Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Traciwr Gweithgareddau Cymru
  4. Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 15 - Chwefror 2025

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 15 - Chwefror 2025

Cyfwelodd Savanta 1,070 o ymatebwyr 16+ oed ar-lein rhwng 25ain Ionawr ac 11eg Chwefror 2025. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Roedd yr holl gyfranogwyr yn dod o Gymru ac mae’r data wedi cael eu pwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhywedd, rhanbarth a statws economaidd-gymdeithasol.

 

Mae canfyddiadau diweddaraf Traciwr Gweithgarwch Cymru yn datgelu tueddiadau calonogol, gyda mwy o ymgysylltu a chymhelliant, a chanfyddiadau gwell o ran hygyrchedd.

Mae lefelau gweithgarwch corfforol oedolion Cymru’n parhau’n sefydlog, gyda 29% yn gwneud ymarfer corff bum niwrnod yr wythnos neu fwy, yn debyg i mis Hydref 2024 (28%) a chynnydd o fis Ionawr 2024 (24%). 

  • Mae cyfran y rhai sydd ddim yn gwneud unrhyw ymarfer corff wedi gostwng i 13% o 19% ym mis Ionawr 2024. Ar gyfartaledd, mae oedolion yng Nghymru bellach yn adrodd am 3.31 diwrnod o weithgarwch yr wythnos, gwelliant o 2.86 diwrnod ym mis Ionawr 2024.
  • Mae campfa, dosbarthiadau ffitrwydd a rhedeg wedi dod yn fwy poblogaidd, gyda 28% yn mynychu campfa a 23% yn rhedeg neu'n loncian, gan ragori ar nofio (20%). Mae cyfran yr oedolion heb gofnodi unrhyw weithgarwch rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf yn parhau i fod ar 10%, y ffigur isaf a gofnodwyd ar gyfer y traciwr (12% ym mis Ionawr 2024).

Yn galonogol, roedd 74% o’r ymatebwyr yn teimlo bod ganddynt y gallu i fod yn actif, yr uchaf a gofnodwyd ar draws holl donnau’r arolwg. 

  • Mae llai o bobl wedi nodi cyfyngiadau amser fel rhwystr, gan ostwng o 34% ym mis Ionawr 2024 i 27% ar hyn o bryd, gyda’r newid mwyaf ymhlith pobl ifanc 16 i 34 oed (51% i 36%). Fodd bynnag, oedolion iau a rhieni sy'n parhau i gael eu heffeithio fwyaf gan gyfyngiadau amser.
  • Mae gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol i’w gweld yn gyffredinol, ac yn nodedig, mae’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn fwy tebygol o gredu bod cyfleusterau chwaraeon lleol digonol (63%) ar gael iddynt, o gymharu â’r grwpiau economaidd-gymdeithasol is (52%). Mae'r rhai yng Nghanolbarth Cymru’n fwy tebygol o anghytuno bod cyfleusterau chwaraeon lleol digonol (26%) ar gael iddynt, o gymharu ag oedolion yng Ngwent (11%).

Iechyd yw'r prif gymhelliant o hyd ar gyfer gweithgarwch, gyda 62% yn nodi manteision iechyd corfforol a 61% yn nodi manteision iechyd meddwl, y ddau wedi cynyddu ers mis Ionawr 2024. 

  • Mae ymarfer corff rheolaidd yn cael ei werthfawrogi gan 71% o’r ymatebwyr, yn gyson â mis Hydref. Mae gwirfoddoli mewn chwaraeon yn parhau ar 16%, ond mae’r diddordeb mewn gwirfoddoli yn y dyfodol wedi cyrraedd uchafbwynt o 37%, y lefel uchaf a gofnodwyd.

Mae’r argyfwng costau byw yn parhau i effeithio ar gyfranogiad, gyda 39% yn dweud ei fod yn effeithio’n negyddol ar eu gallu i fod yn actif. Unwaith eto, effeithir yn anghymesur ar ferched, oedolion iau, a rhieni plant ifanc, yn enwedig y rheini yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. 

  • Mae amodau’r tywydd wedi cael effaith hefyd, gyda 41% yn lleihau eu gweithgarwch oherwydd amodau gwael. Ymhlith y rhesymau cyffredin dros hyn mae cymhelliant is (49%), llai o deithio llesol (31%), a llai o fwynhad (24%), er bod 34% yn dweud nad oedd unrhyw effaith, gan barhau i flaenoriaethu eu hymarfer corff.

Mae gosod nodau yn chwarae rhan bwysig mewn cymhelliant ar ddechrau 2025, gyda 37% o oedolion yn canolbwyntio ar reoli eu pwysau, 29% ar gynyddu eu camau dyddiol, a 28% ar gynyddu eu lefelau gweithgarwch cyffredinol. Mae merched yn fwy tebygol o osod nodau cysylltiedig â phwysau, tra bo dynion yn fwy tebygol o flaenoriaethu cryfder a dygnedd.

Defnyddir technoleg ffitrwydd yn eang gan oedolion, gyda 63% o’r ymatebwyr yn defnyddio nwyddau gwisgadwy, apiau neu ddyfeisiau eraill, a 77% yn nodi mwy o gymhelliant o ganlyniad. Mae’r defnydd ar ei uchaf ymhlith oedolion iau, grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch, ac ymatebwyr o leiafrifoedd ethnig.

  • Fodd bynnag, mae pryderon diogelwch yn ystod oriau tywyllach yn parhau, gyda 18% yn teimlo'n anniogel, yn enwedig merched (28% o gymharu ag 8% o ddynion) ac oedolion iau. Er gwaethaf hyn, mae 57% yn dweud nad yw pryderon diogelwch wedi effeithio ar eu gweithgarwch, er bod 15% wedi lleihau eu cyfranogiad o ganlyniad.