Taflen Cryno
Mae'r wybodaeth sy’n cael ei harddangos isod naill ai'n wahaniaethau sylweddol rhwng y data demograffig, neu'n newidiadau sylweddol ers y don flaenorol. Os ydych chi’n chwilio am ddadansoddiad manylach, edrychwch ar y taflenni ffeithiau ar gyfer ton 8 a thon 9.
Ychydig iawn o newidiadau sylweddol sydd wedi bod yn ymddygiadau ac agweddau merched tuag at chwaraeon a gweithgarwch corfforol ers y don flaenorol a gynhaliwyd ym mis Hydref 2023.
Mae dynion yn sylweddol fwy tebygol o fod yn hyderus yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn y lleoliadau canlynol na merched, a bydd rhai enghreifftiau’n dilyn isod:
- Caeau glaswellt (a ddefnyddir ar gyfer pêl droed, rygbi, criced ac ati) – 42% [dynion] o gymharu â 16% [merched]
- Campfeydd / Ystafelloedd iechyd a ffitrwydd – 45% o gymharu â 38%
- Pyllau nofio – 51% o gymharu â 44%
- Neuaddau chwaraeon – 39% o gymharu â 22%
- Cyrtiau awyr agored (a ddefnyddir ar gyfer tennis, pêl fasged ac ati) – 36% o gymharu â 22%
- Caeau artiffisial (a ddefnyddir ar gyfer hoci, pêl droed ac ati) – 35% o gymharu â 14%
- Parciau – 72% o gymharu â 62%
Mae dynion wedi gweld cynnydd o 7 pwynt canran mewn cerdded ar gyfer hamdden gyda rhywun arall. O 40% yn Hydref 23, i 47% yn Ionawr 24. Er hynny, mae merched yn parhau i fod yn sylweddol fwy tebygol o gerdded ar gyfer hamdden gyda rhywun arall na dynion (47% o gymharu â 54%).
Mae cerdded ar gyfer hamdden 2 i 4 diwrnod yr wythnos wedi cynyddu'n sylweddol ar gyfer dynion a merched ers Hydref 23. Mae wedi cynyddu 13 pwynt canran ar gyfer dynion, ac 8 pwynt canran ar gyfer merched.
Mae dynion yn sylweddol fwy tebygol o gael y cyfle i fod yn gorfforol actif, o gymharu â merched (77% o gymharu â 70%).
Dywedodd 61% o ddynion eu bod yn teimlo bod gweithgarwch corfforol yn “bleserus ac yn rhoi boddhad” o gymharu â 52% o ferched.
Dywedodd 71% o ddynion ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd, o gymharu â 62% o ferched.
Mae gostyngiad o 10 pwynt canran wedi bod yng nghyfran y dynion sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd meddwl ers Hydref 23.
Mae 39% o ddynion yn teimlo bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn ffactor pwysig iddyn nhw wrth ddewis pa chwaraeon neu weithgarwch corfforol i gymryd rhan ynddyn nhw, o gymharu â 31% o ferched.
Mae 44% o ddynion yn cymryd camau i ymddwyn yn gynaliadwy a lleihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd naturiol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol, o gymharu â 36% o ferched.
Byddai 30% o ferched yn hoffi mynychu campfa neu ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff o’r cartref yn y dyfodol, o gymharu â 23% o ddynion.