Cyfwelodd Savanta ComRes 1,037 o oedolion o Gymru (16+ oed) ar-lein rhwng 18fed Chwefror a 21ain Chwefror 2022. Pwysolwyd y data i fod yn ddemograffig gynrychioliadol o oedolion Cymru yn ôl rhywedd, oedran, rhanbarth, graddfa gymdeithasol, a'r amcangyfrif o aelwydydd sydd â phlant o dan 16 oed. Mae Savanta ComRes yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac mae’n cadw at ei reolau.
Canfyddiadau Allweddol
- Dywedodd 82% o oedolion eu bod yn ddigon iach i wneud ymarfer corff yn ystod yr amser hwn. Dyma’r ffigur isaf a welwyd yn ystod y pandemig (o uchafbwynt o 88% ym mis Mai 2020).
- Yn ystod y rownd hon o’r arolwg dywedodd bron i chwarter yr oedolion (24%) eu bod wedi gwneud gweithgarwch ar ‘dim un diwrnod’ yn ystod yr wythnos flaenorol. Dyma’r ffigur uchaf a welwyd drwy’r arolwg hwn ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig.
- Mae cyfran yr oedolion sy’n ymgymryd â gweithgarwch ar ‘3 diwrnod neu fwy’ hefyd yr isaf a welwyd yn ystod y pandemig, gyda llai na hanner yr oedolion (47%) yn nodi’r lefel hon o weithgarwch yn ystod wythnos yr arolwg.
- Er bod cyfran debyg o bobl wedi nodi eu bod wedi cymryd rhan mewn 'dosbarthiadau campfa, ffitrwydd neu ymarfer corff', a 'gweithgareddau ar-lein' fel yr arsylwyd ym mis Awst 2021, mae gweithgareddau eraill wedi gweld dirywiad: 'Cerdded', 'rhedeg neu loncian', 'gweithgareddau yn y cartref sy’n cael eu gwneud all-lein', 'nofio', 'beicio' a 'chwarae / gemau actif anffurfiol' sydd â'r cyfraddau cyfranogiad isaf a welwyd ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig. Dylid nodi, fodd bynnag, bod y ffigurau hyn yn adlewyrchu wythnos yr arolwg a oedd yn cyd-daro â Storm Eunice - adroddwyd cyfraddau uwch ar draws yr holl weithgareddau hyn am y tri mis blaenorol.
- Roedd 19% o oedolion wedi defnyddio campfa dan do neu ganolfan ffitrwydd yn ystod yr wythnos flaenorol, tra bo 16% wedi defnyddio pwll nofio dan do. Dyma'r cyfraddau uchaf a adroddwyd yn ystod y pandemig hyd yn hyn. Roedd y rhai a oedd wedi defnyddio’r cyfleusterau hyn hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny yn fwy nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig (roedd 92% yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio campfa / canolfan ffitrwydd, tra bo 91% yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio pwll nofio dan do).
- Er bod cyfran debyg o oedolion (67%) yn teimlo ei bod yn bwysig gwneud ymarfer corff yn rheolaidd fel y gwelwyd yn flaenorol, dim ond 22% o oedolion a ddywedodd eu bod wedi cael eu hannog i wneud ymarfer corff gan ganllawiau’r Llywodraeth – y gyfran isaf a welwyd drwy gydol y pandemig (43% ym mis Mai 2020).
- 'Cerdded' (75%), 'nofio' (36%), 'beicio' (28%), 'campfa', 'dosbarthiadau ffitrwydd neu ymarfer corff' (26%) a 'rhedeg / loncian' (24%) oedd y gweithgareddau yr oedd oedolion yn fwyaf tebygol o ddweud yr hoffent eu gwneud yn rheolaidd yn y dyfodol.
- Er bod cyfran is o oedolion yn teimlo'n hyderus ynghylch cymryd rhan o ganlyniad i'r rhaglen frechu barhaus (32%), mae'r gyfran sy'n poeni am adael y cartref i fod yn gorfforol actif wedi gostwng hefyd ac mae bellach yn 22%.
- Mae cyfleusterau dan do, gan gynnwys 'pyllau nofio', 'campfeydd', 'neuaddau chwaraeon', 'stiwdios', 'cyrtiau dan do', a 'rinciau sglefrio' i gyd wedi gweld cynnydd yn lefelau hyder oedolion ers mis Hydref 2020. Fodd bynnag, gwelodd cyfleusterau awyr agored, gan gynnwys 'cyrtiau awyr agored', caeau glaswellt, cyrsiau golff, traciau athletau a llethrau sgïo, ddirywiad mewn lefelau hyder.
- Tra bo 65% o oedolion yn teimlo eu bod yn cael y cyfle i fod yn actif, mae llai na hanner yn teimlo bod nifer digonol o gyfleusterau yn eu hardal leol (47%); bod y cyfleusterau hyn o ansawdd rhagorol (37%); eu bod yn fforddiadwy (41%); a'u bod yn gallu cyrraedd y rhai sy'n apelio atynt (48%).
- Mae’r mwynhad o ymarfer corff a adroddwyd yn ystod y rownd hon o'r arolwg yn is nag a welwyd yn flaenorol. Dywedodd 57% o oedolion eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt (o 60% ym mis Awst 2021) a dywedodd 42% eu bod yn teimlo bod gwneud ymarfer corff ar eu pen eu hunain yn bleserus - y gyfran isaf a welwyd drwy gydol y pandemig hyd yn hyn.
- Yn ystod wythnos yr arolwg yma dywedodd llai o oedolion eu bod yn gwneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd corfforol (57% o gymharu â 71% ym mis Hydref 2020) neu eu hiechyd meddwl (53% o gymharu â 65% ym mis Awst 2021).
- Roedd oedolion actif yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ‘hapus’ ac yn ‘fodlon gyda’u bywydau’ na’r rhai a oedd yn llai actif.