Cyfwelodd Savanta 1,097 o ymatebwyr 16+ oed ar-lein rhwng 25ain a 29ain Hydref 2024. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Roedd yr holl gyfranogwyr yn dod o Gymru ac mae’r data wedi’u pwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhywedd, rhanbarth a statws cymdeithasol-economaidd.
Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 14 - Hydref 2024
Mae rownd ddiweddaraf Traciwr Gweithgarwch Cymru (Ton 14, Hydref 2024) yn dangos arwyddion addawol o gynnydd mewn gweithgarwch corfforol ac agweddau cadarnhaol tuag at ymarfer corff ledled Cymru.
- Mae cyfran yr oedolion sy’n nodi dim ymarfer corff wedi gostwng i 14% (y lefel isaf erioed ar gyfer y traciwr) o gymharu â 18% ym mis Hydref 2023, sy’n awgrymu bod mwy o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn rheolaidd.
- Yn yr un modd, dim ond 10% o ymatebwyr sy’n dweud nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol yn ystod y tri mis diwethaf, gan gynnal y lefelau isaf a welwyd ar draws pob ton.
Er bod y tueddiadau hyn mewn anweithgarwch yn galonogol, mae'n bwysig nodi eu bod yn cynrychioli'r boblogaeth yn gyffredinol ac efallai nad ydynt yn adlewyrchu profiadau pob grŵp demograffig.
Mae gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi gweld twf nodedig hefyd, gydag 17% o oedolion bellach yn cymryd rhan, y lefel uchaf a gofnodwyd ar draws y traciwr hyd yma.
- Mae’n ymddangos bod y cynnydd hwn yn arbennig o amlwg ymhlith y grŵp oedran 35 i 54 oed, lle mae’r cyfranogiad wedi codi o 16% ym mis Gorffennaf 2024 i 24% ym mis Hydref 2024. Mae’r ymgysylltu hwn yn adlewyrchu tuedd gadarnhaol o ran cyfranogiad cymunedol wrth feithrin ffyrdd o fyw actif.
Mae’r canfyddiadau hefyd yn datgelu bod agweddau tuag at ymarfer corff yn dod yn fwy cadarnhaol, gyda 70% o ymatebwyr yn nodi bod ymarfer corff rheolaidd yn bwysig iddyn nhw - y lefel uchaf ers dechrau tracio.
- Yn nodedig, mae gwrywod (75%) ac oedolion iau 16 i 34 oed (76%) yn fwy tebygol o flaenoriaethu ymarfer corff, sy’n dangos symudiad cryf tuag at werthfawrogi gweithgarwch corfforol ymhlith y grwpiau hyn.
Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at rwystrau i gyfranogiad. Yn y don hon, aethom ati i gyflwyno cwestiynau newydd i edrych ar effaith iechyd y mislif ar weithgarwch corfforol ar gyfer y rhai sydd wedi profi cylch y mislif, mislif, neu symptomau cysylltiedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
- Nododd bron i hanner (46%) y rhai a brofodd gylch y mislif yn ystod y flwyddyn ddiwethaf effeithiau negyddol ar eu gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon, gyda 31% yn nodi poen difrifol fel y prif ffactor.
- Mae’r maes archwilio newydd hwn yn pwysleisio’r angen am fwy o ymwybyddiaeth a chefnogaeth i’r rhai sy’n wynebu heriau cysylltiedig ag iechyd wrth gadw’n actif.
Mae cost yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol, yn enwedig i ymatebwyr iau a'r rhai sydd â phlant.
- Ymhlith pobl ifanc 16 i 34 oed, mae’r argyfwng costau byw yn parhau i effeithio ar lefelau gweithgarwch, gyda 45% yn adrodd am effeithiau negyddol oherwydd pwysau ariannol – i fyny o 36% ym mis Gorffennaf 2024.
- Mae’r duedd hon yn amlycach ymhlith rhieni, sy’n wynebu heriau ychwanegol o ran sicrhau cydbwysedd rhwng cyfrifoldebau teuluol â chynnal ffordd o fyw actif.
Yn olaf, mae pryderon diogelwch yn effeithio'n anghymesur ar rai grwpiau demograffig, gydag ymatebwyr benywaidd (29%) ac unigolion ag anableddau (34%) yn mynegi pryderon dwysach ynghylch gadael eu cartref ar gyfer gweithgarwch corfforol.
- Mewn cyferbyniad, mae'r rhai heb anableddau ac ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn adrodd am fwy o fynediad a hyder i fod yn gorfforol actif.
Yn gyffredionol, mae’r canfyddiadau’n adlewyrchu tuedd gadarnhaol tuag at weithgarwch corfforol ac ymgysylltu â chwaraeon, fodd bynnag, caiff hyn ei lesteirio gan heriau parhaus sy’n ymwneud ag iechyd, diogelwch a phwysau ariannol. Bydd mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn, yn enwedig i ferched, oedolion iau, a grwpiau economaidd-gymdeithasol is, yn bwysig er mwyn gallu cynnal ac adeiladu ar y momentwm hwn.