gydag oedran. Roedd y rhai rhwng 16 i 24 oed, 25 i 34 oed, 35 i 44 oed, a 45 i 54 oed yn fwy tebygol o adrodd am alw i gymryd rhan o gymharu â’r rhai 55 i 64 oed, 65 i 74 oed a 75+ oed.
5.4 Demograffeg
Tabl 12: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw i wneud mwy o un math o chwaraeon neu weithgarwch corfforol o leiaf.
Canran o Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion
Rhyw:
Benywod
32%
382,000
Gwrywod
30%
390,000
Ethnigrwydd:
Gwyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati)
30%
697,000
Gwyn – Arall
40%
26,000
Unrhyw Grŵp Ethnig arall
44%
49,000
Salwch, Anabledd neu Lesgedd
 salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog
28%
341,000
Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog
32%
430,000
Amddifadedd
Byw mewn amddifadedd materol
31%
89,000
Ddim yn byw mewn amddifadedd materol
31%
684,000
Yr Iaith Gymraeg
Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36)
33%
94,000
Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd
30%
678,000
Cyfanswm Cymru
31%
773,000
Mae Tabl 12 yn dangos cyfran yr oedolion a ddywedodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl nodweddion demograffig.
Rhwng y grwpiau ethnigrwydd eang, roedd y rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Gwyn – Arall’, ac ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’ yn fwy tebygol o adrodd bod ganddynt alw am o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol. Roedd gan y ddau grŵp yma fwy o alw am fwy o weithgarwch o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Gwyn – (Cymreig, Seisnig, Prydeinig, ac ati)’
Ymhellach, roedd y rhai na ddywedodd bod ganddynt salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog yn fwy tebygol o adrodd am alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai oedd â salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog.
I’r gwrthwyneb, ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau rhwng Gwrywod a Benywod, y rhai sy’n byw ac nad ydynt yn byw mewn amddifadedd materol, a’r rhai sy’n siarad Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg bob dydd.
5.5 Iechyd a Lles a Hunanadroddir
Tabl 13: Nifer a chanran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl ymatebion i gwestiynau iechyd a lles.
Canran o Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion
Iechyd Cyffredinol
Da iawn neu dda
32%
587,000
Gweddol
29%
142,000
Gwael neu wael iawn
21%
44,000
Unigrwydd
Ddim yn unig
24%
177,000
Unig weithiau
33%
484,000
Unig
35%
111,000
Boddhad gyda bywyd
Mawr iawn
27%
214,000
Mawr
33%
407,000
Canolig
32%
111,000
Isel
30%
39,000
Hapusrwydd Cyffredinol
Mawr iawn
27%
263,000
Mawr
33%
325,000
Canolig
34%
122,000
Isel
33%
63,000
Gorbryder Cyffredinol
Isel iawn
27%
292,000
Isel
34%
174,000
Canolig
33%
130,000
Mawr
34%
176,000
Graddfa gyffredinol y teimlad bod y pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil
Mawr iawn
28%
268,000
Mawr
32%
369,000
Canolig
34%
101,000
Isel
31%
32,000
Ag ymdeimlad o gymuned (perthyn; gwahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu, trin gyda pharch)
Oes
29%
451,000
Nac oes
34%
296,000
Cyfanswm Cymru
31%
773,000
Mae Tabl 13 yn dangos sut ymatebodd pobl sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol i gwestiynau iechyd a lles a hunanadroddir.
Roedd y rhai a ddywedodd bod eu hiechyd cyffredinol yn ‘Dda Iawn neu Dda’ yn fwy tebygol o fod â galw am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod yn dioddef o iechyd ‘Drwg neu wael iawn’.
Roedd cyfraddau’r galw ar draws y grwpiau a ymatebodd i ‘Boddhad Bywyd Cyffredinol’ a ‘Hapusrwydd Cyffredinol’ yn gymysg. Roedd y rhai a nododd bod ganddynt hapusrwydd cyffredinol 'Isel' neu 'Ganolig', ochr yn ochr â'r rhai a nododd 'Isel', Canolig' neu 'Mawr' am Foddhad mewn Bywyd yn llawer mwy tebygol o fod â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â'r rheini a adroddodd hapusrwydd 'Mawr Iawn' a boddhad mewn bywyd.
Roedd y rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Unig’ neu’n ‘Unig Weithiau’ yn fwy tebygol o fod â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod ‘Ddim yn Unig’.
Ymhellach, roedd cyfran yr oedolion â galw am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn uwch ymhlith oedolion a nododd lefelau ‘Uchel’ o orbryder cyffredinol o gymharu â’r rhai a nododd orbryder cyffredinol ‘Isel Iawn’.
Roedd cyfran yr oedolion a oedd â galw am fwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol yn ystadegol debyg ar draws y grwpiau ymateb ‘Graddfa gyffredinol y teimlad bod y pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil’.
Yn olaf, roedd y rhai nad oes ganddynt ymdeimlad o gymuned yn fwy tebygol o adrodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â'r rhai sydd ag ymdeimlad o gymuned.
5.6 Fforddiadwyedd Bwyd, Sefyllfa Byw, a Mynediad i Gerbydau.
Graff 10: Canran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl fforddiadwyedd bwyd
Mae Graff 10 yn cyflwyno cyfran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol yn ôl cwestiynau fforddiadwyedd bwyd
Roedd y rhai a ddywedodd eu bod wedi cael pryd o fwyd gyda’r hyn oedd yn cyfateb i gig / opsiwn llysieuol bob yn ail ddiwrnod o leiaf yn llai tebygol o adrodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o’u cymharu â’r rhai a oedd wedi cael prydau llai neu wedi hepgor prydau bwyd, neu wedi cael diwrnod yn ystod y pythefnos blaenorol heb bryd o fwyd sylweddol.
Graff 11: Canran yr oedolion sydd â galw am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl mynediad i gerbydau.
Fel y dangosir yng Ngraff 11, roedd y rhai sydd â defnydd o gar neu fan yn fwy tebygol o adrodd bod ganddynt alw am chwaraeon / gweithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai nad oes ganddynt ddefnydd o gerbyd.
5.7 Galw Heb ei Fodloni
At ddibenion yr adroddiad hwn, mae’r rhai sydd â ‘Galw Heb ei Fodloni’ yn cyfeirio’n benodol at y rhai nad oeddent wedi cymryd rhan mewn camp / gweithgaredd eisoes, ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny yn y dyfodol.
Yn 2021-22, dywedodd 44% neu 1,104,000 o oedolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Fodd bynnag, dywed 20% o'r oedolion hyn eu bod eisiau cymryd rhan mewn o leiaf un math o chwaraeon neu weithgarwch corfforol. Mae hyn yn cynrychioli 224,000 o bobl, neu 9% o gyfanswm y boblogaeth o oedolion yng Nghymru.
Graff 12: Nifer yr oedolion nad ydynt eto'n cymryd rhan mewn Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau a / neu Weithgareddau Awyr Agored, ond sy'n dweud yr hoffent wneud hynny.
Mae Graff 12 yn dangos bod 183,000 o oedolion yn 2021-22 na chymerodd ran mewn unrhyw ‘Weithgaredd Ffitrwydd’ ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny. Ymhellach, dywedodd 191,000 o oedolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw ‘Chwaraeon neu Gemau’, ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny. Yn olaf, dywedodd 101,000 o oedolion nad oeddent yn cymryd rhan mewn Gweithgaredd Awyr Agored, ond yr hoffent wneud hynny.
Yn gyffredinol, mae hyn yn cyfateb i bron i hanner miliwn o gyfleoedd mewn chwaraeon ymhlith oedolion, oedd eto i’w cyflawni yn ystod 2021-22.
Tabl 14: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw heb ei fodloni am weithgarwch, yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.
Oedolion â Galw Heb Ei Fodloni (%)
Oedolion â Galw Heb Ei Fodloni
Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol
Gogledd Cymru
8%
44,000
Canolbarth Cymru
10%
17,000
Gorllewin Cymru
9%
49,000
Canolbarth y De
11%
79,000
Gwent
8%
36,000
Dwysedd Poblogaeth
Trefol
10%
161,000
Gwledig
7%
64,000
Cyfanswm Cymru
9%
224,000
Canolbarth y De oedd â'r gyfran uchaf o oedolion â galw heb ei fodloni am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o ystyried cyfanswm yr oedolion yn y rhanbarth hwn. Mae cyfradd y galw heb ei fodloni yng Nghanolbarth y De yn uwch nag yng Ngogledd Cymru a Gwent. Mae Tabl 14 yn dangos bod llawer mwy o oedolion â galw heb ei fodloni yng Nghanolbarth y De na sydd mewn rhannau eraill o Gymru. Er enghraifft, er bod y gyfradd yn debyg i gyfradd Canolbarth Cymru, mae nifer gwirioneddol yr oedolion sydd â galw heb ei fodloni yng Nghanolbarth y De fwy na 4 gwaith yn fwy.
Ymhellach, nododd cyfran uwch o oedolion o ardaloedd trefol alw heb ei fodloni am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol na mewn ardaloedd gwledig. Hefyd, mae tua 2.5 gwaith y nifer o oedolion â galw heb ei fodloni yn byw mewn ardaloedd trefol o gymharu ag ardaloedd gwledig.