Diffinnir gweithgarwch corfforol fel cyfanswm o 30 munud neu fwy o ymarfer corff sy’n ddigon i gynyddu’r gyfradd anadlu.
Lefelau gweithgarwch
- Dywedodd un o bob dau (50%) o ymatebwyr eu bod wedi gwneud gweithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy'n parhau i fod yn unol â mis Hydref 24 (48%) a mis Ionawr 24 (47%).
- Mae cyfran yr ymatebwyr sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod yr wythnos (29%) hefyd yn gyson â mis Hydref 24 (28%), ond ychydig yn uwch na mis Ionawr 24 (24%).
- Mae cyfran yr ymatebwyr sydd ddim yn gwneud unrhyw ymarfer corff (13%) ychydig yn is hefyd nag ym mis Ionawr 24 (19%).
- Adroddodd oedolion yng Nghymru am gymedr o 3.31 diwrnod o weithgarwch corfforol yr wythnos. Mae hyn yn uwch na mis Ionawr 24 (2.86).
- Mae ymatebwyr 55+ oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 35 i 54 oed ac 16 i 34 oed o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf (20% a 10% o gymharu â 6%).
- Mae ymatebwyr ag anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai heb unrhyw anabledd o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf (22% o gymharu ag 8%).
- Mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is (C2DE) yn sylweddol fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn gwneud unrhyw weithgarwch corfforol na’r rhai o grwpiau uwch (ABC1) (18% o gymharu ag 8%).
- Dywedodd mwy na naw o bob deg (92%) o ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau bod eu plant yn gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol y tu allan i oriau ysgol ar ddiwrnod arferol yn ystod yr wythnos.
- Mae hyn yn sylweddol uwch nag ym mis Ionawr 24 (84%), a'r ffigwr uchaf a welwyd ers mis Hydref 23 (92%).
- Dywedodd mwy na naw o bob deg (92%) o ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau hefyd bod eu plant yn gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol y tu allan i oriau ysgol ar ddiwrnod arferol dros y penwythnos. Mae hyn yn unol â mis Hydref 24 (93%) a mis Ionawr 24 (90%).
Math o weithgarwch a’i amledd
- Y gweithgareddau mwyaf cyffredin a wnaed gan ymatebwyr yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg oedd cerdded ar gyfer hamdden (61%), cerdded i deithio (28%), campfa neu ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff o’r cartref (21%) a rhedeg neu loncian (19%).
- Yn ystod y tri mis diwethaf, dywedodd ychydig dros dri o bob pump o'r ymatebwyr eu bod yn cerdded yn rheolaidd naill ai ar gyfer hamdden neu i deithio (64%) (unwaith y mis o leiaf).
- Dywed ychydig mwy nag un o bob pedwar eu bod yn mynd i gampfa, dosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff (28%) ac mae mwy nag un o bob pump yn mynd i redeg neu loncian (23%), gan oddiweddyd nofio (20%) fel y trydydd gweithgaredd corfforol mwyaf cyffredin ymhlith oedolion yng Nghymru yn ystod y tri mis diwethaf.
- Dywed un o bob deg (10%) nad ydynt wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf. Mae hyn yr un fath ag ym mis Hydref 24 (10%) ac yn parhau i fod y ffigwr cydradd isaf a welwyd ar draws pob ton.
Cyfle a gallu
- Roedd ychydig llai na thri chwarter (74%) yr ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif, yr un fath ag ym mis Hydref 24 ac yn parhau i fod y sgôr uchaf a welwyd ar draws pob ton.
- Mae pobl ifanc 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (84% a 79% o gymharu â 63%).
- Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (86% o gymharu â 51%).
- Mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif na’r rhai o grwpiau is (C2DE) (81% o gymharu â 67%).
- Mae ychydig llai na thri o bob pedwar (73%) o’r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif, yn unol â mis Hydref 24 (74%) a mis Ionawr 24 (73%).
- Mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod ganddynt y cyfle i fod yn gorfforol actif na'r rhai o grwpiau is (C2DE) (79% o gymharu â 68%).
- Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif (83% o gymharu â 55%).
- Mae'r rhai sydd â phlant yn byw yn y cartref yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai heb blant o gytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif (80% o gymharu â 71%).
- Mae ychydig mwy nag un o bob pedwar (27%) o ymatebwyr yn cytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill. Mae hyn yn sylweddol is nag ym mis Ionawr 24 (34%) a'r ffigwr isaf a welwyd ar draws pob ton.
- Mae'r gostyngiad cyfan hwn yn cael ei achosi gan ostyngiad sylweddol mewn lefelau cytuno ymhlith ymatebwyr iau. Gwelwyd y cytuno ymhlith pobl ifanc 16 i 34 oed yn gostwng i 36% (o gymharu â 51% ym mis Ionawr 24), ac ymhlith pobl 35 i 54 oed bu gostyngiad i 33% (o gymharu â 41% ym mis Ionawr 24).
- Fodd bynnag, mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn parhau’n sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (36% a 33% o gymharu ag 16%).
- Mae ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai heb blant yr oed yma i gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (34% o gymharu â 22%).
- Mae ymatebwyr yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (29% o gymharu â 21%).
- Mae ymatebwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu eraill yn y cartref yn sylweddol fwy tebygol na’r rhai heb gyfrifoldebau o’r fath o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (35% o gymharu â 25%).
- Mae oedolion yng Nghymru o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol na'r rhai o grwpiau is (C2DE) (63% o gymharu â 52%).
- Pobl sy'n byw yn awdurdod lleol Canolbarth Cymru sydd fwyaf tebygol o anghytuno bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol (26%), sy'n sylweddol uwch nag ar gyfer ymatebwyr yng Ngwent (11%).