Mae'r weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn gweld eu hunain fel rhai medrus mewn chwaraeon i'r rhai sy'n ennill medalau.
Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad ac amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl daearyddiaeth a grwpiau demograffig yng Nghymru. Mae’r ffigurau hyn yn helpu i edrych ar y tebygrwydd neu’r gwahaniaethau rhwng y grwpiau hyn i sicrhau bod manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cyrraedd pawb ledled Cymru.
3.1 Daearyddiaeth
Tabl 1: Cyfranogiad mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol**, a Dwysedd Poblogaeth.
Canran o Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion
Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol
Gogledd Cymru
58%
319,000
Canolbarth Cymru
52%
86,000
Gorllewin Cymru
52%
299,000
Canolbarth y De
58%
436,000
Gwent
56%
265,000
Dwysedd Poblogaeth
Trefol
56%
Gwledig
55%
Cyfanswm Cymru
56%
1,405,000
Mae Tabl 1 yn dangos nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl ardal y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol (PChRh), ac yn ôl ardaloedd gwledig a threfol.
Yn 2021-22, Gogledd Cymru a Chanolbarth y De oedd â’r gyfran uchaf o oedolion yn cymryd rhan mewn o leiaf un gamp / gweithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol (58%). Yng Nghanolbarth y De, roedd y gyfran hon yn cynrychioli 436,000 o oedolion – y ffigur uchaf a adroddwyd ar gyfer ‘Unrhyw Gyfranogiad’ yn 2021-22.
Roedd y ffigurau ar gyfer Gogledd Cymru a Chanolbarth y De yn uwch na’r ffigurau ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru. Roedd ffigurau Gwent yn debyg i'r cyfartaledd cenedlaethol.
Yn ogystal, er bod nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn ardaloedd Trefol tua dwbl yr hyn a geir mewn ardaloedd Gwledig, roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn Ardaloedd Trefol a Gwledig yn debyg, gyda gwahaniaeth o ddim ond 1 pwynt canran.
Tabl 2: Cyfranogiad mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD):
Canran o Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
C1 (20% mwyaf difreintiedig)
43%
173,000
C2
51%
239,000
C3
56%
291,000
C4
59%
326,000
C5 (20% lleiaf difreintiedig)
66%
377,000
Cyfanswm Cymru
56%
1,405,000
Mae Tabl 2 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn unrhyw chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn erbyn ei gilydd.
Roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn unrhyw chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn sylweddol is ymhlith y rhai a oedd yn byw yn yr 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig (C1) yng Nghymru. Roedd gwahaniaeth o 23 pwynt canran yng nghyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hwn yn wahaniaeth o tua 204,000 o oedolion.
Tabl 3: Cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol, a Dwysedd Poblogaeth
Canran o Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion
Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol
Gogledd Cymru
35%
191,000
Canolbarth Cymru
30%
50,000
Gorllewin Cymru
32%
181,000
Canolbarth y De
36%
266,000
Gwent
33%
155,000
Dwysedd Poblogaeth
Trefol
34%
563,000
Gwledig
33%
281,000
Cyfanswm Cymru
34%
843,000
Mae Tabl 3 yn edrych ar nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol, ac yn ôl ardaloedd gwledig a threfol.
Yn 2021-22, Canolbarth y De oedd â’r gyfran uchaf o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos (36%), sy’n cyfateb i 266,000 o oedolion.
Gogledd Cymru a Chanolbarth y De oedd â’r gyfran uchaf o oedolion yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos, gyda’r ffigurau a adroddwyd ar draws Gwent, Gorllewin Cymru a Chanolbarth Cymru yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol. Fodd bynnag, nid oedd y gwahaniaethau yn y ffigurau rhwng y rhanbarthau yn ystadegol arwyddocaol.
Yn ogystal, er bod nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn ardaloedd Trefol tua dwbl yr hyn a geir mewn ardaloedd Gwledig, roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn Ardaloedd Trefol a Gwledig yn debyg, gyda gwahaniaeth o ddim ond 1 pwynt canran.
Tabl 4: Cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):
Canran o Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
C1 (20% mwyaf difreintiedig)
25%
101,000
C2
29%
135,000
C3
33%
170,000
C4
36%
201,000
C5 (20% lleiaf difreintiedig)
42%
236,000
Cyfanswm Cymru
34%
844,000
Mae Tabl 4 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn erbyn ei gilydd.
Roedd cyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn debyg ymhlith y rhai a oedd yn byw yn yr 20% a’r 40% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (h.y., C1 a C2).
Fodd bynnag, roedd y rhai a oedd yn byw yn yr 20% a’r 40% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a oedd yn byw yng Nghwintel 3, Cwintel 4 a Chwintel 5 (lleiaf difreintiedig).
Roedd gwahaniaeth o 17 pwynt canran yng nghyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hwn yn wahaniaeth o 135,000 o oedolion.
III.II Demograffeg
Tabl 5: Cyfranogiad mewn o leiaf un Gamp neu Weithgaredd Corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn ôl (1) Rhyw, (2) Ethnigrwydd, (3) Salwch, Anabledd neu Lesgedd, (4) Amddifadedd Materol, a (5) Defnydd o’r Iaith Gymraeg.
Canran o Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion
Rhyw:
Benywod
52%
659,000
Gwrywod
61%
745,000
Ethnigrwydd:
Gwyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati)
56%
1,295,000
Gwyn – Arall
61%
39,000
Unrhyw Grŵp Ethnig arall
63%
70,000
Salwch, Anabledd neu Lesgedd
 salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog
42%
486,000
Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog
68%
916,000
Amddifadedd
Byw mewn amddifadedd materol
37%
106,000
Ddim yn byw mewn amddifadedd materol
58%
1,299,000
Yr Iaith Gymraeg
Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36)
63%
183,000
Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd
Mae Tabl 5 yn cyflwyno data cyfranogiad yn ôl gwahanol grwpiau demograffig yng Nghymru.
Yn 2021-22, roedd benywod yn llai tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â Gwrywod, gyda gwahaniaeth o 11 pwynt canran.
Rhwng y grwpiau ethnigrwydd eang, roedd y rhai o ‘Gwyn – Arall’, ac ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’ yn fwy tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y 4 wythnos flaenorol.
Roedd yr oedolion a ddywedodd bod ganddynt salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog yn llai tebygol o fod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r rhai hebddynt, gyda gwahaniaeth o 26 pwynt canran.
Roedd yr oedolion a oedd yn byw mewn amddifadedd materol gryn dipyn yn llai tebygol hefyd o nodi eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol, gyda gwahaniaeth o 21 pwynt canran.
Yn olaf, ymhlith y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, dywedodd cyfran sylweddol uwch eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd, gyda gwahaniaeth o 8 pwynt canran.
Tabl 6: Cyfranogiad mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl (1) Rhyw, (2) Ethnigrwydd, (3) Salwch, Anabledd neu Lesgedd, (4) Amddifadedd Materol, a (5) Defnydd o’r Iaith Gymraeg
Canran o Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion
Rhyw:
Benywod
30%
380,000
Gwrywod
38%
463,000
Ethnigrwydd:
Gwyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati)
33%
779,000
Gwyn – Arall
36%
23,000
Unrhyw Grŵp Ethnig arall
38%
42,000
Salwch, Anabledd neu Lesgedd
 salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog
25%
289,000
Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog
41%
552,000
Amddifadedd
Byw mewn amddifadedd materol
19%
54,000
Ddim yn byw mewn amddifadedd materol
36%
790,000
Yr Iaith Gymraeg
Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36)
40%
116,000
Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd
33%
727,000
Cyfanswm Cymru
34%
844,000
Mae Tabl 6 yn dangos bod Benywod, yn 2021-22, yn llai tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â Gwrywod, gyda gwahaniaeth o 9 pwynt canran.
Rhwng y grwpiau ethnigrwydd eang, roedd y rhai o ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’ yn fwy tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol, o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Gwyn Prydeinig’. Fodd bynnag, nid oedd y gwahaniaethau hyn yn ystadegol arwyddocaol, ac felly dylid eu trin fel rhai tebyg ar draws y grwpiau.
Roedd yr oedolion a oedd yn adrodd am salwch hirsefydlog, anabledd neu lesgedd yn llai tebygol o fod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai hebddynt, gyda gwahaniaeth o 16 pwynt canran.
Roedd yr oedolion a oedd yn byw mewn amddifadedd materol gryn dipyn yn llai tebygol hefyd o adrodd eu bod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos, gyda gwahaniaeth o 17 pwynt canran.
Yn olaf, ymhlith y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, dywedodd cyfran uwch o oedolion eu bod yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd, gyda gwahaniaeth o 7 pwynt canran.