Main Content CTA Title

Cwestiynau Pwnc

Gwirfoddoli 

  • Mae ychydig llai na chwech (17%) o’r ymatebwyr yn gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd, y ffigur uchaf a welwyd ar draws pob cam.
    • Mae’r gwirfoddolwyr presennol yn sylweddol fwy tebygol o fod yn wrywod (22% o gymharu ag 13%), yn 16 i 34 oed a 35 i 54 oed (26% o gymharu â 24% o gymharu â 6%), o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd uwch (ABC1) (24% o gymharu ag 11%), o grŵp ethnig lleiafrifol (47% o gymharu ag 14%) ac o fod â phlant 15 oed neu iau yn y cartref (31% o gymharu ag 10%).
    • Roedd cyfanswm y cynnydd yn nifer yr ymatebwyr sy'n gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd wedi'i ysgogi'n bennaf gan gynnydd sylweddol ymhlith pobl 35 i 54 oed (24% ym mis Hydref 24 o gymharu ag 16% ym mis Gorffennaf 24).
  • Dywedodd tua un o bob tri (32%) o’r ymatebwyr eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf.
    • Mae pobl 16 i 34 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 35 i 54 oed a 55+ oed (51% o gymharu â 37% o gymharu ag 16%) o ddweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol, fel y mae’r rhai o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd uwch o gymharu â’r rhai o gefndiroedd is (40% o gymharu â 24%) ac ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau yn y cartref o gymharu â'r rhai heb blant yr oedran hwn yn y cartref (49% o gymharu â 23%).
  • Mae ychydig dros ddau o bob pump (41%) o’r ymatebwyr sy'n gwirfoddoli mewn chwaraeon yn gwneud hynny drwy rôl hyfforddi, sy'n is na mis Gorffennaf 24 (47%), a'r ffigur isaf a welwyd ar draws y tair ton sydd wedi’u tracio.
  • Roedd ychydig llai nag un o bob dau (45%) o'r rhai sydd wedi rhoi'r gorau i wirfoddoli neu gymryd saib o wirfoddoli yn ystod y 12 mis diwethaf mewn rôl hyfforddi yn flaenorol, sy'n uwch nag ym mis Gorffennaf 24 (38%), a'r ffigur uchaf a welwyd ar draws y tair ton sydd wedi’u tracio.
  • O blith y rhai sy'n debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf, mae tua dau o bob pump (43%) yn bwriadu ymgymryd â rôl hyfforddi.
  • Mae dau o bob pump o'r ymatebwyr (40%) yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, sy'n uwch nag ym mis Gorffennaf 24 (36%), ond yn unol â mis Hydref 23 (40%).
    • Ysgogwyd y cynnydd hwn gan gynnydd sylweddol yn nifer y bobl 16 i 34 oed a ddywedodd fod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif (45% ym mis Hydref 24 o gymharu â 36% ym mis Gorffennaf 24).
    • Mae pobl ifanc 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 55+ oed (45% o gymharu â 46% o gymharu â 32%) o gytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, ac felly hefyd merched o gymharu â dynion (44% o gymharu â 37%) a'r rhai sydd â phlant 15 oed neu iau yn y cartref o gymharu â'r rhai heb blant yr oedran hwn (48% o gymharu â 36%).
  • Er bod bron i hanner (48%) yr ymatebwyr yn dweud nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, mae un o bob tri (33%) yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw.
    • Mae’r ymatebwyr sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a’r ardaloedd ag amddifadedd canolig yn sylweddol fwy tebygol o ddweud nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig (61% o gymharu â 54% a 45%).
    • Mae’r ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 55+ oed o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw (39% a 42% o gymharu â 22%), fel y mae'r rhai sydd â phlant 15 oed neu iau yn y cartref o gymharu â'r rhai heb blant yr oedran yma (45% o gymharu â 27%).

Aelodaeth o glwb chwaraeon 

  • Mae ychydig dros un o bob chwech (17%) o oedolion yng Nghymru yn aelodau o glwb chwaraeon ar hyn o bryd.
    • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol na’r ymatebwyr benywaidd o fod yn aelodau o glwb chwaraeon ar hyn o bryd (23% o gymharu â 12%).
    • Mae’r ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 55+ oed o fod yn aelodau o glwb chwaraeon ar hyn o bryd (27% o gymharu ag 17% o gymharu ag 11%).
    • Mae’r ymatebwyr o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o fod yn aelodau o glwb chwaraeon na'r rhai o grwpiau is (C2DE) (23% o gymharu ag 11%).
    • Mae’r ymatebwyr o leiafrifoedd ethnig yn sylweddol fwy tebygol na’r ymatebwyr gwyn o fod yn aelodau o glwb chwaraeon ar hyn o bryd (37% o gymharu ag 15%).

Effaith cylch y mislif a mislifau              

  • O blith yr ymatebwyr sydd wedi profi cylch y mislif, mislif, neu symptomau cysylltiedig yn ystod y 12 mis diwethaf, dywed bron i un o bob dau (46%) eu bod wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
  • O blith yr ymatebwyr yr oedd eu cylch y mislif, y mislif, neu symptom cysylltiedig wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, mae tua un o bob tri yn priodoli hyn i boen difrifol neu eithafol (31%).
  • Roedd ychydig dros un o bob dau o'r ymatebwyr yr oedd eu cylch y mislif, y mislif neu symptom cysylltiedig wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn defnyddio meddyginiaeth lleddfu poen i ddal ati i fod yn actif. Fe wnaeth bron i un o bob dau (46%) hepgor sesiynau gweithgarwch corfforol nes eu bod yn teimlo'n well.