Pam mae’r ymgynghoriad hwn yn bwysig
Mae digwyddiadau tywydd eithafol a’r argyfwng ynni eisoes yn effeithio ar bob rhan o gymdeithas ym Mhrydain Fawr, ac mae ymwybyddiaeth gynyddol o’r angen am gamau cyflymach i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn dod yn fwy cyffredin yn fyd-eang ac yn lleol.
Mae Sport England, sportscotland a Chwaraeon Cymru yn ymwybodol iawn y bydd y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cael ei effeithio gan newid yn yr hinsawdd ac ansawdd amgylcheddol (sy'n effeithio ar allu pobl i gymryd rhan), yn ogystal â chael effaith ar yr amgylchedd. Rydym yn cydnabod bod gennym gwmpas, cyfle a rhwymedigaeth sylweddol i greu newid cadarnhaol. Fodd bynnag, nid oes dealltwriaeth gyffredin o’r broblem ar draws ein sector, sut i ddechrau arni, a ble gall y sector gael yr effaith fwyaf. Yr ymgynghoriad hwn yw’r cam cyntaf i fynd i’r afael â hyn.
Bydd Sport England yn defnyddio canfyddiadau’r ymgynghoriad hwn i ddatblygu strategaeth ar gyfer sut gall gefnogi a dylanwadu ar y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lawr gwlad i gyflymu camau gweithredu ar gynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd Chwaraeon Cymru (sydd eisoes â strategaeth gynaliadwyedd, Cynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol Chwaraeon Cymru) a sportscotland yn defnyddio’r canfyddiadau a’r wybodaeth i flaenoriaethu ac fel sail i’r camau maent yn eu cymryd i gefnogi clybiau / grwpiau / sefydliadau chwaraeon.
Methodoleg
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Ebrill a Mai 2023 gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau meintiol ac ansoddol i ddeall yr heriau presennol, y camau gweithredu, y cyfleoedd a’r cymorth sydd eu hangen..
- Cafwyd 475 o ymatebion o bob rhan o Brydain Fawr a chan 76 o wahanol chwaraeon mewn arolwg ar-lein, a dargedwyd at glybiau / sefydliadau / grwpiau ar lawr gwlad.
- Cynhaliwyd 19 cyfweliad ar-lein gydag amrywiaeth o arweinwyr o fewn y Cynghorau Chwaraeon, partneriaid system / cyrff ymbarél, a chyrff rheoli.
- Cynhaliwyd 6 grŵp ffocws ar-lein, gyda chyfanswm o 161 o bobl yn bresennol o gyrff rheoli a phartneriaid system / cyrff ymbarél, Awdurdodau Lleol, a pherchnogion a gweithredwyr y llefydd a’r mannau lle mae gweithgarwch corfforol yn digwydd.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad gan Useful Projects (ymgynghoriaeth cynaliadwyedd, Menter Gymdeithasol a B Corp), gyda chefnogaeth Right Formula ac EcoIMPACT SPORTS.
Gweithredu
Mae ymwybyddiaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd am newid yn yr hinsawdd, ac adlewyrchwyd hyn yn yr ymgynghoriad. Mae’r ymgynghoriad wedi datgelu bod gan y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol lefelau da eisoes o wybodaeth am effeithiau amgylcheddol a sut byddant yn effeithio ar glybiau / sefydliadau / grwpiau, a digon o uchelgais i fynd i’r afael â’r materion hyn. Dywedodd 82% o ymatebwyr yr arolwg eu bod am i'w sefydliad fod yn uchelgeisiol o ran cynaliadwyedd amgylcheddol.
Dywedodd 62% o ymatebwyr yr arolwg eu bod wedi rhoi rhyw fath o gamau amgylcheddol ar waith; rydym yn credu bod y ganran hon yn arbennig o uchel oherwydd ei bod yn debygol bod yr arolwg wedi'i gwblhau gan y rhai sy'n ymgysylltu fwyaf yn y sector. Yn ystod y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws, roedd y rhanddeiliaid yn teimlo’n gyffredinol mai ychydig iawn o gamau sy’n cael eu cymryd gan glybiau / grwpiau ar lawr gwlad, ond bod rhai CRhC wedi dechrau.
Mae'n ymddangos bod y gallu i weithredu yn cael ei lesteirio gan ddiffyg arian a chapasiti i roi newidiadau ar waith - mewn sector sy'n ddibynnol iawn ar wirfoddolwyr ac sydd â phrinder arian parod.
Mae rhai rhannau o’r sector wedi bod yn cymryd camau i reoli effeithiau amgylcheddol ers blynyddoedd lawer, yn enwedig chwaraeon sy’n rhyngweithio â dŵr (naill ai ansawdd dŵr, llifogydd neu sychder). Roedd gwella effeithlonrwydd ynni adeiladau, cyfathrebu i ddylanwadu ar ymddygiadau cyfranogwyr (e.e. y ffordd maent yn teithio), a mentrau ailddefnyddio / ailgylchu hefyd yn gamau gweithredu yr adroddwyd amdanynt yn gyffredin.
Datgelodd yr arolwg bod sefydliadau sy’n berchen ar eu cyfleusterau eu hunain yn tueddu i fod wedi rhoi mwy o gamau ar waith na’r rhai nad ydynt. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd bod ganddynt fwy o reolaeth dros y cyfleuster a'i weithrediadau. Hefyd mae clybiau / sefydliadau gyda mwy o arian wedi tueddu i fod wedi gweithredu mwy.
Dywedodd bron i chwarter y rhai a ymatebodd i’r arolwg eu bod wedi asesu eu heffeithiau ac wedi rhoi Polisi, Cynllun Gweithredu neu Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol ffurfiol ar waith – ond rydym yn ymwybodol bod pobl a ymatebodd i arolwg am gynaliadwyedd amgylcheddol yn debygol o ymgysylltu mwy â’r agenda. .
Dywedodd 25% o ymatebwyr yr arolwg nad ydynt erioed wedi gofyn am gyngor cynaliadwyedd. I'r rhai sydd wedi gwneud hynny, maent yn mynd at ystod eang o ffynonellau ar gyfer hyn, y gellid eu hystyried yn aneffeithlon ac a allai hefyd arwain at negeseuon cymysg. Mae clybiau chwaraeon yn tueddu i fynd at gyrff rheoli am gyngor, neu chwilio am arbenigedd ymhlith eu haelodau. Dywedodd sefydliadau cymunedol eu bod yn tueddu i fynd at eu hawdurdod lleol neu sefydliad chwaraeon neu weithgarwch corfforol lleol arall am gyngor, gan dynnu sylw at bwysigrwydd rhwydweithiau lleol o fewn ardal ddaearyddol.
Mae cyrff rheoli yn tueddu i fynd at ymgynghoriaethau / elusennau, a'r Cynghorau Chwaraeon. Mae’r rhain yn ystyriaethau pwysig ar gyfer y cymorth sydd ei angen. Y cwestiwn i'r Cynghorau Chwaraeon yw, sut gallant ddylanwadu ar wella hyn?
Fe wnaethom ofyn am y sbardunau ar gyfer gweithredu. Dywedodd 56% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg mai rhesymau moesol a moesegol yw’r rhesymau cryfaf, wedi’u dilyn yn agos gan gynllunio gwydnwch busnes hirdymor ac arbed arian.