Skip to main content

Anabledd

Taflen Cryno

Sylwer. pc = pwynt canran

Gwahaniaethau arwyddocaol dethol:

Gweithgarwch yn ystod yr wythnos ddiwethaf:

  • Actif ar 0 diwrnod: 13% [dim anabledd] o gymharu â 21% [cyflwr neu salwch hirsefydlog]
  • Actif ar 3+ diwrnod: 60% o gymharu â 49%
  • Cerdded ar gyfer hamdden: 67% o gymharu â 54%
  • Rhedeg neu loncian: 23% o gymharu â 10%

Gweithgarwch rheolaidd yn ystod y 3 mis diwethaf:

  • Cerdded ar gyfer hamdden neu deithio: 68% o gymharu â 53%
  • Rhedeg neu loncian: 25% o gymharu â 9%

Gwirfoddoli:

  • Yn debygol o wirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf: 36% o gymharu â 29%
  • O blith y rhai sy’n gwirfoddoli ar hyn o bryd, % y rhai sy’n hyfforddi mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd: 41% o’r rhai heb anabledd o gymharu â 59% o'r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog
  • O blith y rhai sy’n debygol o wirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf, % y rhai sy’n debygol o hyfforddi mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf: 38% o gymharu â 46%

Cymhelliant:

  • Rydw i’n teimlo ei bod yn bwysig gwneud ymarfer corff yn rheolaidd: 75% o gymharu â 60%
  • Ymarfer i reoli iechyd corfforol: 61% o gymharu â 53%
  • I fod yn gorfforol iach (% yr oedolion a nododd y rheswm yma fel un o’u 5 prif reswm dros gymryd rhan): 78% o gymharu â 69%

Hyder:

  • Mae gen i’r hyder i fod yn gorfforol actif: 70% o gymharu â 46%
  • Rydw i’n poeni am adael fy nghartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol: 18% o gymharu â 35%
  • Mae gen i’r gallu i fod yn actif: 84% o gymharu â 53%

Cyfleoedd ac Adnoddau:

  • Mae gen i’r cyfle i fod yn gorfforol actif: 83% o gymharu â 60%
  • Rydw i’n teimlo bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon / gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i: 58% o gymharu â 43%
  • Rydw i’n teimlo bod y cyfleusterau chwaraeon / gweithgarwch corfforol yn fy ardal i’n fforddiadwy: 46% o gymharu â 33%
  • Rydw i’n gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol sy’n apelio ataf i: 63% o gymharu â 47%
  • Pwysig bod y llywodraeth sydd newydd ei hethol yn blaenoriaethu chwaraeon a gweithgarwch corfforol: 58% o gymharu â 47%

Y Profiad:

  • Rydw i’n teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad i mi: 63% o gymharu â 48%
  • Wedi teimlo'n gyfforddus yn defnyddio campfa / canolfan ffitrwydd dan do: 96% o gymharu â 77%
  • Wedi teimlo'n gyfforddus yn defnyddio pwll nofio dan do: 95% o gymharu ag 81%
  • Aelod o glwb chwaraeon: 24% o gymharu â 9%

Costau byw:

  • Dim effaith ar fy newisiadau o ran gweithgarwch corfforol: 30% o gymharu â 23%
  • Lefelau gweithgarwch wedi gostwng: 13% o gymharu â 21%
  • Costau byw wedi cael effaith negyddol (net) ar fy ngallu i fod yn actif: 32% o gymharu â 43%
  • Mae costau byw wedi cael effaith negyddol sylweddol ar fy ngallu i fod yn actif: 6% o gymharu ag 16%
  • Gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch oherwydd y newidiadau mewn costau byw: 26% o gymharu â 35%

Newidiadau Sylweddol ers Gwanwyn '24:

Anabledd neu salwch hirsefydlog:

  • Cerdded ar gyfer hamdden neu deithio (3 mis diwethaf): 54% (-8pc)
  • Rydw i’n teimlo bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon / gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i: 43% (-7 pc)
  • Wedi teimlo'n gyfforddus yn defnyddio pwll nofio dan do: 81% (-9pc)

Newidiadau Sylweddol ers Haf '23:

Cyflwr neu salwch hirsefydlog:

  • Actif ar 5+ diwrnod: 27% (+7pc)
  • Campfa, neu ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff o’r cartref: 17% (+8pc)
  • Cymhelliant: i fod yn gorfforol iach (% yr oedolion a nododd y rheswm yma fel un o’u 5 prif reswm dros gymryd rhan): 69% (-7 pc)
  • Cymhelliant: treulio amser gyda'r teulu (% yr oedolion a nododd y rheswm yma fel un o’u 5 prif reswm dros gymryd rhan): 23% (-7 pc)
  • Wedi teimlo'n gyfforddus yn defnyddio pwll nofio dan do: 77% (-8pc)
Darllen Mwy
Rhywedd
Darllen Mwy
Oedran