Skip to main content

Agweddau at weithgarwch

Mwynhad, pwysigrwydd a hyder

  • Mae bron i dri o bob pump o’r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd corfforol (59%), y lefel uchaf o gytundeb ers mis Chwefror 23. Mae nifer tebyg o’r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl (60%).
    • Mae’r rhai 16 i 34 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 55+ oed o gytuno eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl (66% o gymharu â 55%).
  • O blith y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y tri mis diwethaf, mae ychydig o dan dri o bob pedwar (73%) yn ystyried bod yn gorfforol iach fel cymhelliant.
  • Mae bron i dri o bob pump (59%) o’r ymatebwyr yn cytuno bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt. Mae hyn yn parhau i fod yn unol â mis Gorffennaf 24 (58%) a mis Hydref 23 (58%).
    • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol na’r ymatebwyr benywaidd o gytuno bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt (64% o gymharu â 55%).
    • Mae pobl ifanc 16 i 34 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 35 i 54 oed a 55+ oed o gytuno eu bod yn gweld ymarfer corff yn bleserus a’i fod yn rhoi boddhad iddynt (70% o gymharu â 61% a 51%).
    • Mae saith o bob deg o bobl 16 i 34 oed (70%) yn cytuno bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt, y lefel uchaf o gytundeb a welwyd ar draws pob ton.
    • Mae’r ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt (67% o gymharu â 44%).
  • Mae saith o bob deg (70%) o’r ymatebwyr yn cytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd, yr un ffigwr ag ym mis Gorffennaf 24 (70%) sy'n parhau i fod y ffigwr uchaf a welwyd ar draws pob ton.
    • Mae tri o bob pedwar (75%) o’r ymatebwyr gwrywaidd yn cytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd, y lefel uchaf o gytundeb a welwyd ar draws pob ton.
    • Mae pobl ifanc 16 i 34 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 35 i 54 oed a 55+ oed o gytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd (76% o gymharu â 69% a 67%).
    • Mae’r ymatebwyr o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd na’r rhai o grwpiau is (C2DE) (77% o gymharu â 63%).
    • Mae’r ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd (75% o gymharu â 61%).
  • Mae ychydig dros dri o bob pump (63%) o’r ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif, sydd yn unol â mis Gorffennaf 24 (62%) a mis Hydref 23 (62%).
    • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol na’r ymatebwyr benywaidd o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (72% o gymharu â 54%).
    • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 55+ oed o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (66% a 65% o gymharu â 58%).
    • Mae’r ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (71% o gymharu â 46%).
  • Mae ychydig llai nag un o bob pedwar (23%) o’r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, yn unol â mis Gorffennaf 24 (24%) a mis Hydref 23 (22%).
    • Mae’r ymatebwyr benywaidd yn sylweddol fwy tebygol na’r ymatebwyr gwrywaidd o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (29% o gymharu ag 17%). Mae hyn yn cynrychioli'r ffigur uchaf o fenywod yn cytuno â'r datganiad hwn ar draws pob ton.
    • Mae’r ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol na’r rhai 55+ oed (34% o gymharu â 26% o gymharu ag 14%).
    • Mae’r ymatebwyr ag anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai heb anabledd o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (34% o gymharu ag 17%).
    • O gymharu â mis Gorffennaf 24 a mis Hydref 23, mae llawer llai o ymatebwyr sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn dweud eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (30% ym mis Gorffennaf 24, 30% ym mis Hydref 23 o gymharu ag 20% ym mis Hydref 24).

Hyder mewn lleoliad

  • Mae’r hyder mewn lleoliadau dan do yn parhau i fod yn sefydlog, gyda thua dau o bob pump (41%) o’r ymatebwyr yn hyderus mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd ac ychydig llai nag un o bob tri (32%) yn hyderus mewn neuaddau chwaraeon.
  • O blith y rhai sydd wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywed dros ddau o bob pump (43%) eu bod wedi defnyddio cyfleuster dan do, yn unol â mis Gorffennaf 24 (44%) a mis Hydref 23 (42%).
    • O blith y rhai sydd wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol o ddweud eu bod wedi defnyddio cyfleuster dan do na’r rhai 55+ oed (64% o gymharu â 47% o gymharu â 24%).
  • O blith y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch mewn cyfleuster dan do yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae tua naw o bob deg yn dweud eu bod yn gyfforddus mewn campfeydd neu ganolfannau ffitrwydd dan do (92%) a phyllau nofio dan do (87%).