Skip to main content

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 12 - Ebrill 2024

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Traciwr Gweithgareddau Cymru
  4. Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 12 - Ebrill 2024

Cyfwelodd Savanta 1,094 o ymatebwyr 16+ oed ar-lein rhwng 26ain a 30ain Ebrill 2024. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Roedd yr holl gyfranogwyr yn dod o Gymru ac mae’r data wedi’u pwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhywedd, rhanbarth a statws economaidd-gymdeithasol.

Crynodeb gweithredol

  • Mae ychydig llai na hanner (49%) yr oedolion yng Nghymru yn gwneud gweithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn unol â mis Ionawr 24 (47%) a mis Ebrill 23 (49%). Mae cyfran y bobl sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod yr wythnos (24%) hefyd yn parhau'n sefydlog o gymharu â mis Ebrill 23 (24%). Gostyngodd nifer yr ymatebwyr sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig nad ydynt yn gwneud unrhyw ymarfer corff yn sylweddol o gymharu â mis Ionawr 24 (14% o gymharu â 22%).
  • Y gweithgaredd mwyaf cyffredin y mae oedolion yng Nghymru yn cymryd rhan ynddo o hyd yw cerdded ar gyfer hamdden (62%), er bod y gweithgaredd hwn yn gyfran uwch o gymharu â mis Ebrill 23 (58%). Dychwelodd cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi gwneud gweithgareddau yn y cartref (17%) i’r lefelau cyfranogiad a welwyd ym mis Hydref 23 (17%), ar ôl cynnydd bychan yma ym mis Ionawr 24 (21%), yn ystod stormydd Isha a Jocelyn.
  • Mae'r gyfran sydd ddim yn gwneud ymarfer corff (16%) yn is nag ym mis Ionawr 24 (19%) a mis Ebrill 23 (18%). Dyma'r ffigwr isaf a welwyd ers mis Awst 21 (16%). Cafodd y gostyngiad hwn hwb gan ostyngiad sylweddol yn nifer yr ymatebwyr sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig sydd ddim yn gwneud unrhyw ymarfer corff o gymharu â mis Ionawr 24 (14% o gymharu â 22%). Mae grwpiau sy’n cynnwys ymatebwyr hŷn (55+ oed, 22%) ac ymatebwyr ag anabledd (22%) yn parhau i fod yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn segur.
  • O blith y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y tri mis diwethaf, dywedodd ychydig llai na thri chwarter (74%) eu bod wedi'u cymell gan fod yn gorfforol iach. Dywedodd ychydig dros ddau o bob pump (42%) o’r ymatebwyr eu bod wedi’u cymell i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol i reoli eu pwysau, cymhelliant sydd wedi’i brofi o’r newydd yn Nhon 12.
  • Mae cyfran yr oedolion yng Nghymru sy'n dweud eu bod yn gwneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd meddwl (55%) wedi cynyddu ychydig o gymharu â mis Ionawr 24 (54%), er ei fod yn parhau i fod yn is o gymharu â mis Ebrill 23 (58%). Mae cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn gwneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd corfforol (56%) wedi cynyddu hefyd o gymharu â mis Ionawr 24 (53%) ac yn cynrychioli cynnydd bychan o gymharu â mis Ebrill 23 (55%).
  • Mae costau byw yn parhau i gael effaith negyddol ar allu dau o bob pump (39%) o oedolion i fod yn actif, gydag ychydig llai na thraean (30%) yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ganlyniad – sy’n cynrychioli gostyngiad bychan o fis Ionawr 24 (33%). Mae ymatebwyr sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a’r ardaloedd o amddifadedd canolig yn sylweddol fwy tebygol o ddweud nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, o gymharu â’r rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig (56% o gymharu â 55% o gymharu â 46%).
  • Mae un o bob saith (14%) yn gwirfoddoli ar hyn o bryd, gyda bron i hanner (47%) y grŵp hwn yn dweud bod eu gwirfoddoli mewn chwaraeon yn cynnwys rôl hyfforddi. Roedd ychydig dros chwarter (26%) y rhai sydd wedi rhoi'r gorau i wirfoddoli neu wedi gohirio eu gwirfoddoli yn ystod y 12 mis diwethaf mewn rôl hyfforddi o'r blaen. O blith y rhai sy'n debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf, mae 2 o bob 5 (40%) yn bwriadu ymgymryd â rôl hyfforddi.

 

Gweithgarwch 

Diffinnir gweithgarwch corfforol fel cyfanswm o 30 munud neu fwy o ymarfer corff sy’n ddigon i gynyddu’r gyfradd anadlu. 

Lefelau gweithgarwch

  • Mae ychydig llai na hanner (49%) yr oedolion yng Nghymru yn gwneud gweithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn unol â mis Ionawr 24 (47%) a mis Ebrill 23 (49%).
  • Mae cyfran y bobl sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod yr wythnos (24%) yn parhau i fod yn unol â mis Ionawr 24 (24%) a mis Ebrill 23 (24%).
  • Mae'r gyfran sydd ddim yn gwneud ymarfer corff (16%) yn is nag ym mis Ionawr 24 (19%) a mis Ebrill 23 (18%). Dyma'r ffigwr isaf a welwyd ers mis Awst 21 (16%).
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o fod wedi gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (27% o gymharu ag 20%).
    • Mae ymatebwyr 35 i 54 oed a 55+ oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 16 i 34 oed o beidio â bod wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol (17% a 22% o gymharu ag 8%).
    • Gostyngodd nifer yr ymatebwyr sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig nad ydynt yn gwneud unrhyw ymarfer corff yn sylweddol o gymharu â mis Ionawr 24 (14% o gymharu â 22%).
    • Mae ymatebwyr ag anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai heb unrhyw anabledd o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol o gwbl (22% o gymharu â 14%).
  • Dywedodd bron i naw o bob deg (89%) o ymatebwyr sydd â phlant iau nag 16 oed bod eu plant yn gorfforol actif fel rheol y tu allan i oriau ysgol ar ddiwrnod nodweddiadol yn ystod yr wythnos.
  • Roedd hyn yn cynrychioli adlam bychan ar ôl gweld gostyngiad sylweddol rhwng mis Hydref 23 (92%) a mis Ionawr 24 (84%), gyda’r ffigwr yn cyd-fynd â mis Ebrill 23 (88%).

 

Math ac amledd y gweithgarwch

  • Y gweithgareddau mwyaf cyffredin roedd yr ymatebwyr wedi cymryd rhan ynddynt yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg oedd cerdded ar gyfer hamdden (62%), cerdded i deithio (29%), rhedeg neu loncian (16%) a dosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff o’r cartref (16% ).
    • Mae cyfran y bobl sy'n cerdded ar gyfer hamdden (62%) yn uwch nag ym mis Ebrill 24 (58%).
    • Dychwelodd cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi gwneud gweithgareddau yn y cartref (17%) i’r lefelau cyfranogiad a welwyd ym mis Hydref 23 (17%), ar ôl cynnydd bychan ym mis Ionawr 24 (21%), yn ystod stormydd Isha a Jocelyn .
  • Dywedodd ychydig dros dri o bob pump o’r ymatebwyr eu bod wedi cerdded naill ai ar gyfer hamdden neu i deithio yn rheolaidd (unwaith y mis o leiaf) yn ystod y tri mis diwethaf (66%), dywedodd ychydig yn llai nag un o bob pedwar eu bod wedi mynd i’r gampfa neu ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff (23%), ac roedd ychydig llai nag un o bob pump wedi bod yn rhedeg neu loncian (19%) a nofio (18%).
  • Dywedodd un o bob deg (10%) nad ydynt wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf. Dyma’r ffigwr isaf a welwyd hyd yma ar draws y tonnau, gan gynnwys o gymharu â mis Ebrill 23 (13%).

 

Cyfle a gallu 

  • Mae ychydig llai na thri o bob pedwar (71%) o ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif.
    • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (82% o gymharu â 76% o gymharu â 59%).
    • Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai â chyflwr hirsefydlog neu salwch o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (83% o gymharu â 48%).
    • Mae ymatebwyr sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a’r ardaloedd gydag amddifadedd canolig ychydig yn fwy tebygol o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif, o gymharu â'r rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig (72%% o gymharu â 70% o gymharu â 66%).
  • Mae ychydig yn llai na thri o bob pedwar (73%) o ymatebwyr yn cytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif.
    • Mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif na'r rhai o grwpiau is (C2DE) (78% o gymharu â 67%).
    • Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif (82% o gymharu â 56%).
  • Roedd traean (34%) yr ymatebwyr yn cytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill.
    • Mae pobl 16 i 34 oed a phobl 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (51% o gymharu â 40% o gymharu ag 17%).
    • Mae’r rhai sydd â phlant 15 oed neu iau yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai heb blant o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (48% o gymharu â 26%).

 

Agweddau at weithgarwch 

Mwynhad, pwysigrwydd a hyder             

  • Mae mwy na hanner yr ymatebwyr yn cytuno eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd corfforol (56%) neu i helpu i reoli eu hiechyd meddwl (55%).
    • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl (61% o gymharu â 60% o gymharu â 48%).
  • O blith y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y tri mis diwethaf, dywedodd ychydig dros chwarter (74%) eu bod wedi'u cymell gan fod yn gorfforol iach.
    • Dywedodd ychydig dros ddau o bob pump (42%) o ymatebwyr eu bod wedi’u cymell i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol i reoli eu pwysau, cymhelliant sydd wedi’i brofi o’r newydd yn Nhon 12.
  • Mae mwy na hanner (54%) yr ymatebwyr yn cytuno bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt.
    • Mae hyn yn is nag ym mis Ionawr 24 (57%) a mis Ebrill 23 (60%), gostyngiad a gynorthwywyd gan nifer y merched a ddywedodd eu bod yn mwynhau ymarfer corff (48%) yn gostwng o gymharu â mis Ionawr 24 (53%) a mis Ebrill 23 ( 55%).
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gytuno bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt (60% o gymharu â 48%).
    • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno eu bod yn gweld ymarfer corff yn bleserus a’i fod yn rhoi boddhad iddynt (64% o gymharu â 60% o gymharu â 43%).
    • Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na phobl ag anabledd o gytuno eu bod yn gweld ymarfer corff yn bleserus a’i fod yn rhoi boddhad iddynt (60% o gymharu â 43%).
  • Mae tua dwy ran o dair (67%) o ymatebwyr yn cytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd. 
    • Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na phobl ag anabledd o gytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd (72% o gymharu â 59%).
  • Mae ychydig llai na thri o bob pump (58%) o ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif.
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (66% o gymharu â 50%).
    • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (62% o gymharu â 61% o gymharu â 53%).
    • Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na phobl ag anabledd o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (67% o gymharu â 41%).
  • Mae chwarter (23%) yr ymatebwyr yn cytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
    • Mae ymatebwyr benywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (27% o gymharu ag 20%).
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed (34%) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol na’r rhai 35 i 54 oed (23%) a 55+ oed (16%).
    • Mae ymatebwyr ag anabledd yn sylweddol fwy tebygol na phobl heb anabledd o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (32% o gymharu â 18%).
    • Mae'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn sylweddol llai tebygol o boeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol na'r rhai o ardaloedd ag amddifadedd canolig a'r ardaloedd mwyaf difreintiedig (15% o gymharu â 25% o gymharu â 24%).

 

Hyder mewn lleoliadau 

  • Mae hyder mewn lleoliadau dan do yn parhau i fod yn gyson wrth i effeithiau pandemig Covid-19 sefydlogi, gyda 40% o ymatebwyr yn hyderus mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd (o gymharu â 42% ym mis Ionawr 24) a 30% yn hyderus mewn neuaddau chwaraeon (yr un faint ag ym mis Ionawr 24).
    • Nid oes unrhyw newidiadau nodedig yn lefel yr hyder y mae ymatebwyr yn ei deimlo tuag at unrhyw un o'r lleoliadau a brofwyd.
  • O blith y rhai sydd wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae ychydig dros 1 o bob 5 (21%) yn dweud eu bod wedi defnyddio campfa neu ganolfan ffitrwydd dan do.
    • O blith y rhai sydd wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai o grwpiau is (C2DE) o fod wedi defnyddio campfeydd neu ganolfannau ffitrwydd dan do (26% o gymharu â 14%), pyllau nofio (20% o gymharu â 14%) a chyrtiau dan do (9% o gymharu â 4%).
  • O blith y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch mewn cyfleuster dan do yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd tua naw o bob deg eu bod yn gyfforddus mewn pyllau nofio dan do (92%), campfeydd neu ganolfannau ffitrwydd dan do (90%), a glaswellt / caeau artiffisial dan do (87%), tra bo pedwar o bob pump yn hyderus mewn cyrtiau dan do (80%).

 

Cwestiynau pwnc

Gwirfoddoli 

  • Nid yw bron i hanner yr ymatebwyr (47%) wedi gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis diwethaf, gydag ychydig llai nag un o bob saith (14%) yn gwirfoddoli ar hyn o bryd.
    • Mae’r gwirfoddolwyr presennol yn sylweddol fwy tebygol o fod yn ddynion (18% o gymharu â 10%), 16 i 34 oed (23% o gymharu â 16% o gymharu â 5%), o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) (18% o gymharu â 9%), a bod â phlant (21% o gymharu â 9%)
  • Er bod hanner yr ymatebwyr yn dweud ei bod yn debygol na fyddant yn gwirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf (50%), dywedodd ychydig llai na thraean eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol (30%).
    • Mae pobl 16 i 34 oed (49% o gymharu â 33% o gymharu â 14%) yn sylweddol fwy tebygol o ddweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol, fel y mae pobl sydd â phlant (42% o gymharu â 23%).
  • Mae ychydig llai na hanner (47%) y rhai sy'n gwirfoddoli mewn chwaraeon yn gwneud hynny drwy rôl hyfforddi.
    • O blith yr ymatebwyr sy’n gwirfoddoli mewn chwaraeon ar hyn o bryd, mae’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o wirfoddoli mewn rôl hyfforddi (55% o gymharu â 32%).
  • Roedd ychydig dros chwarter (26%) y rhai sydd wedi rhoi'r gorau i wirfoddoli neu wedi gohirio eu gwirfoddoli yn ystod y 12 mis diwethaf mewn rôl hyfforddi yn flaenorol.
  • O blith y rhai sy'n debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf, mae 2 o bob 5 (40%) yn bwriadu ymgymryd â rôl hyfforddi.

 

Costau byw

  • Mae dau o bob pump o ymatebwyr (39%) yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif.
    • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed (40% o gymharu â 47% o gymharu â 32%) o gytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, fel y mae pobl sydd â phlant (45% o gymharu â 36%).
  • Er bod bron i hanner (49%) yr ymatebwyr yn dweud nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, dywedodd ychydig llai na thraean (30%) eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw.
    • Mae ymatebwyr sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a’r ardaloedd ag amddifadedd canolig yn llawer mwy tebygol o ddweud nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig (56% o gymharu â 55% o gymharu â 46%).
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr 55+ oed (38% a 38% o gymharu â 19%) o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw, fel y mae pobl sydd â phlant (40% o gymharu â 25%).
  • Mae bron i dri o bob deg (27%) o ymatebwyr yn dweud nad yw costau byw cynyddol wedi cael unrhyw effaith ar eu dewis o chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
  • Fodd bynnag, mae tua un o bob pump yn dweud eu bod wedi newid i weithgareddau rhatach / am ddim (21%), yn cymryd rhan mewn llai o weithgareddau y mae’n rhaid talu amdanynt (19%), yn dweud bod eu lefelau gweithgarwch wedi gostwng (18%) ac yn gwario llai ar ddillad / offer chwaraeon (17%).
    • Mae ymatebwyr 55+ oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 16 i 34 oed a 35 i 54 oed o ddweud nad yw costau byw cynyddol wedi cael unrhyw effaith ar eu dewis o chwaraeon a gweithgarwch corfforol (37% o gymharu â 23% ac 19%), tra bo pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn fwy tebygol na phobl 55+ oed o ddweud bod costau byw cynyddol wedi cael effaith ar bob un o'r datganiadau a brofwyd (61% o gymharu â 59% a 34%).
    • Mae pobl sydd â phlant yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai heb blant o ddweud bod costau byw cynyddol wedi cael effaith ar bob un o'r datganiadau a brofwyd (61% o gymharu â 43%).