Cynaliadwyedd Amgylcheddol mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol - Canfyddiadau allweddol
Mae ystod eang o heriau amgylcheddol yn wynebu'r sector. Mae llawer o'r rhain yn gyffredin ar draws pob math o chwaraeon, ond yn naturiol, mae rhai chwaraeon yn wynebu materion gwahanol i rai eraill.
Mae pob rhan o'r sector eisoes yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng ynni ac argaeledd adnoddau. Costau ynni cynyddol, a chostau cynhyrchion a deunyddiau oedd yr heriau ymddangosiadol mwyaf yn yr arolwg, ac ategwyd hyn yn y grwpiau ffocws a'r cyfweliadau.
Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol a wneir yn yr awyr agored eisoes yn cael eu heffeithio gan ddigwyddiadau tywydd eithafol (llifogydd / sychder / tywydd poeth). Dywedodd 39% o’r ymatebwyr bod tarfu ar chwarae oherwydd y tywydd yn her maent yn ei hwynebu.
Mae canfyddiadau'r ymgynghoriad yn dynodi mai'r effeithiau mwyaf y mae'r sector yn eu cael ar yr amgylchedd yw: dibyniaeth ar geir i deithio i / o fannau lle mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn digwydd; defnydd o nwy a thrydan o adeiladau (ac mae llawer ohonynt yn heneiddio, yn aneffeithlon o ran ynni ac yn gostus i'w gweithredu); a materion gwastraff (naill ai heriau sbwriel / ailgylchu neu git chwaraeon ac offer sydd ag oes fer).
Cwestiwn arolwg: Pa effeithiau, os o gwbl, y mae eich sefydliad yn eu cael ar yr amgylchedd yn eich barn chi? (Dewiswch eich 3 uchaf)
Rhwystrau i weithredu ar yr heriau hynny
Un o’r cwestiynau allweddol a ofynnwyd yn ystod yr ymgynghoriad oedd “beth yw’r rhwystrau i weithredu ar yr heriau amgylcheddol hyn?”
Dim digon o gyllid oedd y rhwystr mwyaf i glybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol yn yr arolwg, a’r ail rwystr mwyaf i gyrff rheoli.
Ar gyfer cyrff rheoli ac ymbarél, diffygcapasiti oedd y prif rwystr, gyda'r mwyafrif heb swyddi cynaliadwyedd penodol. Cadarnhawyd y canfyddiadau hyn drwy’r cyfweliadau a’r grwpiau ffocws, gyda'r cyrff rheoli eisiau “rhoi trefn ar eu tŷ eu hunain” cyn eu bod yn teimlo y gallant gefnogi eu haelodau.
Dynododd y cyfweliadau a'r grwpiau ffocws bod clybiau / grwpiau yn deall y materion, ond y brif her yw gwybod ble a sut i ddechrau a chael yr amser a'r arian i wneud hynny: mae her o ran gweithredu. Nododd yr arolwg yr angen am symud o ymwybyddiaeth i gamau ymarferol a newid ymddygiad.
Mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol hamdden, nid yw'r adeiladau a'r cyfleusterau yn eiddo i'r clwb / partner darparu gweithgarwch yn aml, a thynnwyd sylw at y diffyg rheolaeth a gallu i wneud newidiadau; rhoi pwyslais ar rôl dylanwadu, cydweithredu a gweithredu ar y cyd wrth gyflawni uchelgeisiau cynaliadwyedd amgylcheddol.
Tri uchaf
Ydi eich sefydliad yn berchen ar ei gyfleusterau?
Ydi
Nac ydi
1
Dim digon o gyllid
Diffyg capasiti
2
Diffyg capasiti
Dim digon o gyllid
3
Diffyg gwybodaeth ac arbenigedd
Diffyg gallu i ddylanwadu
Y prif rwystrau i weithredu ar heriau amgylcheddol, yn dibynnu ar a yw'r sefydliad yn berchen ar ei gyfleusterau ei hun ai peidio
475 o’r ymatebwyr i’r arolwg o bob rhan o Brydain Fawr:
76 o wahanol chwaraeon a gweithgareddau wedi’u cynrychioli
86% o'r ymatebwyr yn credu bod eu sefydliadau naill ai'n eithaf gwybodus neu'n wybodus iawn am faterion cynaliadwyedd
82% eisiau i’w sefydliadau fod yn uchelgeisiol o ran cynaliadwyedd amgylcheddol
58% yn ystyried dibyniaeth ar geir fel effaith amgylcheddol fwyaf eu sefydliad
25% o sefydliadau heb ofyn am gyngor ar gynaliadwyedd erioed
58% wedi dweud bod defnydd ynni yn her amgylcheddol allweddol, os ydynt yn berchen ar eu cyfleusterau eu hunain ai peidio
56% wedi dweud mai rhesymau moesol a moesegol yw'r sbardunau cryfaf dros weithredu, gyda gwydnwch busnes ac arbed arian yn dilyn yn agos
55% o sefydliadau yn gweld diffyg cyllid fel y rhwystr mwyaf i weithredu ar gynaliadwyedd amgylcheddol
Y gefnogaeth sydd ei hangen
Darparwyd ystod eang o ymatebion, gan ddynodi y byddai gwahanol fathau o gymorth cynaliadwyedd amgylcheddol o fudd i'r sector. Yn y dadansoddiad, rydym yn tynnu sylw at y cymorth sydd ei angen ar Gyrff Rheoli / Partneriaid System (a lle maent yn cael mynediad at y cymorth hwn ar hyn o bryd), yn ogystal â’r cymorth sydd ei angen ar y clybiau a’r grwpiau ar lawr gwlad.
Nodwyd cyllid ar gyfer mentrau amgylcheddol fel y math o gefnogaeth a ddymunir fwyaf ar gyfer sefydliadau: dywedodd 59% o ymatebwyr hyn. Daeth cyllid a mwy o gapasiti ar gyfer partneriaid systemau ar gyfer cynaliadwyedd yn amlwg iawn hefyd yn y grwpiau ffocws a'r cyfweliadau.
Y meysydd cymorth allweddol eraill yr oedd eu hangen oedd:
Canllawiau - deunydd ar-lein a allai gynnwys canllawiau, templedi, pecynnau adnoddau ac ati
Cefnogaeth a chyngor arbenigol, e.e. drwy ymweliadau safle personol neu fynediad at ymgynghorwyr
Sesiynau hyfforddi ac addysg am ddim (e.e. Pecyn Adnoddau Chwaraeon Llythrennedd Carbon)
Adnoddau cyfathrebu am ddim i’w lawrlwytho (e.e. posteri)
Offer mesur amgylcheddol am ddim (e.e. mesuryddion ynni, synwyryddion)
Mentrau / ymgyrchoedd ar y cyd i gymryd rhan ynddynt
Astudiaethau achos o arfer orau a gwersi a ddysgwyd
Amlygwyd yr angen am ganolbwyntio ar “gynnydd nid perffeithrwydd”, felly bydd mesurau cefnogi sy’n ei gwneud yn hawdd i glybiau gymryd camau bach yn bwysig.
Yn ogystal, mae’r ymgynghoriad wedi pwysleisio’r angen am arweiniad traws-sector: yr angen am gyfeiriad a negeseuon clir, un llais, eglurder a chydweithredu. Mae hyn yn cadarnhau pwysigrwydd y Gynghrair Chwaraeon, Amgylchedd a Hinsawdd (SECC), i arwain a chydlynu ymdrechion y sector ar newid yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol ehangach.
Mae’r sector hefyd yn chwilio am gyfleoedd i gydweithredu, rhwydweithio ag eraill ar yr un siwrnai, rhannu dysgu ac arbenigedd, a hyd yn oed cydweithio i ddylanwadu ar bartneriaid masnachol er enghraifft.
Yr heriau amgylcheddol allweddol yr hoffai’r sector gael cymorth i fynd i’r afael â hwy yw:
Teithio: Lleihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â theithio i / o'r mannau lle mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn digwydd (hyfforddiant / cystadlaethau ac ati).
Adeiladau: Lleihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon o adeiladau.
Economi gylchol: lleihau defnydd a gwastraff sy'n gysylltiedig ag offer, cit a gweithrediadau cyffredinol.
Ansawdd a defnydd dŵr: gwella ansawdd dŵr (afonydd / llynnoedd / môr), rheoli costau dŵr cynyddol, rheoli llifogydd a sychder ar gaeau awyr agored a mannau gwyrdd trefol.
Addasu i newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol: i gynnal gallu’r sector i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, nawr ac yn y dyfodol.
Mae pŵer chwaraeon i ymgysylltu â phobl bob dydd a dylanwadu’n gadarnhaol arnynt wedi’i gydnabod ers blynyddoedd lawer. Drwy gydol yr ymgynghoriad, codwyd yr angen am newid ymddygiad amgylcheddol ymhlith darparwyr chwaraeon a gweithgareddau a chyfranogwyr fel ei gilydd (sut rydym yn teithio, beth rydym yn ei brynu, osgoi gwastraff, arbed ynni ac ati).
Er bod gan bencampwyr / arwyr chwaraeon ran i'w chwarae, datgelodd yr ymgynghoriad mai hyfforddwyr / addysgwyr yn aml sy'n arweinwyr uchel eu parch yn y gymuned ar lawr gwlad, yn gweithio gyda chyfranogwyr yn wythnosol. Drwy ddarparu sesiynau hyfforddi ac ymgysylltu i hyfforddwyr / addysgwyr / rheolwyr, a’u cael hwy i ddangos arweiniad ar gyfer gweithredu dros gynaliadwyedd amgylcheddol, gallem gyflawni sgil-effeithiau ar ffurf newid ymddygiad a gweithredu.
Rôl Sport England, sportscotland, a Chwaraeon Cymru
Mae llawer o sefydliadau’n gweithredu yn y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac yn aml mae’n aneglur pwy sy’n gwneud beth/a ddylai fod yn gwneud beth a sut mae holl agendâu a gweithgareddau’r sefydliadau yn cyd-fynd (neu beidio).
Y meysydd allweddol lle’r oedd cyfranogwyr yr ymgynghoriad yn teimlo y gallai Sport England, sportscotland a Chwaraeon Cymru chwarae rhan, o ystyried eu safle a’u rôl yn y sector, oedd :
Arweinyddiaeth a dylanwad: Dylanwadu “i fyny" at y Llywodraeth (e.e. newid polisi), dylanwadu a galluogi newid systemau gan weithio gyda phartneriaid, ac ysbrydoli a chefnogi “i lawr” i glybiau a chyfranogwyr.
Buddsoddi mewn partneriaid strategol: Parhau â / cynyddu cyllid partneriaid strategol – gallai’r Cynghorau Chwaraeon ariannu swyddi cynaliadwyedd, a allai yn ei dro gael dylanwad enfawr ar draws y sector.
Cyllid agored ar gyfer clybiau / grwpiau / cyfleusterau: Defnyddio cyllid grant fel ysgogiad ar gyfer newid. Cyflwyno grant amgylcheddol / gweithredu dros yr hinsawdd, a / neu gyflwyno meini prawf amgylcheddol fel rhan o Raglenni Grantiau mwy eraill.
Ariannu canllawiau ac adnoddau canolog: Ariannu cyngor /cymorth arbenigol am ddim, canllawiau ar-lein a thempledi cynllun gweithredu, sesiynau hyfforddi ac addysg am ddim (e.e. helpu i ariannu’r Pecyn Chwaraeon Llythrennedd Carbon). Gallai'r Cynghorau Chwaraeon gyflwyno adnoddau canolog y gellir eu haddasu / defnyddio ar draws gwahanol chwaraeon / cyfleusterau - i osgoi dyblygu ymdrechion. Gellid cynnwys cyfeirio at astudiaethau achos arfer gorau yn hyn.
Cyfleusterau a chynllunio: Drwy ein hymwneud â’r system gynllunio, arwain canllawiau dylunio’r sector ac fel buddsoddwr mewn cyfleusterau chwaraeon, gall y Cynghorau Chwaraeon godi’r safon ar gyfer cyfleusterau newydd a gallent gyflwyno safonau cynaliadwyedd gofynnol yn seiliedig ar y math o gyfleuster gan hefyd sicrhau eu bod realistig ac yn hyfyw.
Cyfathrebu ac ymgyrchoedd: Gall Cynghorau Chwaraeon gyflwyno ymgyrchoedd pwerus a helpu i gyfathrebu'r neges i ysbrydoli gweithredu. Fel y dywedodd un rhanddeiliad, “Rydym yn gweld chwaraeon fel cyfrwng i gyrraedd ystod ehangach o gymunedau na fyddent o bosibl yn ymgysylltu â newid hinsawdd fel arall.” Cafodd ymgyrch ‘This Girl Can’ Sport England ei dyfynnu sawl gwaith fel enghraifft wych o ymgyrch bwerus. Roedd 22% o ymatebwyr yr arolwg yn meddwl y byddai mentrau / ymgyrchoedd ar y cyd i gymryd rhan ynddynt yn ddefnyddiol. Teimlai rhanddeiliaid y gallai’r negeseuon ganolbwyntio ar ‘pam mae hyn yn bwysig ar gyfer chwaraeon’ – mae hyn yn bwysig i’n pobl ifanc ni, chwaraewyr a chyfranogwyr y dyfodol ac ati. Gallai llawer o negeseuon a awgrymwyd gyfeirio hefyd at y cyd-fuddiannau, e.e., arbed arian, buddion cymdeithasol.
Rôl gydlynu: Gallai’r Cynghorau Chwaraeon fod yn gydlynydd / cynullydd, efallai drwy gyflwyno rhwydwaith cynaliadwyedd ar gyfer cynrychiolwyr o’r partneriaid strategol a’r CRhC y maent yn eu hariannu, ynghyd â chyrff anllywodraethol amgylcheddol ac arbenigwyr cynaliadwyedd. Gallent hefyd gynnwys noddwyr ehangach a phartneriaid masnachol mewn gweithgor cynaliadwyedd neu rwydwaith rhannu gwybodaeth, i helpu i sbarduno newid.
Ysbrydoliaeth a chymhellion: Drwy’r cyfweliadau a’r grwpiau ffocws, cadarnhawyd yr angen am ddull “moronen yn hytrach na ffon” – h.y. i’r Cynghorau Chwaraeon ddarparu ysbrydoliaeth, cymhellion a chefnogaeth yn hytrach na gofynion neu feini prawf llym i gydymffurfio â hwy. Gallai’r Cynghorau Chwaraeon ystyried cynnwys mwy o gymorth amgylcheddol a metrigau yn eu cod llywodraethu chwaraeon er mwyn cael mwy o gydraddoldeb ochr yn ochr â’u ffocws ar gyfranogiad a chynhwysiant.
Cysylltu’r agendâu amgylcheddol a chymdeithasol: Roedd y rhanddeiliaid yn teimlo bod cyfle allweddol i’r Cynghorau Chwaraeon asio’r agendâu amgylcheddol a chymdeithasol yn hytrach na’u hystyried ar wahân, fel rhan o’r ‘trosi cyfiawn’ a ‘chyfiawnder hinsawdd’.