Cynhaliwyd Cam Dau yr astudiaeth hon rhwng misoedd Gorffennaf a Medi 2022 ac roedd yn cynnwys datblygu a chefnogi tri grŵp o bobl ifanc i weithredu fel Ymchwilwyr Cymheiriaid a archwiliodd gyda’u cyfoedion ganfyddiadau allweddol adolygiad desg Cam Un; i ddeall a oedd y canfyddiadau hyn yn adlewyrchu barn pobl ifanc sy'n byw mewn tair cymuned wahanol yng Ngwent.
Mae’r crynodeb hwn yn amlygu’r canfyddiadau allweddol mewn perthynas â’r cwestiynau a ofynnwyd ac yn egluro’r fethodoleg a’r cyd-destun y cynhaliwyd yr ymchwil oddi mewn iddynt.
I ymgymryd â Cham Dau, lluniodd StreetGames bartneriaeth â thri sefydliad lleol o'r rhwydwaith, yn cynnwys: un grŵp ysgol, un grŵp clwb chwaraeon ac un grŵp cymunedol.
Cyflwynwyd sesiwn hyfforddi Ymchwilwyr Cymheiriaid pwrpasol gan StreetGames i bob un o’r tri grŵp, i helpu i baratoi’r bobl ifanc i weithredu fel Ymchwilwyr Cymheiriaid yn eu cymunedau. Roedd hyn yn cynnwys gweithdy rhyngweithiol, yn canolbwyntio ar gyd-destun yr ymchwil, y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl, dulliau ymchwil, ystyriaethau diogelu a lles.
Parhaodd StreetGames i roi cymorth ychwanegol i bob un o’r grwpiau drwy gydol y prosiect, er mwyn sicrhau bod yr ymchwil yn cael ei gynnal ar amser a’i fod yn parhau o fewn cwmpas y cwestiynau ymchwil; darparu cymorth penodol i’w helpu i ‘gynllunio, gwneud a diwygio’ y cwestiynau a ofynnir gan yr Ymchwilwyr Cymheiriaid a sicrhau’r wybodaeth sydd ei hangen a dadansoddi’r canfyddiadau.
Yn yr un modd â Cham Un, y cwestiynau y ceisiodd yr ymchwil yma eu hateb oedd:
- Ydi'r ddarpariaeth chwaraeon wedi newid?
- Oes angen i ni symud i ddarpariaeth iechyd a lles / anhraddodiadol?
- Beth mae pobl ifanc ei eisiau a sut mae cael yr wybodaeth honno?
- Pam nad yw pobl ifanc yn cymryd rhan yn y ddarpariaeth bresennol sydd ar gael ar eu cyfer?
Yn y cam hwn, rhannwyd y canfyddiadau allweddol o’r ymchwil desg gyda’r Ymchwilwyr Cymheiriaid, er mwyn helpu i hwyluso trafodaethau a darparu sylfaen iddynt ddatblygu eu cwestiynau ymchwil eu hunain arni gyda’u cymheiriaid. Galluogodd hyn yn ei dro i’r Ymchwilwyr Cymheiriaid archwilio a oedd canfyddiadau Cam Un yn adlewyrchu pobl ifanc eraill yng Ngwent ac i bobl ifanc eraill gyflwyno eu barn a rhannu eu profiadau bywyd yn eu geiriau eu hunain am y math o ddarpariaeth chwaraeon maent ei heisiau.
Cynhaliwyd yr ymchwil ar draws tri lleoliad – edrychwch isod. Dewiswyd y gwahanol grwpiau a lleoliadau yn fwriadol i ddarparu amrywiaeth o lais ac er bod rhywfaint o debygrwydd yn yr hyn a rannodd y bobl ifanc ar draws y grwpiau, roedd rhai gwahaniaethau hefyd, rhai ohonynt yn ymwneud â’r cyd-destun y cynhaliwyd yr ymchwil ynddo a’r bobl ifanc a gyfrannodd.
Sefydliad | Lleoliad | Demograffeg |
Aneurin Leisure (Blaenau Gwent) | Cymuned | Pobl ifanc 6 i 12 oed yn cymryd rhan mewn sesiynau aml-sgiliau Chwaraeon ar Garreg y Drws neu un sesiwn mewn canolfan chwaraeon. |
Sir yn y Gymuned (Casnewydd) | Clwb Chwaraeon | Cyfranogwyr sesiynau Fit and Fed 8 i 11 oed yn cymryd rhan mewn sesiynau arddull Chwaraeon ar Garreg y Drws e.e., anffurfiol a hwyliog. |
Datblygiad Chwaraeon Torfaen | Ysgol | Disgyblion ym Mlynyddoedd 8 a 9 yn cymryd rhan mewn gwersi yn cynnwys bechgyn a merched. |
Canfyddiadau allweddol o'r ymchwil cymheiriaid
Pam nad yw pobl ifanc yn cymryd rhan yn y ddarpariaeth bresennol sydd ar gael ar eu cyfer?
Yn unol â chanfyddiadau ymchwil desg Cam Un, amlygodd canfyddiadau’r Ymchwilwyr Cymheiriaid hefyd fod llawer o wahanol resymau pam nad yw rhai pobl ifanc yn ymgysylltu â’r ddarpariaeth chwaraeon bresennol; yn rhychwantu: ffactorau unigol, agweddau sy'n ymwneud â'r amgylchedd cymdeithasol a ffisegol maent yn byw ynddo, yn ogystal â ffactorau sy'n ymwneud â'r ffordd mae sefydliadau a mudiadau’n cynnig eu darpariaeth. Ymhlith y rhwystrau a rannwyd amlaf roedd:
- Materion mynediad, a’r angen am i ddarpariaeth fod yn lleol, yn hawdd ei chyrraedd ac mewn lleoliad sy’n cael ei ystyried yn ‘ddiogel’ gan bobl ifanc. Soniodd pobl ifanc am gyfleusterau fel MUGAs lleol ac ysgolion i osgoi’r angen am gludiant.
- Her y gofynion cystadleuol am eu hamser, fel hobïau a diddordebau eraill. Canfu adborth a gasglwyd gan yr Ymchwilwyr Cymheiriaid fod hyn yn bennaf yn cynnwys amser a dreuliwyd ar weithgareddau fel chwarae gemau neu chwarae ar ffonau, tra oedd y cyfyngiadau amser y tynnwyd sylw atynt yn yr ymchwil desg hefyd wedi cynnwys ymrwymiadau ychwanegol, fel gwaith ac astudio yn ogystal â hobïau mwy anffurfiol a chymdeithasu. Gallai’r gwahaniaeth hwn o bosibl fod oherwydd oedran iau cyfranogwyr yr ymchwil o gymharu â’r rhai a gymerodd ran yn yr adolygiad desg.
- Cael eich digalonni gan sesiynau chwaraeon ‘rhy ffurfiol’ ac ymrwymiad. I grynhoi, gellir gweld bod llawer o’r un ‘rhwystrau’ a amlygwyd yn yr ymchwil desg hefyd wedi’u codi gan bobl ifanc mewn trafodaethau gyda’r Ymchwilwyr Cymheiriaid. Fodd bynnag, ychydig iawn o drafod a gafwyd am gost gweithgareddau. Mae hyn yn debygol o adlewyrchu’r ffaith bod trafodaethau’r Ymchwilydd Cymheiriaid wedi’u cynnal mewn lleoliadau lle roedd gweithgareddau chwaraeon eisoes yn cael eu darparu am ddim. Sy'n golygu bod camau priodol eisoes ar waith i oresgyn y rhwystr cost. Mae’n debygol hefyd nad oedd rhai pobl ifanc eisiau codi’r mater hwn ymhlith eu cyfoedion. Fodd bynnag, o ystyried y wasgfa bresennol ar incwm gwario llawer o deuluoedd, mae’n debygol iawn y bydd cost cymryd rhan mewn chwaraeon a chostau cysylltiedig cludiant a chit yn broblem i lawer o bobl ifanc.
Ydi’r ddarpariaeth chwaraeon wedi newid ac a oes angen symud tuag at ddarpariaeth sy’n canolbwyntio mwy ar iechyd a lles / chwaraeon anhraddodiadol?
Yn unol â chanfyddiadau’r ymchwil desg yng Ngham Un, clywodd yr Ymchwilwyr Cymheiriaid gan rai pobl ifanc hefyd gymaint maent yn mwynhau cymryd rhan mewn ‘chwaraeon dim ond er mwyn chwarae’. Clywodd ymchwil a wnaed yn yr ysgol fod pobl ifanc yn rhannu cymaint maent yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon ‘traddodiadol’ ac yn gwneud hynny, er mwyn gwella eu hunain a cheisio cyflawni. Yma, roedd y ddarpariaeth chwaraeon yn bennaf yn cynnwys chwaraeon traddodiadol yn yr ysgol a chlybiau lleol, sy'n golygu y gallai hyn fod wedi dylanwadu ar y ffordd y gwnaethant ymateb.
Roedd llawer o’r bobl ifanc hyn yn rhannu nad oeddent yn cymryd rhan yn benodol mewn chwaraeon i wneud ffrindiau, fodd bynnag, fe wnaethant sôn dro ar ôl tro eu bod yn cymdeithasu ac yn meithrin cyfeillgarwch drwy gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau a sut roedd cymryd rhan mewn chwaraeon tîm traddodiadol wedi rhoi ymdeimlad o berthyn i’r bobl ifanc hyn.
Ymhlith y bobl ifanc eraill yr ymgynghorwyd â hwy gan yr Ymchwilwyr Cymheiriaid roedd rhai a rannodd pa mor bwysig oedd mynychu sesiynau gyda ffrindiau presennol, a sut roedd yn gwneud iddynt deimlo’n fwy ‘cyfforddus’ a ‘hyderus’ i roi cynnig ar weithgareddau. Roedd y rhai â lefelau hyder uwch yn credu y byddent yn cymryd rhan mewn chwaraeon dim ots beth oedd diddordebau eu ffrindiau gan eu bod eisiau cyflawni a bod yn gyfrifol am eu llwyddiant eu hunain.
Mae’r canfyddiadau hyn yn amlygu bod gwahanol ‘sbardunau’ a ‘chymhellion’ ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon ymhlith pobl ifanc - yn aml yn dibynnu ar lefelau hyder. Fodd bynnag, yr hyn oedd yn glir iawn oedd, os oedd pobl ifanc yn ‘ceisio’ hyn yn benodol ai peidio, bod cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd, meithrin perthynas â ffrindiau presennol a chymdeithasu drwy chwaraeon yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.
Roedd rhai pobl ifanc yr ymgynghorwyd â hwy gan yr Ymchwilwyr Cymheiriaid hefyd yn rhannu eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn bennaf am resymau ‘eraill’ yn hytrach na’r gweithgaredd ei hun yn unig. Roedd eu rhesymau’n cynnwys: eisiau dysgu am bwysigrwydd byw bywyd iach a’r rôl y gall gweithgarwch corfforol ei chwarae, gydag un person ifanc yn rhannu sut gall chwaraeon eich helpu i “beidio â mynd yn dew a gallu rhedeg heb flino mor gyflym”.
Yn yr un modd, yn yr ymchwil a gynhaliwyd yn yr ysgol, rhannodd llawer o bobl ifanc sut hoffent i Addysg Gorfforol (AG) ganolbwyntio mwy ar iechyd a lles gan fod “angen i chi ddeall sut gall gweithgarwch corfforol effeithio ar eich iechyd yn y dyfodol”.
Bu pobl ifanc hefyd yn rhannu safbwyntiau am bwysigrwydd chwaraeon o ran hybu lles meddyliol, gan rannu sut gall wneud iddynt deimlo’n hapus a’u hannog i gyflawni pethau, datrys problemau a chymdeithasu â ffrindiau. Dywedwyd hefyd y gall fod yn ddargyfeiriad cadarnhaol i rai pobl ifanc.
Beth mae pobl ifanc ei eisiau?
Amlygodd adborth a gasglwyd gan yr Ymchwilwyr Cymheiriaid fod llawer o bobl ifanc yng Ngwent ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn (ac yn mwynhau) chwaraeon tîm traddodiadol; yn aml oherwydd mai'r mathau hyn o weithgareddau yw'r brif ddarpariaeth sydd ar gael yn eu cymunedau lleol neu leoliadau ysgol.
Fodd bynnag, dywedodd pobl ifanc hefyd wrth yr Ymchwilwyr Cymheiriaid yr hoffent roi cynnig ar weithgareddau newydd / gwahanol, ond yn aml nid oedd y rhain ar gael yn lleol. Gan rannu y byddent yn awyddus i roi cynnig ar weithgareddau newydd drwy ddarpariaeth fwy amrywiol yn ogystal ag amser ar gyfer ‘chwarae rhydd’. Dywedodd rhai pobl ifanc hefyd y byddent yn fwy tueddol o roi cynnig ar chwaraeon / gweithgareddau newydd pe bai’r rhain yn cael eu cyflwyno gan oedolyn maent yn ‘ymddiried’ ynddo mewn lleoliad cyfarwydd.
Roedd rhai pobl ifanc yn rhannu dyhead am ddarpariaeth a oedd yn cynnwys mynediad i chwaraeon unigol, a gwelwyd eu bod yn darparu cyfleoedd i ‘deimlo wedi’u grymuso’ a datblygu eu ‘lefelau ffitrwydd’ ac atal eraill rhag ‘effeithio’n negyddol’ ar eu cynnydd o fewn y gamp.
Yn ôl y disgwyl, roedd barn wahanol ymhlith y bobl ifanc yr ymgynghorwyd â hwy am y ‘fformat’ ar gyfer sesiynau – gyda rhai pobl ifanc yn gwerthfawrogi cyfleoedd ar gyfer cystadlu, tra bo eraill yn gwerthfawrogi’r cyfle i fod yn actif mewn gofod anffurfiol.
Roedd y gwahanol agweddau a ystyriwyd yn bwysig mewn sesiynau chwaraeon yn rhychwantu agweddau tebyg i’r rhai a godwyd yn yr adolygiad desg, ac yn cynnwys y canlynol:
- Cyfleoedd i roi cynnig ar amrywiaeth o chwaraeon / gweithgareddau – gan gynnwys mynediad i weithgareddau chwaraeon traddodiadol ac anhraddodiadol.
- Darparu gofod ar gyfer gemau cystadleuol ar gyfer y rhai sydd eisiau cymryd rhan yn gystadleuol, a chwarae anffurfiol ar gyfer y rhai sy’n ffafrio’r math hwn o weithgaredd;
- Amgylcheddau lleol, hygyrch a diogel.
- Gofod i gymdeithasu a meithrin cyfeillgarwch wedi’i ymgorffori mewn sesiynau chwaraeon ac arddull sesiwn a oedd yn ‘hwyl’.
- Sesiynau a ddarperir gan ‘oedolion dibynadwy’ a modelau rôl cadarnhaol.
- Cyfleoedd i bobl ifanc 'wella eu hunain' a chymryd rhan mewn cyfleoedd datblygiad personol; a
- Cyfleoedd i archwilio rôl chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn iechyd a lles.
Adlewyrchu Ychwanegol
Mae i'w ddisgwyl bod gwahaniaeth barn ymhlith y bobl ifanc yr ymgynghorwyd â hwy. Mae hefyd yn bwysig cydnabod cwmpas y prosiect ymchwil hwn, a’r ffaith mai dim ond ymhlith tri grŵp o bobl ifanc yng Ngwent yr ymgymerwyd â’r elfen Ymchwil Cymheiriaid.
Fel y nodir uchod, roedd y grwpiau a ddewiswyd i gyd yn wahanol iawn, o ran y lleoliad lle cynhaliwyd yr ymchwil ac oedran y bobl ifanc dan sylw – a bydd pob un o’r rhain wedi effeithio ar eu profiadau a’r safbwyntiau a rannwyd. Felly, er enghraifft, wrth i’r ymchwil cymunedol gael ei gynnal mewn sesiwn Chwaraeon ar Garreg y Drws, rhannodd y bobl ifanc gymaint roeddent yn gwerthfawrogi gofod ‘i gael hwyl, cadw’n heini a chwarae gyda ffrindiau’, sy’n cyfleu hanfod Chwaraeon ar Garreg y Drws. Yn amgylchedd yr ysgol roedd y ddarpariaeth chwaraeon draddodiadol yn cael ei chyflwyno’n bennaf mewn modd ffurfiol ac yno roedd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn dweud y byddai’n well ganddynt ‘chwarae chwaraeon tîm fel rygbi, pêl droed a phêl rwyd’.
Roedd y detholiad bwriadol hwn o wahanol leoliadau ymchwil yn golygu bod barn a safbwyntiau gwahanol yn cael eu clywed.