Crynodeb Gweithredol
Mae’r Astudiaeth Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad ddiweddaraf o Chwaraeon yng Nghymru wedi rhoi gwerth ariannol wedi’i ddiweddaru i'r manteision y mae chwaraeon yn eu sicrhau i Gymru gyfan. Canfuwyd, am bob £1 a fuddsoddir mewn chwaraeon yma, fod elw o £4.44.
Gan daflu goleuni llachar ar bŵer chwaraeon a sut mae’n chwarae rhan hanfodol wrth greu nid yn unig cenedl iach, ond cenedl hapus, hyderus a chysylltiedig, mae’r astudiaeth yn tynnu sylw bod chwaraeon yn cyfrannu swm syfrdanol o £5.89bn mewn gwerth cymdeithasol i Gymru. Daw hyn drwy ystod o feysydd gan gynnwys iechyd, lles goddrychol, cyfalaf cymdeithasol a gwirfoddoli.
Mae'r adroddiad llawn i'w weld isod.
Cyflwyniad
Ym mis Chwefror 2023, comisiynodd Chwaraeon Cymru Brifysgol Sheffield Hallam (SHU), mewn partneriaeth â Phrifysgol Loughborough, i gynnal astudiaeth Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (ECAF) o chwaraeon yng Nghymru. Mae’r ymchwil yn adeiladu ar astudiaeth ECAF flaenorol ar gyfer chwaraeon yng Nghymru (2016/17). Mae wedi’i ganoli yn y cyd-destun polisi yng Nghymru, gan ystyried y WeledigaeECAFth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru ar lefel gymunedol ac elitaidd. Mae’n cael ei ariannu gan gyllid blynyddol gan Lywodraeth Cymru ac o incwm a gynhyrchir o’i weithgareddau ei hun. Dyma brif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion chwaraeon ac mae’n gyfrifol am ddosbarthu arian Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol i chwaraeon yng Nghymru.
Nod yr astudiaeth ECAF yw mesur a rhoi gwerth i effeithiau cymdeithasol chwaraeon yng Nghymru. Ei diben yw galluogi Chwaraeon Cymru i ddangos tystiolaeth o gyfraniad chwaraeon i randdeiliaid a chefnogi sgyrsiau traws-lywodraethol am fuddsoddi yn y sector. O'r herwydd, dim ond canlyniadau cymdeithasol y gellir dangos tystiolaeth gadarn ar eu cyfer y mae'r astudiaeth yn eu cynnwys, er mwyn sicrhau lefel uchel o drylwyredd.