Cyfwelodd Savanta 1,063 o ymatebwyr 16+ oed ar-lein rhwng 27ain Gorffennaf a 31ain Gorffennaf 2023. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Roedd yr holl gyfranogwyr yn dod o Gymru ac mae data'r wedi’u pwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhywedd, rhanbarth a statws economaidd-gymdeithasol.
Crynodeb Gweithredol
- Mae ychydig llai na hanner oedolion Cymru yn gwneud rhywfaint o weithgarwch corfforol (2 i 4 diwrnod yr wythnos), sy'n gyson â mis Chwefror 23 ac sy'n parhau'n sylweddol uwch na mis Mai 22. Mae cyfran y bobl sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (25%) wedi aros yn sylweddol uwch na mis Chwefror 23 hefyd, ond yn is na'r un amser ddwy flynedd yn ôl (Awst 21).
- Y gweithgaredd mwyaf cyffredin a wneir gan oedolion yng Nghymru o hyd yw cerdded, tra bo cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi mynd i'r gampfa neu ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff yn rheolaidd yn sylweddol uwch na'r un amser ddwy flynedd yn ôl (Awst 21).
- Mae hyn yn dangos yr adferiad ôl-bandemig parhaus yn hyder pobl i fod yn actif mewn lleoliadau dan do. Er enghraifft, mae lefelau hyder mewn pyllau nofio a champfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd yn parhau i fod yn sylweddol uwch na mis Chwefror 22, ac wedi gwella ychydig ar ôl gostyngiad ym mis Ebrill 23.
- Hefyd mae oedolion yng Nghymru yn fwy tebygol o deimlo bod ganddynt y cyfle a'r gallu i fod yn actif o gymharu â'r adeg yma y llynedd (Awst 22).
- Fodd bynnag, mae’r rhai yn y 30% mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol na’r rhai yn y 30% lleiaf difreintiedig o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill.
- Yn yr un modd, mae ymatebwyr yn y 30% lleiaf difreintiedig yn fwy tebygol na’r rhai yn y 30% mwyaf difreintiedig o gytuno eu bod yn gweld ymarfer corff yn bleserus a’i fod yn rhoi boddhad iddynt, ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd, a bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif. Mae hyn yn awgrymu rhwystrau sylweddol i gyfranogiad a mwynhad y rhai mewn ardaloedd mwy difreintiedig.
- Mae effaith y cynnydd mewn costau byw yn cael ei deimlo'n gryfach hefyd gan y rhai mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae'r rhai yn y 30% mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol na'r rhai mewn amddifadedd canolig o gytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, a’u bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ganlyniad.
Lefelau gweithgarwch
Diffinnir gweithgarwch corfforol fel cyfanswm o 30 munud neu fwy o ymarfer corff sy’n ddigon i gynyddu cyfradd anadlu.
Lefelau gweithgarwch
- Gwnaeth mwyafrif yr oedolion yng Nghymru weithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod (47%), sy'n cyd-fynd â mis Chwefror 23 (46%) a mis Ebrill 23 (49%) ac mae'n parhau i fod yn sylweddol uwch na mis Mai 22 (41%).
- Mae'r gyfran na wnaeth ymarfer corff yn parhau'n sylweddol is na mis Chwefror 23 (18% o gymharu â 22%), ac yn unol â mis Awst 22 (20%) a mis Awst 21 (16%).
- Mae nifer y bobl sy’n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (25%) yn parhau’n sylweddol uwch na mis Chwefror 23 (19%), ond mae’n sylweddol is na mis Awst 21 (29%).
- Mae ymatebwyr 55+ oed yn fwy tebygol na’r rhai 16 i 34 a 35 i 54 oed o fod wedi gwneud dim gweithgarwch corfforol (24% o gymharu â 12% o gymharu â 15%).
Math ac amledd y gweithgarwch
- Y gweithgareddau mwyaf cyffredin a wnaed gan yr ymatebwyr yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg oedd cerdded ar gyfer hamdden (58%), cerdded i deithio (26%) a champfa a dosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff y tu allan i’r cartref (16%).
- Dywedodd ychydig dros dri o bob pump o’r ymatebwyr eu bod wedi cerdded naill ai ar gyfer hamdden neu i deithio yn rheolaidd (unwaith y mis o leiaf) yn ystod y tri mis diwethaf (62%), tra bo ychydig llai nag un o bob pedwar yn dweud eu bod wedi mynd i’r gampfa, dosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff (23%) ac un o bob pump wedi bod yn rhedeg neu loncian (18%) a nofio (18%).
- Dywed mwy nag un o bob deg (12%) nad ydynt wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf.
- Mae cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi mynd i'r gampfa, dosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff yn parhau'n sylweddol uwch nag Awst 21 (13% o gymharu â 23%).
- Mae’r ymatebwyr yn y 30% lleiaf difreintiedig yn fwy tebygol na'r rhai mewn amddifadedd canolig o ddweud eu bod wedi mynd i'r gampfa, dosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff yn rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf (25% o gymharu â 16%).
Rhesymau dros gymryd rhan
- Mae ychydig llai na thri o bob pump (58%) yn cytuno eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl, sy’n parhau’n sylweddol uwch na mis Chwefror 22 (53%). Mae mwy na hanner (56%) yn dweud eu bod yn gwneud hynny i helpu i reoli eu hiechyd corfforol.
- Mae ymatebwyr 16 i 34 oed (64%) a 35 i 54 oed (63%) yn fwy tebygol na’r rhai 55+ oed (49%) o ddweud eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl.
- O blith y rhai sydd wedi gwneud gweithgarwch corfforol yn rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf, dywedodd tri o bob pump o ymatebwyr (59%) mai bod yn gorfforol iach oedd eu prif reswm dros gymryd rhan, a dywedodd un o bob pump (19%) mai teimlo’n dda oedd eu prif reswm.
Cyfle a gallu
- Mae ychydig o dan dri o bob pedwar (73%) o ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif, sy’n sylweddol uwch na mis Awst 22 (64%) a mis Awst 21 (69%).
- Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (83% o gymharu â 79% o gymharu â 62%).
- Mae ychydig o dan dri o bob pedwar (73%) o ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt y cyfle i fod yn gorfforol actif, sy’n parhau i gynyddu o (65%) ym mis Chwefror 22. Mae hyn hefyd yn sylweddol uwch nag ym mis Awst 22 (65%).
- Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno bod ganddynt y cyfle i fod yn gorfforol actif (77% o gymharu â 77% o gymharu â 66%).
- Mae traean (34%) o’r ymatebwyr yn cytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill.
- Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (50% o gymharu â 40% o gymharu â 18%).
- Mae ymatebwyr yn y 30% mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol na’r rhai yn y 30% lleiaf difreintiedig o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (36% o gymharu â 26%).
Agweddau at weithgarwch
Y gallu i fwynhau, pwysigrwydd a hyder
- Mae ychydig llai na thri o bob pump (58%) o ymatebwyr yn cytuno eu bod yn gweld ymarfer corff yn bleserus a’i fod yn rhoi boddhad.
- Mae ymatebwyr yn y 30% lleiaf difreintiedig yn fwy tebygol na’r rhai mewn amddifadedd canolig a’r 30% mwyaf difreintiedig o gytuno eu bod yn gweld ymarfer corff yn bleserus a’i fod yn rhoi boddhad (67% o gymharu â 54% a 53%).
- Mae dwy ran o dair (68%) o’r ymatebwyr yn cytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd, sy’n parhau’n sylweddol uwch nag ym mis Awst 22 (64%).
- Mae ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd (71% o gymharu â 65%) o gytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd.
- Mae ymatebwyr yn y 30% lleiaf difreintiedig yn fwy tebygol na’r rhai yn y 30% mwyaf difreintiedig o gytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd (74% o gymharu â 65%).
- Mae tri o bob pump (58%) o’r ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif.
- Mae ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd (67% o gymharu â 50%) o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif.
- Mae ymatebwyr yn y 30% lleiaf difreintiedig yn fwy tebygol na’r rhai yn y 30% mwyaf difreintiedig o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (63% o gymharu â 53%).
Hyder mewn lleoliad
- Mae hyder mewn lleoliadau dan do wedi gwella ychydig ar ôl gostyngiad ym mis Ebrill 23, ac yn parhau i fod yn sylweddol uwch na mis Chwefror 22, gan gynnwys mewn pyllau nofio (52% o gymharu â 43%), a champfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd (41% o gymharu â 35%).
- Mae ymatebwyr 16 i 34 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn hyderus nag ymatebwyr 35 i 54 oed a 55+ oed mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd (58% o gymharu â 49% o gymharu â 24%) a phyllau nofio (61% a 56% o gymharu â 42%).
- O blith y rhai oedd wedi cymryd rhan mewn camp neu weithgaredd mewn cyfleuster dan do yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd tua naw o bob deg eu bod yn gyfforddus mewn campfeydd dan do neu ganolfannau ffitrwydd (89%) a phyllau nofio dan do (88%), tra bo pedwar o bob pump yn hyderus ar gaeau glaswellt / artiffisial dan do (81%) a thri chwarter ar gyrtiau dan do (76%).
Cwestiynau pwnc
Gwirfoddoli
- Nid yw ychydig dros ddau o bob pump o’r ymatebwyr (44%) wedi gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis diwethaf, sydd wedi gostwng yn sylweddol ers mis Ebrill 23 (49%). Mae ychydig dros un o bob deg (12%) yn gwirfoddoli ar hyn o bryd.
- Mae’r gwirfoddolwyr presennol yn fwy tebygol o fod yn wrywaidd (15% o gymharu â 9%), 16 i 34 oed (22% o gymharu â 12% o gymharu â 5%) ac â phlant (16% o gymharu â 9%)
- Mae bron i hanner yr ymatebwyr yn dweud ei bod yn debygol na fyddant yn gwirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf (48%), tra bo ychydig llai na thraean yn dweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol (31%).
- Mae ymatebwyr gwrywaidd (36% o gymharu â 25%) ac 16 i 34 oed (48% o gymharu â 32% o gymharu â 18%) yn fwy tebygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ogystal â’r rhai â phlant (39% o gymharu â 25%).
Costau byw
- Mae dau o bob pump o ymatebwyr (40%) yn cytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif.
- Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn fwy tebygol na phobl 55+ oed (47% o gymharu â 48% o gymharu â 28%) o gytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, yn ogystal â’r rhai â phlant (52% o gymharu â 34%) ac ymatebwyr benywaidd (44% o gymharu â 36%).
- Mae ymatebwyr yn y 30% mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol na’r rhai mewn amddifadedd canolig i gytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif (42% o gymharu â 33%).
- Dywed bron i hanner (48%) yr ymatebwyr nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, tra bo traean (32%) yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw.
- Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn fwy tebygol na phobl 55+ oed (42% o gymharu â 38% o gymharu â 21%) o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw, yn ogystal â’r rhai â phlant (47% o gymharu â 24%) ac ymatebwyr benywaidd (35% o gymharu â 29%).
- Mae ymatebwyr yn y 30% mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol na’r rhai mewn amddifadedd canolig o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw (35% o gymharu â 26%).
- Dywed dros chwarter (27%) yr ymatebwyr nad yw costau byw cynyddol wedi cael unrhyw effaith ar eu dewis o chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
- Mae ymatebwyr 55+ oed yn fwy tebygol na’r rhai 16 i 34 oed a 35 i 54 oed o ddweud nad yw / fydd costau byw cynyddol yn cael unrhyw effaith ar eu dewis o chwaraeon a gweithgarwch corfforol (37% o gymharu â 19% o gymharu â 22%), yn ogystal ag ymatebwyr gwrywaidd (30% o gymharu â 24%) a’r rhai heb blant (31% o gymharu â 19%).
Gweithgarwch ysgolion uwchradd
- Dywed dwy ran o dair o’r ymatebwyr (65%) eu bod wedi mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol ychydig o leiaf, gyda thraean (33%) yn dweud eu bod wedi gwneud hynny yn fawr.
- Mae ymatebwyr gwrywaidd (41% o gymharu â 25%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol yn fawr iawn.