Mwynhad, pwysigrwydd a hyder
- Mae mwy na thri o bob pump o ymatebwyr yn cytuno eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd corfforol (62%). Mae hyn yn unol â mis Hydref 2024 (59%) ond yn gynnydd sylweddol o gymharu â mis Ionawr 2024 (53%).
- Mae ymatebwyr gwrywaidd (66%) yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd (58%) o ddweud eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd corfforol.
- Mae'r rhai o gefndir economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) (66%) yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai o gefndir economaidd-gymdeithasol is (58%) o wneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd corfforol.
- Mae nifer tebyg o ymatebwyr yn cytuno eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl (61%). Mae hyn yn unol â mis Hydref 2024 (60%) ond yn gynnydd sylweddol o gymharu â mis Ionawr 2024 (54%).
- Mae'r rhai 16 i 34 oed (68%) a 35 i 54 oed (64%) yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai 55+ oed (55%) o wneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl.
- Mae'r rhai o'r cefndir economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) (66%) yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai o'r grŵp economaidd-gymdeithasol is (57%) o wneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl.
- O blith y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ystod y tri mis diwethaf, mae mwy na thri o bob pedwar (76%) yn nodi bod yn gorfforol iach fel cymhelliant. Mae'r sgoriau hyn yn unol â mis Hydref 2024 (73%) a mis Ionawr 2024 (77%).
- Mae saith o bob deg (70%) yn datgan teimlo'n dda fel cymhelliant tra bo mwy na hanner yr ymatebwyr (55%) yn datgan i fynd allan o'r tŷ fel cymhelliant.
- Mae mwy na thri o bob pump (61%) o ymatebwyr yn cytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus a’i fod yn rhoi boddhad iddynt. Mae'r sgoriau hyn yn unol â mis Hydref 2024 (59%) a mis Ionawr 2024 (57%).
- Mae ymatebwyr gwrywaidd (68%) yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd (54%) o ddweud eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus a’i fod yn rhoi boddhad iddynt.
- Mae'r rhai 16 i 34 oed (67%) a 35 i 54 oed (66%) yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai 55+ oed (54%) o deimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt.
- Mae'r rhai o'r cefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) (69%) yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is (53%) o ddweud eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt.
- Mae ymatebwyr heb unrhyw salwch neu gyflwr hirsefydlog (71%) yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai sydd â salwch neu gyflwr hirsefydlog (43%) o ddweud eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt.
- Mae ychydig mwy na saith o bob deg (71%) o ymatebwyr yn cytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd, yn gyson â mis Hydref 2024 (70%).
- Mae ymatebwyr o'r cefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) (79%) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd nag ymatebwyr o'r grŵp economaidd-gymdeithasol is (C2DE) (64%).
- Mae ymatebwyr heb salwch neu gyflwr hirsefydlog (80%) yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr sydd â salwch neu gyflwr hirsefydlog (55%) o gytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd.
- Mae bron i ddau o bob tri (65%) o ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif, sy'n cyd-fynd â mis Hydref 2024 (63%).
- Mae ymatebwyr gwrywaidd (74%) yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd (56%) o ddweud bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif.
- Mae ymatebwyr o'r grŵp economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) (74%) yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai o'r grŵp economaidd-gymdeithasol is (C2DE) (56%) o ddweud bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif.
- Mae ymatebwyr heb unrhyw salwch neu gyflwr hirsefydlog (78%) yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai â salwch neu gyflwr hirsefydlog (42%) o ddweud bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif.
- Mae tua un o bob pump (21%) o ymatebwyr yn cytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, yn unol â mis Hydref 2024 (23%) a mis Ionawr 2024 (23%).
- Mae ymatebwyr benywaidd (27%) yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd (16%) o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
- Mae ymatebwyr 16 i 34 oed (28%) yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 55+ oed (16%) o boeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
- Mae ymatebwyr sydd â salwch neu gyflwr hirsefydlog (34%) yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai heb salwch neu gyflwr hirsefydlog (14%) o boeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
- Mae ymatebwyr o'r grŵp economaidd-gymdeithasol is (C2DE) (25%) yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai o'r grŵp economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) (17%) o boeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
- O gymharu â mis Hydref 2024 (24%), mae llawer llai o ymatebwyr o’r grŵp economaidd-gymdeithasol ABC1 yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol nag yn y don hon (17%).
Hyder mewn lleoliad
- Mae’r hyder yn y rhan fwyaf o leoliadau dan do yn parhau i fod yn sefydlog, gyda mwy na dau o bob pump (45%) o ymatebwyr yn teimlo'n hyderus yn y gampfa / mewn ystafelloedd iechyd a ffitrwydd ac ychydig mwy nag un o bob tri (35%) yn teimlo'n hyderus mewn neuaddau chwaraeon.
- Mae ymatebwyr gwrywaidd (49%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn hyderus mewn campfeydd ac ystafelloedd ffitrwydd nag ymatebwyr benywaidd (41%).
- Mae ymatebwyr gwrywaidd (44%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn hyderus mewn neuaddau chwaraeon nag ymatebwyr benywaidd (26%).
- O blith y rhai sydd wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae mwy na dau o bob pump (44%) yn dweud eu bod wedi defnyddio cyfleuster dan do, yn unol â mis Hydref 2024 (43%) a mis Ionawr 2024 (41%).
- O blith y rhai sydd wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae pobl ifanc 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn llawer mwy tebygol o ddweud eu bod wedi defnyddio cyfleuster dan do na phobl 55+ oed (63% o gymharu â 48% o gymharu â 26%).