Skip to main content

Rhywedd

Taflen Cryno

Dywedodd 27% o ddynion eu bod wedi gwneud ymarfer corff ar y rhan fwyaf o ddyddiau (5+) yn ystod yr wythnos ddiwethaf, o gymharu ag 20% o ferched.

Mae ychydig llai na dwy ran o dair o ferched (66%) wedi cymryd rhan mewn cerdded ar gyfer hamdden yn ystod yr wythnos ddiwethaf, o gymharu â 59% o ddynion.

Mae 35% o ddynion yn cerdded ar gyfer hamdden gyda rhywun arall, sy’n ostyngiad o 10 pwynt canran ers mis Ebrill 23, tra bo 48% o ferched yn cerdded gyda rhywun arall, sy’n ostyngiad o 7 pwynt canran ers mis Ebrill 23.

Mae gwahaniaeth o 12 pwynt canran rhwng dynion yn gweld ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt, o gymharu â merched – 60% [dynion] o gymharu â 48% [merched]. Mae hyn yn ostyngiad o 7 pwynt canran ar gyfer merched ers mis Ebrill 23.

Dywedodd 18% o ddynion eu bod yn gwirfoddoli mewn chwaraeon ar hyn o bryd, o gymharu â 10% o ferched.

Dywedodd ychydig llai na dwy ran o dair o ddynion (66%) bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif, o gymharu â hanner y merched (50%).

Cytunodd 34% o ferched nad ydynt yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar eu pen eu hunain – mae hyn o gymharu â 25% o ddynion.

Mae merched yn sylweddol fwy tebygol o boeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol na dynion – 20% o gymharu â 27%.

Mae merched yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt rwystrau sy’n eu hatal rhag cystadlu mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, o gymharu â dynion. Fel y gwelir isod:

  • Mae dynion (58%) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol na merched (51%).
  • Mae dynion hefyd yn sylweddol fwy tebygol na merched o gytuno bod y chwaraeon a’r gweithgareddau corfforol yn eu hardal leol o ansawdd uchel – 48% o gymharu â 41%.
  • Cytunodd 45% o ddynion bod y cyfleusterau yn eu hardal leol yn fforddiadwy o gymharu â 38% o ferched.
  • Mae 61% o ddynion yn cytuno eu bod yn gallu cyrraedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn lleol sy’n apelio atynt o gymharu â 53% o ferched.
Darllen Mwy
Oedran
Darllen Mwy
Anabledd
Darllen Mwy
Amddifadedd