Cyfwelodd Savanta 1,025 o ymatebwyr 16+ oed ar-lein rhwng 19eg Awst a 22ain Awst 2022. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Roedd yr holl gyfranogwyr yn dod o Gymru ac mae’r data wedi’u pwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhywedd, rhanbarth a statws economaidd-gymdeithasol.
Canfyddiadau Allweddol
• Gwnaeth dau o bob pump o bobl weithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod yn ystod yr wythnos oedd yn arwain at gyfnod yr arolwg, cynnydd ar Don 5 ac yn unol â Thon 4 (Awst 21), tra bo’r gyfran na wnaeth unrhyw ymarfer corff wedi gostwng ers Ton 5 (Chwefror 22) ond eto mae yn unol â Thon 4 (Awst 21). Mae nifer y bobl sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod yn is heddiw nag yr oedd yn Nhon 4 (Awst 21).
• Cerdded yw'r gweithgaredd mwyaf poblogaidd o hyd, ac mae wedi gweld hwb mewn poblogrwydd o'r don flaenorol (Ton 5 – Chwefror 22), yn fwyaf tebygol oherwydd ei natur dymhorol. Mae cyfran uwch o ymatebwyr yn gwneud y gweithgaredd hwn gyda rhywun arall hefyd o gymharu â Thon 5 (Chwefror 22).
• Mae’r agweddau tuag at chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi dangos gostyngiad sy'n peri pryder o gymharu â'r un adeg y llynedd (Ton 4 - Awst 21), gyda llai o bobl yn cytuno bod ganddynt y cyfle neu'r gallu i fod yn actif, neu eu bod yn mwynhau'r gweithgareddau eu hunain. Mae'r rhai yng ngradd gymdeithasol CD2E yn dangos y duedd hon yn gyson o gymharu ag ABC1, gan ddangos bod anghydraddoldeb posibl o ran cyfle rhwng y grwpiau hyn.
• Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae pobl yn fwy hyderus ynghylch dychwelyd i gyfleusterau chwaraeon dan do o gymharu â'r un adeg y llynedd (Ton 4 - Awst 21). Roedd cyfran y bobl oedd wedi gwneud camp neu weithgaredd corfforol mewn cyfleuster dan do yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg wedi cynyddu o gymharu â Thon 4 (Awst 21), yn ogystal â chyfran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n hyderus mewn lleoliadau dan do fel campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd, pyllau nofio, neuaddau chwaraeon neu stiwdios.
• Mae effaith yr argyfwng costau byw yn dod yn fwyfwy amlwg, gyda mwy o bobl yn dweud y byddai gweithgareddau rhatach, fforddiadwyedd neu ostyngiadau yn eu helpu i fwynhau'r gweithgareddau maent yn eu gwneud yn well o gymharu â’r don flaenorol, Ton 5 (Chwefror 22).
• Yn ogystal â’r uchod, mae dau o bob pump o ymatebwyr yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, gyda bron i dri o bob deg yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw.