Yn y ffeithlen hon yn ei chyfanrwydd, ‘dim cyflwr iechyd neu salwch’ a ‘chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog’ yw’r prif newidynnau sydd wedi cael eu defnyddio i ddeall y gwahaniaethau rhwng oedolion ag anabledd, ac oedolion heb anabledd. Mewn rhai achosion lle mae’r sampl yn ddigon mawr, mae’r cyflyrau iechyd hirsefydlog wedi cael eu rhannu ymhellach yn gyflyrau a salwch ‘meddyliol’ a ‘chorfforol’ er mwyn darparu gwell dealltwriaeth.
Penawdau anabledd allweddol:
- Roedd y gyfradd ar gyfer y rhai â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog a'r rhai heb unrhyw gyflwr iechyd neu salwch oedd yn cymryd rhan mewn 30+ munud o weithgarwch corfforol ar 2 i 4 o ddyddiau yr wythnos yn adlewyrchu'r canlyniadau ym mis Ebrill 2023 – 51% [dim cyflwr iechyd neu salwch] o gymharu â 43% [cyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog].
- Mae'r rhai heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif, sydd wedi cynyddu 5 pwynt canran ers mis Ebrill 2023, o gymharu â'r rhai sydd â chyflwr neu salwch meddyliol neu gorfforol - 66% o gymharu â 49% o gymharu ag 82%.
- Mae'r rhai heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif, sydd wedi cynyddu 5 pwynt canran ers mis Ebrill 2023, o gymharu â'r rhai sydd â chyflwr neu salwch meddyliol neu gorfforol – 66% o gymharu â 49% o gymharu ag 82%.
- Mae 46% o bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi cael eu heffeithio'n negyddol gan y cynnydd mewn costau byw, o gymharu â 36% o bobl heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog.
- Mae'r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch corfforol yn llai tebygol nag unrhyw grŵp arall o ddefnyddio ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl. Bu gostyngiad o 7 pwynt canran ar gyfer y rhai â chyflwr neu salwch corfforol sy'n defnyddio ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl ers mis Ebrill 2023 – 61% o gymharu â 48% o gymharu â 60%.
- Mae 50% o'r rhai â chyflwr iechyd neu salwch yn gallu cyrraedd eu cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol o gymharu â 61% heb gyflwr iechyd neu salwch.
- Mae 65% o’r ymatebwyr heb gyflwr iechyd neu salwch yn gweld ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad, o gymharu â 48% o bobl â chyflwr iechyd neu salwch.
- Mae pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl neu salwch yn fwy tebygol o boeni am adael y cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol nag unrhyw grŵp arall – 44% o gymharu â 33% o gymharu ag 17%.
Cenedl Actif (Math o Gyfranogiad a Gweithgarwch):
- Nid yw 26% o'r ymatebwyr sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog wedi gwneud 30+ munud o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, o gymharu â 14% o'r rhai heb unrhyw gyflwr iechyd neu salwch.
- Roedd y gyfradd ar gyfer y rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog a'r rhai heb unrhyw gyflwr iechyd neu salwch yn cymryd rhan mewn 30+ munud o weithgarwch corfforol ar 2 i 4 o ddyddiau yr wythnos yn adlewyrchu'r canlyniadau ym mis Ebrill 2023 – 51% [dim cyflwr iechyd neu salwch] o gymharu â 43% [cyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog].
- Ymhellach i'r data hyn, mae'r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch meddyliol neu gorfforol yn fwy tebygol o fod wedi dweud eu bod wedi gwneud 'dim gweithgarwch' (o 30+ munud i gynyddu’r gyfradd anadlu) yn ystod yr wythnos flaenorol, o gymharu â'r rhai heb unrhyw broblemau iechyd (mae’r niferoedd hyn wedi aros yn gymharol sefydlog drwy gydol y 2 arolwg blaenorol):
- Cyflwr neu salwch meddyliol – 23%
- Cyflwr neu salwch corfforol – 31%
- Dim cyflwr iechyd na salwch – 14%
- Ymatebwyr nad oes ganddynt unrhyw gyflwr iechyd neu salwch (51%) sydd fwyaf tebygol o fod wedi cymryd rhan mewn 30+ munud o weithgarwch corfforol ar 2 i 4 o ddyddiau yr wythnos, o gymharu â’r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch meddyliol (43%) neu gorfforol (39%). Er, mae'r nifer hwn wedi gostwng 6 phwynt canran ar gyfer y rhai sydd â chyflwr meddyliol neu salwch ers mis Ebrill 2023.
- Cerdded i hamddena oedd y gweithgaredd mwyaf poblogaidd ymhlith yr holl grwpiau, er bod y rhai heb unrhyw gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog ychydig yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn cerdded i hamddena – 52% o gymharu â 49%.
- Mae'r rhai sydd â chyflwr neu salwch meddwl yn fwyaf tebygol o fod wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch yn y cartref, o gymharu â'r grwpiau eraill:
- Cyflwr neu salwch meddyliol – 21%
- Cyflwr neu salwch corfforol – 15%
- Dim cyflwr iechyd na salwch – 19%
- Mae'r rhai heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn fwy tebygol o fod wedi cymryd rhan mewn campfa, dosbarth ffitrwydd neu ddosbarth ymarfer corff o’r cartref na'r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog. Bu gostyngiad o 5 pwynt canran ers mis Ebrill 2023 o blith y rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog sy’n cymryd rhan mewn campfa, dosbarth ffitrwydd neu ddosbarth ymarfer corff o’r cartref, sydd wedi mynd o 14% i 9%. O gymharu â’r 19% o'r rhai heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog sy’n cymryd rhan.
- Roedd 53% o'r ymatebwyr heb unrhyw gyflwr iechyd neu salwch yn cerdded i hamddena gyda rhywun arall, o gymharu â 47% o’r ymatebwyr â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog.
- Mae 1 o bob 3 (33%) o’r ymatebwyr heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol, o gymharu ag ychydig dros 1 o bob 4 o ymatebwyr sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirdymor (26%).
Pawb (Cynhwysiant):
- Mae’r rhai heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif, sydd wedi cynyddu 5 pwynt canran ers mis Ebrill 2023, o gymharu â’r rhai sydd â chyflwr neu salwch meddyliol neu gorfforol:
- Cyflwr neu salwch meddyliol – 66%
- Cyflwr neu salwch corfforol – 49%
- Dim cyflwr iechyd na salwch – 82%
- Mae'r rhai heb unrhyw gyflwr iechyd neu salwch yn fwy tebygol o fod wedi dweud bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol yn fforddiadwy, o gymharu â'r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog – 45% o gymharu â 37%.
- Mae 46% o’r bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi cael eu heffeithio'n negyddol gan y cynnydd mewn costau byw, o gymharu â 36% o bobl heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog.
- Mae 25% o'r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog wedi / yn mynd i newid i weithgareddau am ddim oherwydd y cynnydd mewn costau byw o gymharu â 21% o'r rhai heb unrhyw gyflyrau iechyd neu salwch hirsefydlog.
- Mae’r effaith y mae’r cynnydd mewn costau byw wedi’i chael ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi gostwng i’r rhai heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog – 48% o gymharu â 51%
Gydol Oes (Galw):
- Mae'r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch corfforol yn llai tebygol nag unrhyw grŵp arall o ddefnyddio ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl. Bu gostyngiad o 7 pwynt canran ar gyfer y rhai sydd â chyflwr neu salwch corfforol sy’n defnyddio ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl ers mis Ebrill 2023:
- Cyflwr neu salwch meddyliol – 61%
- Cyflwr neu salwch corfforol – 48%
- Dim cyflwr iechyd na salwch - 60%
- Er, y rhai heb unrhyw gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog sydd fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i reoli eu hiechyd corfforol o gymharu ag unrhyw grŵp arall. Mae’n bwysig nodi bod hyn wedi gostwng 7 pwynt canran ar gyfer y rhai sydd â chyflwr neu salwch corfforol ers mis Ebrill 2023:
- Cyflwr neu salwch meddyliol – 49%
- Cyflwr neu salwch corfforol – 48%
- Dim cyflwr iechyd na salwch - 60%
- Mae 50% o'r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch yn gallu cyrraedd eu cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol o gymharu â 61% heb gyflwr iechyd neu salwch.
- Mae’r ymatebwyr sydd â chyflwr iechyd neu salwch yn llai tebygol o gytuno bod cyfleusterau o ansawdd uchel yn yr ardal leol o gymharu ag ymatebwyr heb gyflwr iechyd neu salwch – 48% o gymharu â 41%
Mwynhad (Hyder a Mwynhad):
- Mae 65% o’r ymatebwyr heb gyflwr iechyd neu salwch yn gweld ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad, o gymharu â 48% o’r bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch.
- Pobl sydd â chyflwr neu salwch corfforol sydd leiaf tebygol o ddweud bod ganddynt y gallu i wneud ymarfer corff o gymharu â'r grwpiau eraill:
- Cyflwr neu salwch meddyliol – 65%
- Cyflwr neu salwch corfforol – 44%
- Dim cyflwr iechyd na salwch – 84%
- Mae 38% o’r bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn cytuno nad ydynt yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar eu pen eu hunain, sef cynnydd o 7 pwynt canran ers mis Ebrill 2023 a 9 pwynt canran yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. O gymharu, mae 25% o bobl heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn cytuno nad ydynt yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar eu pen eu hunain.
- Mae pobl heb unrhyw gyflyrau iechyd neu salwch hirsefydlog yn fwy tebygol o fod â'r hyder i fod yn gorfforol actif o gymharu â'r rhai sydd â chyflyrau iechyd neu salwch – 68% o gymharu â 42%.
- Mae ychydig o dan 1 o bob 2 (47%) o bobl nad oes ganddynt unrhyw gyflyrau iechyd neu salwch hirsefydlog yn hyderus i ddefnyddio campfeydd neu ystafelloedd ffitrwydd, o gymharu ag ychydig o dan 1 o bob 3 (32%) o bobl sydd â chyflyrau iechyd neu salwch hirdymor.
- Yn ychwanegol at hyn, mae'r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o fod yn gyfforddus mewn campfa dan do neu ganolfan ffitrwydd – 95% o gymharu â 85%.
- Mae pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl neu salwch yn fwy tebygol o boeni am adael y cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol nag unrhyw grŵp arall:
- Cyflwr neu salwch meddyliol – 44%
- Cyflwr neu salwch corfforol – 33%
- Dim cyflwr iechyd na salwch – 17%