Skip to main content

Agewddau at weithgarwch

Cyfle a gallu

  • Mae ychydig llai na thri o bob pedwar (73%) o’r ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif, sef y sgôr uchaf ar y cyd ar draws pob ton ochr yn ochr a mis Awst 23.
    • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (86% o gymharu ag 80% o gymharu â 59%).
    • Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (84% o gymharu â 53%).
    • Mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif na'r rhai o grwpiau is (C2DE) (82% o gymharu â 64%).
    • Mae ymatebwyr sy'n byw mewn ardaloedd trefol yn fwy tebygol o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif na'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig (75% o gymharu â 69%).
  • Mae tri o bob pedwar (75%) o’r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif, y sgôr uchaf a welwyd ar draws pob ton.
    • Mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod ganddynt y cyfle i fod yn gorfforol actif na’r rhai o grwpiau is (C2DE) (81% o gymharu â 68%).
    • Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif (83% o gymharu â 60%).
  • Mae tri o bob deg (30%) o’r ymatebwyr yn cytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill.
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (39% a 40% o gymharu ag 16%).
    • Mae ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai heb blant yr oedran hwnnw o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (45% o gymharu â 22%).
    • Mae ymatebwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu eraill yn y cartref yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai nad oes ganddynt gyfrifoldebau gofalu o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (41% o gymharu â 30%).

Y gallu i fwynhau, pwysigrwydd a hyder 

  • Mae bron i dri o bob pump o’r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd corfforol (58%) neu i helpu i reoli eu hiechyd meddyliol (59%).
    • Mae’r rhai 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 55+ oed o gytuno eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddyliol (67% a 64% o gymharu â 50%).
  • O blith y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y tri mis diwethaf, mae un o bob pedwar (75%) yn dweud eu bod wedi cael eu cymell gan fod yn gorfforol iach.
  • Mae bron i dri o bob pump (58%) o’r ymatebwyr yn cytuno bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt. Mae hyn yn parhau i fod yn unol â mis Ebrill 24 (54%) a mis Gorffennaf 23 (58%).
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gytuno bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt (63% o gymharu â 53%).
    • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt (67% a 64% o gymharu â 48%).
    • Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt (63% o gymharu â 48%).
  • Mae saith o bob deg (70%) o’r ymatebwyr yn cytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd, y ffigur uchaf a welwyd ar draws pob ton.
    • Mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd na’r rhai o grwpiau is (C2DE) (75% o gymharu â 65%).
    • Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd (75% o gymharu â 60%).
  • Mae ychydig dros dri o bob pump (62%) o’r ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif, sy'n uwch na mis Ebrill 24 (58%).
    • Sbardunwyd y cynnydd hwn yn rhannol gan gynnydd yn nifer yr ymatebwyr benywaidd a ddywedodd fod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (56% ym mis Gorffennaf 24 o gymharu â 50% ym mis Ebrill 24), er bod yr ymatebwyr gwrywaidd yn parhau’n sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gytuno â’r datganiad hwn (69% o gymharu â 56%).
    • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (68% a 64% o gymharu â 57%).
    • Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (70% o gymharu â 46%).
  • Mae ychydig llai nag un o bob pedwar (24%) o’r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
    • Mae ymatebwyr benywaidd yn fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (27% o gymharu â 22%).
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed (32%) yn fwy tebygol o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol na’r rhai 35 i 54 oed a 55+ oed (32% o gymharu â 26% o gymharu â 18%).
    • Mae ymatebwyr ag anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai heb anabledd o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (35% o gymharu â 18%).
    • Mae'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn sylweddol fwy tebygol o boeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol na'r rhai o ardaloedd o amddifadedd canolig a'r ardaloedd lleiaf difreintiedig (30% o gymharu ag 20% a 21%).

Hyder mewn lleoliad

  • Mae’r hyder mewn lleoliadau dan do yn parhau i fod yn sefydlog, gyda 43% o’r ymatebwyr yn hyderus mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd a 33% yn hyderus mewn neuaddau chwaraeon.
    • Dywedodd mwy nag un o bob tri o’r ymatebwyr eu bod yn teimlo’n hyderus ynghylch cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar gaeau glaswellt, cynnydd o gymharu â mis Ebrill 24 (29%) ac yn unol â mis Gorffennaf 23 (34%).
  • O blith y rhai sydd wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywed mwy na dau o bob pump (44%) eu bod wedi defnyddio cyfleuster dan do, y ffigwr uchaf a welwyd ar draws y tonnau hefyd, ac yn uwch nag ym mis Ebrill 24 (40%).
  • O blith y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch mewn cyfleuster dan do yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae tua naw o bob deg yn dweud eu bod yn gyfforddus mewn campfeydd dan do neu ganolfannau ffitrwydd (91%), pyllau nofio dan do (90%) a chaeau glaswellt / artiffisial dan do (87%).
  • Dywed tua naw o bob deg (88%) eu bod yn teimlo'n hyderus mewn cyrtiau dan do, y ffigwr uchaf a welwyd ar draws pob ton.