Main Content CTA Title

Rhywedd

Mae’r wybodaeth sy'n cael ei harddangos isod naill ai’n wahaniaethau sylweddol rhwng y data demograffig, neu’n newidiadau sylweddol ers y don flaenorol. Os ydych chi'n chwilio am ddadansoddiad manylach, edrychwch ar y taflenni ffeithiau ar gyfer tonnau 8 a 9.

 

  • Mae cyfran y dynion sy’n cerdded ar gyfer hamdden wedi cynyddu 9 pwynt canran ers y don flaenorol, tra bo cyfraddau’r merched wedi aros yr un fath.
  • Mae cerdded ar gyfer hamdden am 2 i 4 diwrnod wedi gostwng 13 pwynt canran ar gyfer dynion ond wedi cynyddu 10 pwynt canran ar gyfer cerdded 5+ diwrnod. Ar gyfer merched, mae’r cyfraddau wedi aros yn debyg i’r tonnau blaenorol.
  • Mae benywod yn fwy tebygol o fod wedi gwneud ymarfer corff ar 0 diwrnod yn ystod yr wythnos ddiwethaf o gymharu â gwrywod (13% o gymharu â 23%)
  • Mae benywod gryn dipyn yn fwy tebygol o gerdded ar gyfer hamdden gyda rhywun, o gymharu â gwrywod (40% o gymharu â 51%)
  • Mae gwrywod gryn dipyn yn fwy tebygol o fod yn hyderus yn defnyddio campfa / ystafell iechyd a ffitrwydd na merched (47% o gymharu â 38%).
  • Mae gwrywod hefyd gryn dipyn yn fwy tebygol o fod yn hyderus yn defnyddio parciau (a ddefnyddir ar gyfer chwarae anffurfiol, rhedeg, cerdded ac ati) na benywod (73% o gymharu â 64%).
  • Cytunodd mwy nag 1 o bob 3 menyw nad ydynt yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar eu pen eu hunain, mae hyn o gymharu ag ychydig o dan 1 o bob 4 dyn (24% o gymharu â 35%).
  • Mae 26% o ferched yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, ac mae hyn o gymharu ag 17% o ddynion.
  • Mae dynion gryn dipyn yn fwy tebygol na merched o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i reoli eu hiechyd corfforol a meddyliol:
  • Iechyd corfforol – 63% o gymharu â 51%
  • Iechyd meddyliol – 65% o gymharu â 56%
  • Bu cynnydd hefyd o 7 pwynt canran yn nifer yr ymatebwyr gwrywaidd sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i reoli eu hiechyd meddwl ers y don flaenorol ym mis Awst 2023.
  • Mae dynion gryn dipyn yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bwriadu gwirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf na merched (40% o gymharu â 31%).
  • Mae 36% o ferched yn credu bod y cyfleusterau yn eu hardal leol yn fforddiadwy, mae hyn o gymharu â 45% o ddynion.
  • Mae 37% o ferched wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd y newidiadau mewn costau byw o gymharu â 29% o ddynion.