- Y prif gymhellion i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon ymysg cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig yw cynnal iechyd a lles da, gwella cryfder, dygnwch a/neu ffitrwydd, ac ategu eu hunaniaeth Gymreig/cydlyniant cymunedol mewn sefyllfaoedd ymarfer corff a chymdeithasol.
- Dywedodd lleiafrif o siaradwyr Cymraeg rhugl/iaith gyntaf eu bod yn teimlo eu bod wedi’u gwthio i’r cyrion yn eu gwlad eu hunain oherwydd nad oes gweithgareddau/hyfforddwyr Cymraeg ar gael, ond roedd mwyafrif y siaradwyr Cymraeg (gan gynnwys dysgwyr Cymraeg ac unigolion sy’n ‘siarad ychydig o Gymraeg/gallu dweud ychydig o eiriau yn Gymraeg’ yn teimlo bod darpariaeth cyfleusterau/hyfforddwyr (dim ots beth yw eu hiaith) yn bwysicach nag iaith y ddarpariaeth.
- Roedd mwyafrif y cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng Nghymru yn cydnabod gwerth cymdeithasol y Gymraeg a bod darpariaeth ddwyieithog o weithgareddau corfforol yn atgyfnerthu hunaniaeth Gymreig, ac yn helpu pobl eraill sydd wedi’u geni yng Nghymru ond sy’n dysgu Cymraeg / yn ddi-Gymraeg i wreiddio mewn cymdeithas.
- Nofio yw’r gweithgaredd mwyaf poblogaidd ymysg cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng Nghymru, yna dosbarthiadau ffitrwydd a mynd i’r gampfa. Yn ogystal â nofio, rygbi, pêl-droed a cherdded/dawnsio (Twmpath) yw’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd ymysg plant.
- Y prif rwystr i weithgareddau corfforol ymysg cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig ar draws pob ystod oedran, rhyw a gallu iaith oedd dod â dosbarthiadau mewn cyfleusterau dan do i ben neu leihau’r mynediad iddynt, yn enwedig pyllau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd. Roedd hyn yn arbennig o amlwg yng Ngheredigion yn y Gorllewin, lle mae cyfleoedd i chwarae hoci wedi cael eu lleihau’n sylweddol hefyd.
- Mae cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig yn cael eu heithrio mwy a mwy rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol os nad oes ganddynt gar a bod yn rhaid iddynt ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r cynnydd yn y gost a’r amser wrth deithio i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ymhellach i ffwrdd yn cyfrannu’n sylweddol at lefelau cyfranogiad is.
- Mae prinder o weithgareddau llai dwys a gweithgareddau i bobl anabl sy’n briodol i ofynion a gallu corfforol is cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg llai abl sy’n byw mewn cymunedau gwledig. Tynnwyd sylw at y ddarpariaeth o lwybrau beicio diogel i deuluoedd.
- Roedd mwyafrif y cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig yn credu mai taith 10 milltir unffordd ac 20 milltir dwyffordd oedd y pellter mwyaf dylent orfod teithio’n rhesymol i gael gafael ar gyfleoedd gweithgarwch corfforol yn y gymuned.
- Dywedodd nifer o gyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig eu bod yn teimlo nad oes ganddynt ‘lais’ mewn penderfyniadau ynghylch darparu cyfleoedd gweithgarwch corfforol yn y gymuned.
- At ei gilydd, mae 42% o gyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig yn cymryd rhan mewn 150 munud o weithgarwch corfforol cymedrol/egnïol bob wythnos, sef y lefel sylfaenol sy’n cael ei hargymell. Mae 29% yn cymryd rhan am lai na 90 munud yr wythnos a 15% am lai na 60 munud yr wythnos.
Casgliadau
Mae’r astudiaeth hon wedi dangos bod gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gyfleoedd pwysig a gwerthfawr i rannu hunaniaeth a threftadaeth Gymreig, a’r uchelgeisiau ar gyfer yr iaith yn y dyfodol, mewn cymunedau gwledig. Blaenoriaeth bennaf Chwaraeon Cymru yw cynnal ac ehangu lefel bresennol y ddarpariaeth i alluogi cymunedau gwledig i ffynnu, a chyfranogwyr unigol a theuluoedd i fodloni eu hanghenion a’u cymhellion o ran gweithgarwch corfforol.
Er bod lleiafrif o ymatebwyr yn dymuno gweld rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol drwy gyfrwng y Gymraeg, roedd mwyafrif y cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng Nghymru yn dweud yn bendant bod darpariaeth cyfleusterau a chyfleoedd i fod yn gorfforol egnïol yn bwysicach nag iaith y gweithgarwch.
Mae’r adroddiad hwn yn awgrymu mai gwerth cymdeithasol darpariaeth ddwyieithog yw’r ddarpariaeth fwyaf cynhwysol i’r holl gyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng Nghymru. Ar ben hynny, mae darpariaeth ddwyieithog yn cefnogi cydlyniant cymdeithasol y cymunedau hyn drwy greu rhagor o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg rhugl gymdeithasu a bod yn gorfforol egnïol yn eu mamiaith, gan wreiddio dysgwyr Cymraeg a phobl eraill o Gymru (newydd-ddyfodiaid Saesneg/di-Gymraeg) yn niwylliant a threftadaeth unigryw Cymru. Mae rhoi rhagor o flaenoriaeth i gyfleoedd dwyieithog i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn gyfrwng pwysig ar gyfer bodloni anghenion a chymhellion cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig ledled Cymru.