Skip to main content
  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Traciwr Gweithgareddau Cymru
  4. Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 13 - Gorfennaf 2024

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 13 - Gorfennaf 2024

Cyfwelodd Savanta 1,117 o ymatebwyr 16+ oed ar-lein rhwng 26ain a 30ain Gorffennaf 2024. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Roedd yr holl gyfranogwyr yn dod o Gymru ac mae’r data wedi cael eu pwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhywedd, rhanbarth a statws economaidd-gymdeithasol.

Prif grynodeb

  • Mae canfyddiadau ‘Traciwr Gweithgarwch Cymru’ haf 2024 yn datgelu nifer o dueddiadau cadarnhaol a gwybodaeth am ymddygiadau ac agweddau presennol tuag at ymarfer corff. Mae’r data’n dangos cynnydd mewn lefelau gweithgarwch uchel, gyda 29% o oedolion yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar bum diwrnod neu fwy yr wythnos, sy’n nodi cynnydd nodedig ar y misoedd blaenorol.
  • Mae’r cynnydd hwn yn cyd-fynd â hyder cynyddol ac ymdeimlad o gyfle ymhlith unigolion, gan fod tri o bob pedwar oedolyn (75%) yn teimlo eu bod yn cael y cyfle i fod yn actif, y lefel uchaf i gael ei chofnodi hyd yma.

 

  • Mewn cyferbyniad, dim ond 10% o oedolion a ddywedodd nad oeddent wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf, gan gynnal y gyfradd isaf o anweithgarwch ar draws holl donnau’r arolwg. Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod mwy o bobl yn integreiddio ymarfer corff rheolaidd yn eu bywydau ar hyn o bryd, gyda chymorth gallu ymddangosiadol i fod yn actif, gyda 73% yn cytuno bod ganddynt y gallu i wneud hynny.
  • Mae’r hyder yma’n cael ei adlewyrchu gan y ffaith bod saith o bob deg oedolyn (70%) yn credu bod ymarfer corff rheolaidd yn bwysig iddynt hwy, sef y gyfran uchaf a welwyd ym mhob un o donnau’r arolwg.

 

  • Mae dylanwad digwyddiadau chwaraeon mawr ar weithgarwch corfforol hefyd yn amlwg, gydag un o bob pedwar oedolyn (25%) yn dweud eu bod wedi cael eu hysbrydoli i fod yn fwy actif ar ôl gwylio digwyddiad mawr yn ystod y tri mis diwethaf. O blith yr unigolion hyn, ysbrydolwyd cyfran sylweddol gan Ewro 2024 (22%) neu'r Gemau Olympaidd (20%).
  • Yn galonogol, mae 74% o'r rhai sydd wedi'u cymell gan y digwyddiadau hyn yn bwriadu parhau â'u gweithgarwch corfforol cynyddol am chwe mis o leiaf.

 

  • Wrth ystyried aelodaeth o glybiau chwaraeon, mae 16% o oedolion yn aelodau ar hyn o bryd, gydag ymatebwyr gwrywaidd, grwpiau oedran iau, a phobl o gefndiroedd economaidd gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o gymryd rhan.
  • Mae hyn yn cysylltu â’r farn gymdeithasol ehangach bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hanfodol, gyda 54% o oedolion yn credu ei bod yn bwysig i lywodraeth y DU sydd newydd ei hethol flaenoriaethu’r meysydd hyn.

 

  • Mae gweithgarwch corfforol ymhlith plant yn addawol hefyd ar hyn o bryd, gyda 90% o rieni plant 15 oed neu iau yn dweud bod eu plant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol y tu allan i’r ysgol yn ystod yr wythnos, a chanran uwch fyth, 95%, ar benwythnosau.
  • Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu ystod eang o weithgareddau anffurfiol a ffurfiol (fel cerdded, beicio, mynd ar sgwter, rhedeg, gemau pêl, trampolinio, chwarae actif a dawnsio) ac yn nodi cynnydd ers haf 2023, pan oedd yr un ffigurau yn 85% ac 88% yn y drefn honno. Mae’n gadarnhaol gweld plant ac oedolion yn gwneud y gorau o dywydd a gwyliau’r haf i gadw’n gorfforol actif yn 2024.

 

  • Yn olaf, amlygodd yr arolwg bod mwy na dau o bob pump oedolyn (44%) sydd wedi bod yn actif yn ystod yr wythnos ddiwethaf wedi defnyddio cyfleusterau dan do, sef y gyfradd uchaf a welwyd mewn unrhyw un o donnau’r arolwg. Yn ogystal, mae cyfran yr oedolion sy'n mynychu campfeydd, dosbarthiadau ffitrwydd a sesiynau nofio wedi cynyddu o gymharu â'r misoedd blaenorol, sy'n dangos ymhellach fwy o ymgysylltu â gwahanol fathau o weithgarwch corfforol ar hyn o bryd.