Skip to main content

Oedran

Taflen Cryno

Mae oedolion iau (16 i 34 oed) yn sylweddol fwy tebygol o fod wedi gwneud rhywfaint o weithgarwch corfforol (h.y. ar 2 i 4 diwrnod) yn ystod yr wythnos flaenorol na phobl 35 i 54 oed ac oedolion hŷn (55+ oed) – 59% [oedolion iau] o gymharu â 47% [35 i 54 oed] o gymharu â 43% [oedolion hŷn].

Mae mwy na hanner yr holl grwpiau wedi cymryd rhan mewn cerdded ar gyfer hamdden yn ystod yr wythnos ddiwethaf, er bod oedolion hŷn a phobl 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol o wneud hynny nag oedolion iau – 52% o gymharu â 63% o gymharu â 69%. Nodyn: mae cynnydd o 7 pwynt canran yn nifer yr oedolion hŷn sy’n cerdded ar gyfer hamdden ers mis Ebrill 23.

Mae cerdded ar gyfer hamdden gyda rhywun arall wedi gostwng 13 pwynt canran ar gyfer oedolion iau ac 11 pwynt canran ar gyfer oedolion hŷn ers mis Ionawr 2024 – 44% o gymharu â 48% o gymharu â 37%.

Mae hyder oedolion hŷn mewn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd wedi gostwng 7 pwynt canran ers mis Ionawr 24, i 21%.

Dywedodd ychydig llai na hanner (49%) yr oedolion iau eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf o gymharu â thua thraean o bobl 35 i 54 oed (33%) a 14% o oedolion hŷn.

Mae 45% o oedolion iau sy’n debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn bwriadu ymgymryd â rôl hyfforddi, gyda 41% o’r bobl 35 i 54 oed yn dweud eu bod yn bwriadu gwneud hynny.

Mae 60% o bobl 35 i 54 oed yn cytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus a’i fod yn rhoi boddhad iddynt, sy’n ostyngiad o 7 pwynt canran ers mis Ebrill 23. Mae 43% o oedolion hŷn yn cytuno ac mae hyn yn ostyngiad o 11 pwynt canran ers mis Ebrill 23.

Mae oedolion iau yn sylweddol fwy tebygol o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill na phobl 35 i 54 oed ac oedolion hŷn – 51% o gymharu â 40% o gymharu â 17%.

Mae 57% o bobl 35 i 54 oed yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd corfforol, sy’n gynnydd o 8 pwynt canran ers mis Ionawr 24.

Mae 74% o oedolion iau yn cytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd, sy’n gynnydd o 7 pwynt canran ers mis Ebrill 2023. Mae 64% o bobl 35 i 54 oed yn cytuno, sy’n ostyngiad o 8 pwynt canran ers mis Ebrill 23.

Mae 49% o bobl 35 i 54 oed yn cytuno bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol o ansawdd uchel, sy’n gynnydd o 10 pwynt canran ers mis Ionawr 24.

Mae oedolion iau a phobl 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod y chwaraeon a’r gweithgareddau corfforol yn eu hardal leol yn fforddiadwy, o gymharu ag oedolion hŷn – 48% o gymharu â 42% o gymharu â 35%.

Mae 61% o oedolion iau yn cytuno eu bod yn gallu cyrraedd chwaraeon a gweithgareddau corfforol lleol sy’n apelio atynt, o gymharu â 60% o bobl 35 i 54 oed a 52% o oedolion hŷn.

Mae pobl 35 i 54 oed yn fwy tebygol na grwpiau oedran eraill o ddweud bod y cynnydd mewn costau byw wedi cael effaith negyddol arnynt – 40% o gymharu â 47% o gymharu â 32%.

Dywed 38% o oedolion iau a phobl 35 i 54 oed eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw, mae hyn o gymharu â 19% o oedolion hŷn.

Roedd pob grŵp oedran yn fwyaf tebygol o adrodd mai ‘bod yn gorfforol iach’ oedd yn eu cymell fwyaf i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Darllen Mwy
Rhywedd
Darllen Mwy
Anabledd
Darllen Mwy
Amddifadedd