Skip to main content

Gweithgarwch

Diffinnir gweithgarwch corfforol fel cyfanswm o 30 munud neu fwy o ymarfer corff sy’n ddigon i godi cyfradd yr anadlu.

Lefelau gweithgarwch

  • Mae ychydig llai na hanner (45%) yr oedolion yng Nghymru yn gwneud gweithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn parhau i fod yn unol â mis Ebrill 24 (49%) a mis Gorffennaf 23 (47%).
  • Mae cyfran y bobl sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod yr wythnos (29%) yn uwch na mis Ebrill 24 (24%) a mis Gorffennaf 23 (25%). Dyma’r ffigwr uchaf a welwyd ers mis Awst 21 (29%).
  • Mae'r gyfran sy'n gwneud dim ymarfer corff (16%) wedi aros yr un fath ers mis Ebrill 24 (16%), ac mae'n unol â mis Gorffennaf 23 (18%).
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o fod wedi gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (33% o gymharu â 26%).
    • Mae ymatebwyr 55+ oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 16 i 34 oed o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol (23% a 14% o gymharu â 7%).
    • Mae ymatebwyr sydd ag anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r bobl heb anabledd o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol o gwbl (21% o gymharu â 13%). Mae hyn yn unol â mis Ebrill 24 (89%), ond yn uwch na mis Gorffennaf 23 (85%).
  • Dywedodd naw o bob deg (90%) o’r ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau bod eu plant yn gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol y tu allan i oriau ysgol ar ddiwrnod arferol yn ystod yr wythnos.
    • Mae hyn yn unol â mis Ebrill 24 (89%), ond yn uwch na mis Gorffennaf 23 (85%).
  • Dywedodd mwy na naw o bob deg (95%) o’r ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau hefyd bod eu plant yn gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol y tu allan i oriau ysgol ar ddiwrnod arferol dros y penwythnos.
    • Mae hyn yn cynrychioli cynnydd sylweddol o gymharu â mis Gorffennaf 23 (88%).

Math ac amledd y gweithgarwch

  • Y gweithgareddau mwyaf cyffredin a wnaed gan ymatebwyr yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg oedd cerdded ar gyfer hamdden (62%), cerdded i deithio (27%), campfa, dosbarth ffitrwydd neu ddosbarth ymarfer o’r cartref (19%), a rhedeg neu loncian. (18%).
    • Mae cyfran yr ymatebwyr sydd wedi mynd i nofio yn ystod yr wythnos ddiwethaf (13%) yn uwch nag ym mis Ebrill 24 (10%) a mis Gorffennaf 23 (10%).
    • Mae cyfran yr ymatebwyr sydd wedi mynd i gampfa, dosbarth ffitrwydd neu ddosbarth ymarfer o’r cartref (19%) hefyd yn uwch nag ym mis Gorffennaf 23 (16%).
  • Yn ystod y tri mis diwethaf, dywedodd ychydig dros dri o bob pump o'r ymatebwyr eu bod yn cerdded yn rheolaidd naill ai ar gyfer hamdden neu i deithio (62%) (unwaith y mis o leiaf).
    • Dywed ychydig dros un o bob pedwar eu bod yn mynd i gampfa, dosbarth ffitrwydd neu ddosbarth ymarfer (27%), ac mae un o bob pump yn mynd i redeg neu loncian (20%) a nofio (20%).
    • Dywed llai nag un o bob deg (5%) o’r ymatebwyr eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon raced yn rheolaidd, cynnydd o gymharu â mis Ebrill 24 (3%) a mis Gorffennaf 23 (3%)
  • Dim ond un o bob deg (10%) ddywedodd nad ydynt wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf. Mae hyn yr un fath ag ym mis Ebrill 24 (10%), ac mae'n parhau i fod y ffigwr isaf ar y cyd a welwyd ar draws pob ton.