Skip to main content

Ymchwil a Gwybodaeth

Mae ein tîm Ymchwil a Gwybodaeth yn casglu ac yn rheoli data am weithgarwch chwaraeon yng Nghymru. 

Mae ein dau arolwg mawr ar gyfranogiad chwaraeon yng Nghymru – yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol a’r Arolwg Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol – yn rhoi darlun clir i’r sector o gynnydd a’r gwaith sydd ei angen er mwyn galluogi i chwaraeon yng Nghymru ffynnu.

Yn ogystal â jyglo rhifau, mae ein tîm yn ein helpu i ddeall ysgogiadau pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a’r hyn sy’n eu rhwystro rhag mynychu. Rydym yn rhannu ein darganfyddiadau ar draws y sector fel ein bod yn defnyddio’r holl ddata i greu cenedl fwy corfforol ac iach. 

Rydym yn ddarparwyr o strategyddion swyddogol sy’n golygu bod ein data yn cydymffurfio i safon ac ymarfer da o lefel uchel.

Am ragor o wybodaeth

Cysylltwch â ni ar:

  • [javascript protected email address]
  • 0300 300 3116
Ymchwil a Gwybodaeth
0
Fesul Tudalen: