Main Content CTA Title

Cwestiynau pwnc

Gwirfoddoli 

  • Mae un o bob chwech (16%) o ymatebwyr yn gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd, sy'n parhau'n gyson o fis Hydref 24 (17%).
    • Mae’r gwirfoddolwyr presennol yn sylweddol fwy tebygol o fod yn wrywod nag yn fenywod (22% o gymharu â 12%), 16 i 34 oed o gymharu â 35 i 54 oed a 55+ oed (29% o gymharu â 15% a 9%), o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1 o gymharu ag C2DE) (21% o gymharu â 12%), o grŵp lleiafrif ethnig o gymharu â gwyn (38% o gymharu â 14%) ac o fod â phlant 15 oed neu iau yn y cartref neu heb blant yn y cartref (25% o gymharu â 12%).
  • Dywedodd tua un o bob tri (37%) o ymatebwyr eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf, y lefel uchaf a welwyd ar draws pob ton.
    • Mae pobl 16 i 34 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 35 i 54 oed a 55+ oed (57% o gymharu â 39% o gymharu â 21%) o ddweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol, fel y mae’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch o gymharu ag is (42% o gymharu â 32%) ac ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau yn y cartref o gymharu â’r rhai heb blant 15 oed neu iau (51% o gymharu â 29%).

Costau byw 

  • Mae dau o bob pump (39%) o'r ymatebwyr yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, sy'n parhau i fod yn unol â mis Hydref 24 (40%).
    • Mae ymatebwyr benywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd o gytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif (43% o gymharu â 36%), fel y mae’r rhai 16 i 34 oed a 35 i 54 oed o gymharu â’r rhai 55+ oed (45% o gymharu â 46% o gymharu â 31%) a’r rhai â phlant 15 oed neu iau (34%) o gymharu â’r rhai heb blant 15 oed neu iau yn y cartref (34%).
  • Er bod bron i hanner (47%) yr ymatebwyr yn dweud nad yw newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, mae tri o bob deg (30%) yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ganlyniad.
    • Mae ymatebwyr sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a’r ardaloedd gydag amddifadedd canolig yn llawer mwy tebygol o ddweud nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig (57% o gymharu â 56% a 46%).
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 55+ oed o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw (36% a 36% o gymharu â 21%), fel y mae’r rhai sydd â phlant 15 oed neu iau yn y cartref o gymharu â’r rhai heb blant 15 oed neu iau yn y cartref (41% o gymharu â 24%)

Aelodaeth o glwb chwaraeon

  • Mae ychydig mwy nag un o bob chwech (15%) o oedolion yng Nghymru yn aelod o glwb chwaraeon ar hyn o bryd.
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o fod yn aelodau o glwb chwaraeon ar hyn o bryd (21% o gymharu â 9%), fel y mae’r rhai 16 i 34 oed a 35 i 54 oed o gymharu â phobl 55+ oed (23% o gymharu â 15% o gymharu â 9%) a’r rhai o gefndir ethnig lleiafrifol o gymharu ag ymatebwyr gwyn (35% o gymharu â 13%).

Nodau ffitrwydd

  • Mae’r ymatebwyr yn fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn gosod nodau chwaraeon a gweithgarwch corfforol y Flwyddyn Newydd yn ymwneud â cholli neu reoli pwysau (37%), cynyddu camau neu bellter cerdded dyddiol (29%) a chynyddu lefelau gweithgarwch corfforol cyffredinol (28%).
    • Mae ymatebwyr benywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd o osod nodau ynghylch rheoli pwysau (45% o gymharu â 29%) a chynyddu camau (36% o gymharu â 23%), tra bo ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol o ganolbwyntio ar feithrin cryfder y cyhyrau a dygnedd (26% o gymharu â 18%) a gwella ffitrwydd cardiofasgwlaidd (25% o gymharu â 18%).
    • Mae ymatebwyr o leiafrifoedd ethnig yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr gwyn o fod eisiau cynyddu eu lefelau gweithgarwch corfforol cyffredinol (42% o gymharu â 27%), yn ogystal â gosod nod ffitrwydd o unrhyw fath (83% o gymharu â 74%).
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai 55+ oed o osod unrhyw nod ffitrwydd (88% o gymharu â 77% a 63%), fel y mae ymatebwyr mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch o gymharu â’r grwpiau is (ABC1 o gymharu ag C2DE, 82% o gymharu â 67%).
  • Mae ychydig yn llai na thri o bob deg o ymatebwyr (59%) yn cytuno bod gosod nodau ffitrwydd personol yn bwysig i'w cymell i fod yn actif.
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed gryn dipyn yn fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno bod gosod nod ffitrwydd personol yn bwysig i’w cymell i fod yn actif (71% a 65% a 47%), fel y mae ymatebwyr mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch o gymharu ag ymatebwyr mewn grwpiau is (ABC1 o gymharu ag C2DE, 67% o gymharu â 52%), ymatebwyr lleiafrifoedd ethnig o gymharu ag ymatebwyr gwyn (71% o gymharu â 58%) a’r rhai sydd â phlant o gymharu â’r rhai heb blant (76% o gymharu â 51%).

Technoleg ffitrwydd

  • Mae ychydig mwy na thri o bob pump o'r ymatebwyr (63%) yn defnyddio technoleg ffitrwydd ar hyn o bryd, a dyfeisiau ffitrwydd gwisgadwy (45%) ac apiau ffitrwydd (25%) yw'r ffurfiau mwyaf poblogaidd. Mae mwy na thri chwarter (77%) yr ymatebwyr sy'n defnyddio technoleg ffitrwydd yn gwneud hynny sawl gwaith yr wythnos. Dywed yr un gyfran (77%) fod defnyddio technoleg ffitrwydd wedi cynyddu eu cymhelliant i fod yn actif.
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o ddefnyddio technoleg ffitrwydd (77% a 71% a 46%), yn yr un modd ag ymatebwyr mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch o gymharu ag ymatebwyr mewn grwpiau is (ABC1 o gymharu ag C2DE, 71% o gymharu â 54%), ymatebwyr o leiafrifoedd ethnig o gymharu ag ymatebwyr gwyn (75% o gymharu â 61%) a’r rhai â phlant o gymharu â phobl heb blant (79% o gymharu â 54%).

Pryderon diogelwch

  • Dywedodd ychydig llai na hanner yr ymatebwyr (48%) eu bod yn teimlo'n ddiogel yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod oriau tywyllach dros y tri mis diwethaf, tra bo ychydig llai nag un o bob pump (18%) yn dweud eu bod yn teimlo'n anniogel.
    • Mae ymatebwyr benywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd o ddweud eu bod yn teimlo'n anniogel (28% o gymharu ag 8%), fel y mae'r rhai 16 i 34 oed o gymharu â phobl 55+ oed (24% o gymharu â 15%).
    • Mae’r ymatebwyr mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai mewn grwpiau is o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel (ABC1 o gymharu ag C2DE, 53% o gymharu â 43%), fel y mae’r rhai heb anableddau o gymharu â’r rhai ag anableddau (54% o gymharu â 37%).
  • Dywed bron i dri o bob pump o ymatebwyr (57%) nad oedd y pryderon diogelwch hyn wedi cael unrhyw effaith ar eu lefelau gweithgarwch corfforol, tra bo un o bob chwech (15%) yn dweud eu bod wedi cael effaith negyddol.
    • Mae ymatebwyr benywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd o ddweud bod pryderon diogelwch wedi cael effaith negyddol (22% o gymharu ag 8%), fel y mae’r rhai 16 i 34 oed o gymharu â phobl 35 i 54 oed a 55+ oed (21% o gymharu â 14% a 12%) a’r rhai ag anableddau o gymharu â’r rhai heb anableddau (23% o gymharu ag 11%).

Amodau tywydd difrifol 

  • Dywedodd dau o bob pump o'r ymatebwyr (41%) fod tywydd difrifol wedi achosi iddynt wneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y tri mis diwethaf. Dywed traean nad oedd tywydd o’r fath wedi effeithio ar eu lefelau gweithgarwch (34%), tra bo llai nag un o bob deg (6%) yn dweud eu bod wedi gwneud mwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ganlyniad.
  • Mae’r rhai sy’n dweud eu bod wedi gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwyaf tebygol o ddweud bod hyn oherwydd bod ganddynt lai o gymhelliant oherwydd y tywydd (49%), wedi cerdded / beicio llai i gyrraedd lleoliadau (31%), neu’n teimlo bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn llai pleserus yn ystod tywydd o’r fath (24%).
    • Mae ymatebwyr benywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd o ddweud eu bod wedi gwneud llai oherwydd eu bod yn teimlo bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn llai pleserus yn ystod tywydd o’r fath (29% o gymharu â 17%), tra bo ymatebwyr hŷn 55+ oed yn sylweddol fwy tebygol na rhai 18-34 oed o ddweud bod ganddynt lai o gymhelliant oherwydd y tywydd (57% o gymharu â 39%).
  • Mae’r rhai a lwyddodd i wneud yr un faint o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwyaf tebygol o ddweud hyn oherwydd eu bod bob amser yn dod o hyd i ffordd oherwydd ei bwysigrwydd iddynt (27%), oherwydd bod y gweithgaredd wedi gallu mynd yn ei flaen beth bynnag (25%), neu eu bod wedi addasu eu trefn ymarfer corff i gyd-fynd â’r tywydd (20%).
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o ddweud eu bod bob amser yn dod o hyd i ffordd oherwydd pwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol iddynt (33% o gymharu â 21%), tra bo ymatebwyr benywaidd yn sylweddol fwy tebygol o ddweud oherwydd bod y gweithgaredd wedi gallu mynd yn ei flaen beth bynnag (31% o gymharu â 19%).
    • Mae ymatebwyr mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai mewn grwpiau is o ddweud eu bod wedi addasu eu trefn ymarfer i gyd-fynd â'r tywydd (ABC1 o gymharu ag C2DE, 25% o gymharu â 14%).
  • Mae’r rhai sy’n dweud eu bod wedi gwneud mwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwyaf tebygol o ddweud bod hyn oherwydd bod eu camp / gweithgaredd corfforol yn fwy addas neu ar gael yn ystod amodau tywydd eithafol yn unig (37%), neu eu bod wedi newid i weithgaredd arall ac wedi gwneud mwy nag arfer (33%).