Mae'r weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn gweld eu hunain fel rhai medrus mewn chwaraeon i'r rhai sy'n ennill medalau.
Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad ac amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl daearyddiaeth a grwpiau demograffig yng Nghymru.
Mae’r ffigurau hyn yn helpu i edrych ar y tebygrwydd neu’r gwahaniaethau rhwng y grwpiau hyn i sicrhau bod manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cyrraedd pawb ledled Cymru.
3.1 Daearyddiaeth
Tabl 1: Cyfranogiad mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol, a Dwysedd Poblogaeth.
Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol 5 | Canran o oedolion | Nifer yr Oedolion |
Gogledd Cymru | 62% | 349,000 |
Canolbarth Cymru | 54% | 92,000 |
Gorllewin Cymru | 60% | 340,000 |
Canolbarth y De | 64% | 477,000 |
Gwent | 57% | 269,000 |
Dwysedd Poblogaeth 6 | ||
'Trefol' | 60% | 1,007,000 |
'Gwledig' | 61% | 521,000 |
Cyfanswm Cymru 7 | 60% | 1,528,000 |
Mae Tabl 1 yn dangos nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl ardal y
Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol (PChRh), ac yn ôl ardaloedd ‘Gwledig’ a ‘Threfol’.
Yn 2022-23, Canolbarth y De oedd â’r gyfran uchaf o oedolion yn cymryd rhan mewn o leiaf un gamp / gweithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol (64%) yn cynrychioli 477,000 o oedolion.
5Mae gwybodaeth am y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol ar gael yma. Mae Atodiad 7.2 yn darparu manylion yr Awdurdodau Lleol ym mhob Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.
6 Mae diffiniad o Ddwysedd Poblogaeth ar gael yma
7 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad
Tabl 2: Cyfranogiad mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru | Canran o oedolion | Nifer yr Oedolion |
Cwintel 1 (20% mwyaf difreintiedig) | 53% | 223,000 |
Cwintel 2 | 56% | 267,000 |
Cwintel 3 | 61% | 318,000 |
Cwintel 4 | 62% | 342,000 |
Cwintel 5 (20% lleiaf difreintiedig) | 68% | 378,000 |
Cyfanswm Cymru 8 | 60% | 1,528,000 |
Mae Tabl 2 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn unrhyw chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn erbyn ei gilydd.
Roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol ar ei isaf ymhlith y rhai a oedd yn byw yn yr 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig (Cwintel 1) yng Nghymru. Roedd gwahaniaeth o 15 pwynt canran rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r gwahaniaeth hwn yn cyfateb i tua 154,000 o oedolion.
⁸Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau yn y cyflwyniad
O gymharu â 2021-22, cynyddodd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol ymhlith y rhai a oedd yn byw yn 20% uchaf yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (Cwintel 1) o 10 pwynt canran. O ganlyniad, mae'r bwlch cyfranogiad rhwng y cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig wedi lleihau.
Tabl 3: Cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol, a Dwysedd Poblogaeth.
Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol 9 | Canran o Oedolion | Nifer yr Oedolion |
Gogledd Cymru | 41% | 230,000 |
Canolbarth Cymru | 33% | 56,000 |
Gorllewin Cymru | 38% | 219,000 |
Canolbarth y De | 43% | 325,000 |
Gwent | 33% | 156,000 |
Dwysedd Poblogaeth 10 | ||
'Trefol' | 40% | 659,000 |
'Gwledig' | 38% | 327,000 |
Cyfanswm Cymru 11 | 39% | 986,000 |
Mae Tabl 3 yn edrych ar nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol, ac yn ôl ardaloedd ‘Gwledig’ a ‘Threfol’.
Yn 2022-23, Canolbarth y De oedd â’r gyfran uchaf o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos (43%), sy’n cyfateb i 325,000 o oedolion.
O gymharu â’r ffigurau a adroddwyd yn 2021-22, dangosodd Canolbarth y De, Gogledd Cymru, a Gorllewin Cymru gyfrannau uwch o oedolion yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos, tra bo’r ffigurau ar gyfer Gwent a Chanolbarth Cymru yn parhau i fod yn debyg i’r rhai a adroddwyd yn 2021-22, ac yn parhau i ostwng yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Yn ogystal, er bod nifer yr oedolion a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos mewn ardaloedd ‘Trefol’ tua dwbl yr hyn a geir mewn ardaloedd ‘Gwledig’, roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn Ardaloedd ‘Trefol’ a ‘Gwledig’ deirgwaith neu fwy yr wythnos yn debyg.
9 Mae gwybodaeth am y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol ar gael yma. Mae Atodiad 7.2 yn darparu manylion yr Awdurdodau Lleol ym mhob Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.
10 Mae diffiniad o Ddwysedd Poblogaeth ar gael yma
11 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad.
Tabl 4: Cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru | Canran o oedolion | Nifer yr oedolion |
Cwintel 1 (20% mwyaf difreintiedig) | 34% | 141,000 |
Cwintel 2 | 36% | 171,000 |
Cwintel 3 | 40% | 208,000 |
Cwintel 4 | 40% | 220,000 |
Cwintel 5 (20% lleiaf difreintiedig) | 44% | 246,000 |
Cyfanswm Cymru 12 | 39% | 986,000 |
Mae Tabl 4 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Fel y disgrifir uchod, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn erbyn ei gilydd.
Roedd cyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn debyg ymhlith y rhai a oedd yn byw yn yr 20% a’r 40% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (h.y., Cwintel 1 a Chwintel 2).
Fodd bynnag, roedd y rhai a oedd yn byw yn yr 20% a’r 40% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a oedd yn byw yng Nghwintel 3, Cwintel 4 a Chwintel 5 (llai difreintiedig i leiaf difreintiedig ).
Roedd gwahaniaeth o 11 pwynt canran yng nghyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hwn yn wahaniaeth o 40,000 o oedolion.
Mae cyfran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos wedi cynyddu yn y cymunedau mwyaf difreintiedig (Cwintel 1) o 25% yn 2021-22 i 34% yn 2022-23. Roedd y newid hwn yn fwy na’r newid a welwyd ar gyfer Cwintel 2, Cwintel 3, Cwintel 4, a C5 ers 2021-22.
3.2 Demograffeg
Tabl 5: Cyfranogiad mewn o leiaf un Gamp neu Weithgaredd Corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn ôl (1) Rhyw, (2) Ethnigrwydd, (3) Salwch, Anabledd neu Lesgedd, (4) Amddifadedd Materol, a (5) Defnydd o’r Iaith Gymraeg.
Rhyw | Canran o oedolion | Nifer yr oedolion |
Benywod | 57% | 728,000 |
Gwrywod | 64% | 797,000 |
Ethnigrwydd | ||
Gwyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a Phrydeinig) |
60% |
1,401,000 |
Gwyn Arall (Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig, neu unrhyw gefndir Gwyn arall) |
64% |
41,000 |
Unrhyw Grŵp Ethnig Arall (Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, Asiaidd, Asiaidd Cymreig, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog) |
68% |
86,000 |
Salwch, Anabledd neu Lesgedd | ||
 salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 49% | 585,000 |
Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 72% | 928,000 |
Amddifadedd | ||
Byw mewn amddifadedd materol | 49% | 192,000 |
Ddim yn byw mewn amddifadedd materol | 63% | 1,336,000 |
Yr Iaith Gymraeg | ||
Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36) | 67% | 180,000 |
Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd | 60% | 1,348,000 |
Cyfanswm Cymru13 | 60% | 1,528,000 |
Mae Tabl 5 yn cyflwyno data cyfranogiad yn ôl gwahanol grwpiau demograffig yng Nghymru.
Roedd benywod yn llai tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â gwrywod, gyda gwahaniaeth o 8 pwynt canran.
Rhwng grwpiau ethnigrwydd eang, y rhai a nododd eu hethnigrwydd fel ‘Gwyn’ oedd â’r lefelau cyfranogiad isaf. Y rhai o ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’ oedd fwyaf tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y 4 wythnos flaenorol. O archwilio ymhellach, roedd tueddiadau ychwanegol o fewn y grŵp eang ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’, gan mai’r rhai a nododd eu hethnigrwydd fel ‘Grwpiau Ethnig Cymysg neu Luosog’ oedd â’r lefel cyfranogiad uchaf (82%); 22 pwynt canran yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Roedd oedolion a ddywedodd bod ganddynt salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog yn llai tebygol o fod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r rhai heb unrhyw salwch, anabledd neu lesgedd, gyda gwahaniaeth o 23 pwynt canran. Ymhellach, roedd y rhai a ddywedodd eu bod wedi’u cyfyngu gan eu salwch, eu hanabledd neu eu llesgedd yn llai tebygol hyd yn oed o fod wedi cymryd rhan o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol, gyda 42% (385,000) o oedolion wedi cymryd rhan.
Roedd oedolion a oedd yn byw mewn amddifadedd materol yn llai tebygol hefyd o adrodd eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r rhai nad oeddent yn byw mewn amddifadedd materol, gyda gwahaniaeth o 14 pwynt canran. Fodd bynnag, cymerodd 86,000 yn fwy o oedolion sy’n byw mewn amddifadedd materol ran yn 2022-23 o gymharu â 2021-22, sy’n awgrymu bod y bwlch cyfranogiad rhwng y rhai mewn amddifadedd materol, a’r rhai nad ydynt, wedi lleihau.
Yn olaf, ymhlith y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, dywedodd cyfran uwch eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd, gyda gwahaniaeth o 7 pwynt canran.
Tabl 6: Cyfranogiad mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl (1) Rhyw, (2) Ethnigrwydd, (3) Salwch, Anabledd neu Lesgedd, (4) Amddifadedd Materol, a (5) Defnydd o’r Iaith Gymraeg.
Rhyw | Canran o oedolion | Nifer yr oedolion |
Benywod | 35% | 451,000 |
Gwrywod | 43% | 533,000 |
Ethnigrwydd | ||
Gwyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a Phrydeinig) |
39% |
899,000 |
Gwyn Arall (Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig, neu unrhyw gefndir Gwyn arall) |
42% |
26,000 |
Unrhyw Grŵp Ethnig Arall (Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, Asiaidd, Asiaidd Cymreig, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog) |
47% |
60,000 |
Salwch, Anabledd neu Lesgedd | ||
 salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 30% | 362,000 |
Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 48% | 614,000 |
Amddifadedd | ||
Byw mewn amddifadedd materol | 31% | 120,000 |
Ddim yn byw mewn amddifadedd materol | 41% | 866,000 |
Yr Iaith Gymraeg | ||
Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36) | 46% | 122,000 |
Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd | 38% | 864,000 |
Cyfanswm Cymru¹⁴ | 39% | 986,000 |
14 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad
Mae Tabl 6 yn dangos bod Benywod, yn 2022-23, yn llai tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â Gwrywod, gyda gwahaniaeth o 8 pwynt canran.
Oedolion a nododd eu hethnigrwydd fel ‘Gwyn’ oedd â’r cyfraddau cyfranogiad isaf. Rhwng y grwpiau ethnigrwydd eang, y rhai a ddosbarthwyd fel ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’ oedd fwyaf tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos.
Roedd oedolion a oedd yn adrodd am salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog yn llai tebygol o fod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai heb salwch, anabledd neu lesgedd, gyda gwahaniaeth o 18 pwynt canran. Ymhellach, roedd y rhai a ddywedodd eu bod wedi’u cyfyngu gan eu salwch, eu hanabledd neu eu llesgedd yn llai tebygol hyd yn oed o fod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos, gyda 26% (238,000) yn cymryd rhan yn aml.
Roedd oedolion a oedd yn byw mewn amddifadedd materol yn llai tebygol hefyd o adrodd eu bod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai nad oeddent yn byw mewn amddifadedd materol, gyda gwahaniaeth o 10 pwynt canran.
Er gwaethaf hyn, cymerodd 66,000 yn fwy o bobl a oedd yn byw mewn amddifadedd materol ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn 2022-23 o gymharu â 2021-22.
Yn olaf, ymhlith y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, dywedodd cyfran uwch o oedolion eu bod yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd, gyda gwahaniaeth o 7 pwynt canran.
Mae’r canlyniadau yn yr adran hon yn dangos, er bod y cyfraddau cymryd rhan wedi cynyddu ledled Cymru rhwng 2021-22 a 2022-23, bod gwahaniaethau o hyd yn y cyfraddau hyn o’u harchwilio yn ôl nodweddion poblogaeth penodol.
Er bod tystiolaeth bod y bylchau’n lleihau ar draws blynyddoedd yr arolwg, mae gwahaniaethau sylweddol a dwfn o hyd mewn lefelau cyfranogiad yn ôl rhyw, anabledd, amddifadedd, ethnigrwydd, a’r iaith Gymraeg. Adlewyrchir y ffactorau hyn mewn patrymau cyfranogiad lleol a rhanbarthol, ochr yn ochr â ffactorau ychwanegol fel oedran ac iechyd cyffredinol, sy’n cael sylw yn yr adran nesaf, 4. Gydol Oes.