Skip to main content

Gweithgarwch

Diffinnir gweithgarwch corfforol fel cyfanswm o 30 munud neu fwy o ymarfer corff a oedd yn ddigon i gynyddu’r gyfradd anadlu.

Lefelau gweithgarwch 

  • Mae ychydig llai nag un o bob dau (48%) oedolyn yng Nghymru yn gwneud gweithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn parhau i fod yn unol â mis Gorffennaf 24 (45%) a mis Hydref 23 (48%).
  • Mae cyfran y bobl sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod yr wythnos (28%) yn uwch nag ym mis Hydref 23 (24%).
  • Mae'r gyfran sy'n gwneud dim ymarfer corff (14%) yn is nag ym mis Hydref 23 (18%), a dyma'r ffigwr isaf a welwyd ar draws pob ton.
  • Adroddodd oedolion yng Nghymru am gymedr o 3.18 diwrnod o weithgarwch corfforol yr wythnos. Mae hyn yn uwch nag ym mis Gorffennaf 24 (3.15), mis Hydref 23 (2.90), a dyma'r ffigwr uchaf a welwyd ers mis Mai 20 (3.25%).
    • Mae’r ymatebwyr 55+ oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 35 i 54 oed ac 16 i 34 oed o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf (22% ac 11% o gymharu â 6%).
    • Mae’r ymatebwyr ag anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai heb unrhyw anabledd o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol o gwbl yn ystod yr wythnos ddiwethaf (18% o gymharu â 12%).
    • Fodd bynnag, mae nifer yr ymatebwyr anabl nad ydynt yn gwneud unrhyw weithgarwch corfforol (18%) yn is nag ar gyfer mis Gorffennaf 24 (21%), mis Hydref 23 (23%), a dyma'r ffigur isaf a welwyd ar draws pob ton.
    • O gymharu â mis Hydref 23, mae'r bobl 16 i 34 oed yn sylweddol fwy tebygol o fod wedi gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod yr wythnos (24% o gymharu â 33%).
    • Mae’r ymatebwyr o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd is (C2DE) yn sylweddol fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn gwneud unrhyw weithgarwch corfforol na’r rhai o grwpiau uwch (ABC1) (19% o gymharu â 10%).
  • Dywedodd naw o bob deg (90%) o’r ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau fod eu plant yn gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol y tu allan i oriau ysgol ar ddiwrnod arferol yn ystod yr wythnos.
    • Mae hyn yn unol â mis Gorffennaf 24 (90%) a mis Hydref 23 (92%).
  • Dywedodd dros naw o bob deg (93%) o’r ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau hefyd fod eu plant yn gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol y tu allan i oriau ysgol ar ddiwrnod arferol dros y penwythnos.
    • Mae hyn yn unol â mis Gorffennaf 24 (93%) a mis Hydref 23 (94%).

Math ac amledd y gweithgarwch                        

  • Y gweithgareddau mwyaf cyffredin a wnaed gan yr ymatebwyr yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg oedd cerdded ar gyfer hamdden (64%), cerdded i deithio (27%), rhedeg neu loncian (18%), a dosbarth campfa, ffitrwydd neu ymarfer corff o’r cartref (17%).
    • Mae cyfran yr ymatebwyr sydd wedi gwneud gweithgarwch yn y cartref yn ystod yr wythnos ddiwethaf (20%) yn uwch nag ym mis Hydref 23 (17%).
  • Yn ystod y tri mis diwethaf, dywedodd ychydig dros dri o bob pump o'r ymatebwyr eu bod yn cerdded yn rheolaidd naill ai ar gyfer hamdden neu i deithio (62%) (o leiaf unwaith y mis).
    • Dywed ychydig dros un o bob pedwar eu bod yn mynd i ddosbarth campfa, ffitrwydd neu ymarfer corff (26%), ac mae un o bob pump yn mynd i nofio (20%).
    • Dywed un o bob deg (10%) nad ydynt wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf. Mae hyn yr un fath ag ym mis Gorffennaf 24 (10%) ac yn parhau i fod y ffigwr isaf ar y cyd a welwyd ar draws pob ton.

Cyfle a Gallu

  • Mae ychydig o dan dri o bob pedwar (74%) o’r ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif, y sgôr uchaf ar draws pob ton.
    • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (83% o gymharu â 79% o gymharu â 65%).
    • Mae’r ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (86% o gymharu â 52%).
    • Mae’r ymatebwyr o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif na’r rhai o grwpiau is (C2DE) (83% o gymharu â 65%).
  • Mae tri o bob pedwar (74%) o’r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif, yn unol â mis Gorffennaf 24 (75%) a mis Hydref 23 (73%).
    • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol na’r merched o gytuno bod ganddynt y cyfle i fod yn gorfforol actif (78% o gymharu â 70%).
    • Mae’r ymatebwyr o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod ganddynt y cyfle i fod yn gorfforol actif na’r rhai o grwpiau is (C2DE) (81% o gymharu â 68%).
    • Mae’r ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif (81% o gymharu â 60%).
    • Mae'r rhai sydd â phlant sy'n byw yn y cartref yn fwy tebygol na'r rhai heb blant o gytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif (78% o gymharu â 73%).
  • Mae un o bob tri (33%) o’r ymatebwyr yn cytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill, yn unol â mis Gorffennaf 24 (30%) a mis Hydref 23 (32%).
    • Mae’r ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (46% a 42% o gymharu ag 17%).
    • Mae’r ymatebwyr o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill na’r rhai o grwpiau is (C2DE) (39% o gymharu â 27%).
    • Mae’r ymatebwyr gyda phlant 15 oed neu iau yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai heb blant 15 oed ac iau o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (47% o gymharu â 25%).
    • Mae’r ymatebwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu eraill yn y cartref yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai nad oes ganddynt gyfrifoldebau gofalu o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (46% o gymharu â 33%).
  • Mae’r oedolion yng Nghymru sydd o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol na’r rhai o grwpiau is (C2DE) (58% o gymharu â 51%). 
    • Y rhai sy'n byw yn awdurdod lleol Canolbarth Cymru sydd fwyaf tebygol o anghytuno bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol (29%).