Gwirfoddoli
- Mae ychydig llai nag un o bob chwech (16%) o’r ymatebwyr yn gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd, sy'n uwch nag ym mis Gorffennaf 23 (12%).
- Mae’r gwirfoddolwyr presennol yn sylweddol fwy tebygol o fod yn wrywod (20% o gymharu â 11%), yn 16 i 34 oed (28% o gymharu ag 16% o gymharu â 6%), o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) (22% o gymharu â 9%), o grŵp ethnig lleiafrifol (37% o gymharu â 13%) ac o fod â phlant 15 oed neu iau yn y cartref (24% o gymharu ag 11%).
- Dywedodd un o bob tri (34%) o’r ymatebwyr eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf, sy'n uwch nag ym mis Ebrill 24 (30%).
- Mae pobl ifanc 16 i 34 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 35 i 54 oed a 55+ oed (53% o gymharu â 41% o gymharu â 14%) o ddweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol, fel y mae’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch o gymharu â’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is (42% o gymharu â 25%) ac ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau yn y cartref o gymharu â'r rhai heb blant yr oedran hwnnw (53% o gymharu â 23%).
- Mae ychydig llai na hanner (47%) y rhai sy'n gwirfoddoli mewn chwaraeon yn gwneud hynny drwy rôl hyfforddi, yn unol â mis Ebrill 24 (47%).
- Ymhlith yr ymatebwyr sy’n gwirfoddoli mewn chwaraeon ar hyn o bryd, mae’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is (C2DE) o wirfoddoli drwy rôl hyfforddi (55% o gymharu â 32%).
- Roedd ychydig llai na dau o bob pump (38%) o'r rhai sydd wedi rhoi'r gorau i wirfoddoli neu wedi cael seibiant o wirfoddoli yn ystod y 12 mis diwethaf mewn rôl hyfforddi yn flaenorol.
- O blith y rhai sy'n debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf, mae tua dau o bob pump (39%) yn bwriadu ymgymryd â rôl hyfforddi.
Costau byw
- Dywed ychydig mwy nag un o bob tri o’r ymatebwyr (36%) bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif.
- Mae pobl ifanc 16 i 34 oed a phobl 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 55+ oed (36% o gymharu â 50% o gymharu â 26%) o gytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, ac felly hefyd y rhai sydd â phlant 15 oed neu iau yn y cartref o gymharu â'r rhai heb blant yr oedran hwnnw (47% o gymharu â 30%).
- Er bod bron i hanner (49%) yr ymatebwyr yn dweud nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, mae ychydig llai na thraean (29%) yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw.
- Mae’r ymatebwyr sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a’r ardaloedd gydag amddifadedd canolig yn sylweddol fwy tebygol o ddweud nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig (54% o gymharu â 62% a 44%).
- Mae’r ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 55+ oed o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd y newidiadau mewn costau byw (37% a 41% o gymharu â 16%), fel y mae'r rhai sydd â phlant 15 oed neu iau yn y cartref o gymharu â'r rhai heb blant yr oedran hwnnw (41% o gymharu â 23%).
Digwyddiadau mawr
- Mae un o bob pedwar o'r ymatebwyr (25%) wedi gwylio digwyddiad chwaraeon mawr yn ystod y 3 mis diwethaf ac wedi cael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol o ganlyniad.
- Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o fod wedi gwylio digwyddiad mawr a chael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (29% o gymharu ag 20%).
- Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 55+ oed o fod wedi gwylio digwyddiad mawr a chael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (38% a 33% o gymharu â 10%).
- Mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o fod wedi gwylio digwyddiad mawr a chael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol na’r rhai o grwpiau is (C2DE) (32% o gymharu ag 16%).
- Ymhlith yr ymatebwyr sydd wedi gwylio digwyddiad chwaraeon mawr yn ystod y 3 mis diwethaf ac wedi cael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, dywed tua un o bob pump eu bod wedi cael eu hysbrydoli gan Ewro 2024 (22%) neu'r Gemau Olympaidd (20%).
- Ymhlith yr ymatebwyr sydd wedi gwylio digwyddiad chwaraeon mawr yn ystod y 3 mis diwethaf ac wedi cael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, mae bron i dri o bob pedwar (74%) yn dweud eu bod yn bwriadu parhau i wneud y gweithgarwch corfforol hwn yn y tymor hir (chwe mis neu fwy).
Aelodaeth o glybiau chwaraeon
- Mae llai nag un o bob chwech (16%) o’r ymatebwyr yn aelodau o glwb chwaraeon ar hyn o bryd.
- Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o fod yn aelodau o glwb chwaraeon ar hyn o bryd (24% o gymharu â 9%).
- Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 55+ oed o fod yn aelod o glwb chwaraeon ar hyn o bryd (25% o gymharu ag 16% o gymharu ag 11%).
- Mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o fod yn aelodau o glwb chwaraeon na'r rhai o grwpiau is (C2DE) (22% o gymharu ag 11%).
- Mae ymatebwyr o leiafrifoedd ethnig yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr gwyn o fod yn aelodau o glwb chwaraeon ar hyn o bryd (30% o gymharu â 15%).
Etholiad cyffredinol
- Mae mwy na hanner yr ymatebwyr (54%) yn credu ei bod yn bwysig bod y llywodraeth sydd newydd ei hethol yn blaenoriaethu chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
- Mae ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o ddweud ei fod yn bwysig (57% o gymharu â 51%).
- Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 55+ oed o ddweud ei fod yn bwysig (57% a 60% o gymharu â 47%).
- Mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gredu ei bod yn bwysig bod y llywodraeth sydd newydd ei hethol yn blaenoriaethu chwaraeon a gweithgarwch corfforol na’r rhai o grwpiau is (C2DE) (60% o gymharu â 47%).