Skip to main content

Elw Cymdeithasol Ar Fuddsoddiad Chwaraeon Yng Nghymru - Cyfrif y ECAF

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Elw Cymdeithasol Ar Fuddsoddiad Chwaraeon Yng Nghymru
  4. Elw Cymdeithasol Ar Fuddsoddiad Chwaraeon Yng Nghymru - Cyfrif y ECAF

Cam olaf dadansoddiad ECAF yw cyfrif y gymhareb ECAF. Mae Tabl 6.1 yn crynhoi'r cyfrif. Mae cyfanswm y mewnbynnau yn £1.35bn, gydag aelwydydd yn cyfrannu dros 55% o hynny. Cyfanswm gwerth yr holl ganlyniadau yw £5.98bn. Mae’r cyfraniad mwyaf yn cael ei gynhyrchu gan gyfalaf cymdeithasol (48%), wedi’i ddilyn gan les goddrychol (34%) ac iechyd (10.4%). Y gwerth cymdeithasol net (y gwahaniaeth rhwng gwerth y canlyniadau a'r mewnbynnau) yw £4.63bn, sy'n rhoi cymhareb ECAF o 4.44. Mae hyn yn golygu, am bob £1 a fuddsoddwyd mewn chwaraeon yng Nghymru yn 2021/22, bod gwerth £4.44 o effeithiau cymdeithasol wedi cael eu cynhyrchu.

Tabl 6.1: Crynodeb o'r Cyfrifiad ECAF

Canlyniadau cymdeithasolCyffredinol £m %
Mewnbynnau1,347.05 100.0
… Aelwydydd     751.21   55.8
… Sector gwirfoddol 429.51   31.9
… Sector cyhoeddus 166.33   12.3
   
Canlyniadau  5,979.61 100.0
… Iechyd621.19   10.4
… Lles goddrychol         2,056.90   34.4
… Cyfalaf Cymdeithasol2,872.01   48.0
… Cynhyrchiant Gwirfoddolwyr             429.51     7.2
   
Gwerth cymdeithasol net4,632.56  
   
Cymhareb ECAF 4.44  

Mae Tabl 6.2 yn cyflwyno gwerth cymdeithasol cyffredinol chwaraeon yng Nghymru yn ôl rhywedd. Roedd dynion yn cyfrif am £3.48bn (58%) a merched yn cyfrif am £2.50bn (42%) o'r gwerth cymdeithasol cyffredinol. Esbonnir hyn yn bennaf gan gyfran uwch o ddynion yn cymryd rhan ac yn gwirfoddoli mewn chwaraeon na merched.

Tabl 6.2: Gwerth cymdeithasol cyffredinol chwaraeon yng Nghymru yn ôl rhywedd

Canlyniadau cymdeithasolDynion £mMerched £mCyffredinol £m 
Iechyd318.69302.50621.19
   Atal afiechyd349.94329.43679.31
… Anafiadau cynyddol -31.25-26.93-58.18
    
Lles goddrychol         1,165.85891.052,056.90
… Cyfranogwyr 935.08806.001,741.08
… Gwirfoddolwyr 230.7785.05315.82
    
Cyfalaf Cymdeithasol1,708.281,163.722,872.01
… Cyfranogwyr 1,082.55933.122,015.67
… Gwirfoddolwyr 625.73230.61856.34
    
Cynhyrchiant Gwirfoddolwyr 291.14138.37429.51
    
Cyfanswm3,483.972,495.645,979.61
%58%42%100%

Mae Tabl 6.3 yn cyflwyno gwerth cymdeithasol cyffredinol chwaraeon yng Nghymru yn ôl oedran. Gwerth y cyfranogwyr 16 i 64 oed oedd £4.66bn, sy’n cyfrif am 78% o’r gwerth, sy’n adlewyrchu’r ffaith bod mwyafrif y cyfranogwyr a’r gwirfoddolwyr yng Nghymru o dan 65 oed. Gwerth y cyfranogwyr dros 65 oed oedd £1.32 bn.

Tabl 6.3: Gwerth cymdeithasol cyffredinol chwaraeon yng Nghymru yn ôl oedran

Canlyniadau cymdeithasol16-64 (£m)65+ (£m)Cyffredinol (£m)
Iechyd70.22550.97621.19
   Atal afiechyd120.16559.21679.31
… Anafiadau cynyddol -49.94-8.24-58.18
    
Lles goddrychol         1,761.91294.992,056.90
… Cyfranogwyr 1,494.50246.581,741.08
… Gwirfoddolwyr 267.4148.41315.82
    
Cyfalaf Cymdeithasol2,455.27416.732,872.01
… Cyfranogwyr 1,730.20285.472,015.67
… Gwirfoddolwyr 725.08131.26856.34
    
Cynhyrchiant Gwirfoddolwyr369.2160.30429.51
    
Cyfanswm4,656.611,323.005,979.61
%78%22%100%

Fel rheol mewn ECAF byddai prisiad canlyniadau yn cael ei addasu ar gyfer hyd (pa mor hir y mae canlyniad yn para) a lleihad (dirywiad canlyniad dros amser). Fodd bynnag, fel gydag astudiaethau lefel poblogaeth blaenorol, mae’r ECAF o chwaraeon yng Nghymru yn gipolwg o un flwyddyn, felly nid oes angen addasu ar gyfer y ffactorau hyn. Mae addasiadau eraill fel pwysau marw (beth fyddai wedi digwydd beth bynnag) ymhlyg yn achos diffyg cyfranogiad, a rhoddwyd cyfrif am briodoli eisoes oherwydd bod llawer o’r astudiaethau empirig y mae’r amcangyfrifon ariannol yn seiliedig arnynt o natur aml-amrywedd, ac maent eisoes wedi ymgorffori ystyriaeth o ffactorau cyfrannol tebygol eraill. Gan fod yr astudiaeth yn ystyried pob gweithgaredd chwaraeon, nid yw dadleoli (faint o'r canlyniad sydd wedi dadleoli canlyniadau eraill) yn berthnasol, er y gall chwaraeon ddisodli gweithgareddau hamdden eraill, nad yw wedi'i ystyried.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys dadansoddiad sensitifrwydd o'r prisiad canlyniadau cymdeithasol. Mae’r tîm ymchwil yn hyderus ynghylch y data iechyd, ac felly fe wnaethom brofi sensitifrwydd y rhagdybiaethau budd yn y model ECAF mewn dwy ffordd arall. Yn y senario gyntaf (UCHEL), defnyddiwyd dull amgen o roi gwerth i les goddrychol a chyfalaf cymdeithasol. Yn hytrach na defnyddio’r procsi ariannol ar gyfer chwaraeon yn unig, defnyddiwyd y gwerth ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol gennym, ac addaswyd y gyfradd cyfranogiad yn seiliedig ar gyfran chwaraeon o weithgarwch corfforol cyffredinol, yn yr un ffordd ag y gwnaethom ar gyfer iechyd. Arweiniodd hyn at werth cymdeithasol uwch (£6.45bn), a ECAF o 4.79. Yn yr ail senario (ISEL), fe wnaethom dybio bod yr holl wirfoddolwyr mewn clybiau chwaraeon hefyd yn gyfranogwyr, a bod y bobl hynny sy'n cymryd rhan ac yn gwirfoddoli yn elwa o’r lles goddrychol neu'r gwerth cyfalaf cymdeithasol sy'n gysylltiedig â'u gwirfoddoli yn unig, yn hytrach na'r ddau. Roedd y senario yma’n gostwng y gwerth cymdeithasol (£5.44bn) a'r ECAF i 4.04. Yn y ddau achos nid yw'r gymhareb ECAF yn amrywio'n sylweddol, gan gynhyrchu ystod o 4.04-4.79, sy'n rhoi mwy o hygrededd i ganfyddiadau'r ymchwil.

Casgliad

Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod chwaraeon yng Nghymru yn creu gwerth sylweddol i gymdeithas ar draws sawl nod llesiant gan gynnwys Cymru iachach, Cymru o gymunedau cydlynus a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Mae’r ECAF hefyd yn dangos bod y gwerth a gynhyrchir gan chwaraeon yng Nghymru yn fwy na chost darparu’r cyfleoedd hynny o gryn dipyn, gan awgrymu bod buddsoddi yn y sector nid yn unig yn cyfrannu at les unigolion a chymdeithas, ond ei fod hefyd yn dda i’r economi. 

Roedd cwmpas yr astudiaeth ECAF yn fwriadol gulach na’r ECAF blaenorol ar gyfer Cymru, drwy gynnwys dim ond y canlyniadau hynny y gellid dangos tystiolaeth gadarn ohonynt, er mwyn cynnal lefel uchel o drylwyredd. O’r herwydd, rydym wedi eithrio rhai canlyniadau a gynhwyswyd yn yr astudiaeth flaenorol nad oes digon o dystiolaeth empirig ar eu cyfer, fel cyrhaeddiad addysgol ac atal troseddu. Felly, mae’r canfyddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn eto’n debygol o fod yn asesiad ceidwadol ar gyfer chwaraeon yng Nghymru.

Mae'r tîm ymchwil yn awgrymu nifer o argymhellion lefel uchel, yn seiliedig ar ganfyddiadau'r astudiaeth. Yn gyntaf, rydym yn argymell bod Chwaraeon Cymru yn defnyddio canfyddiadau’r astudiaeth hon i hysbysu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y sector, o lawr gwlad hyd at Lywodraeth Cymru. Yn ail, rydym yn argymell bod yr astudiaeth hon yn cael ei defnyddio fel llinell sylfaen lefel uchel ar gyfer mesur cynnydd yn y sector a’i bod yn cael ei hailadrodd o bryd i’w gilydd, tua bob 3 i 5 mlynedd, yn dibynnu ar argaeledd tystiolaeth a data newydd ar gyfer Cymru. Yn drydydd, rydym yn argymell defnyddio'r astudiaeth hon fel sail i feysydd ymchwil blaenoriaeth yn y dyfodol. Un gwelliant sylweddol yn yr astudiaeth hon o gymharu â’r fersiwn blaenorol yw ei bod yn defnyddio data o Gymru i sicrhau’r prisiadau ar gyfer lles goddrychol a chyfalaf cymdeithasol. Fodd bynnag, mae’r hepgoriadau a’r cyfyngiadau nodedig yn yr astudiaeth hon sy'n teilyngu ymchwiliad yn y dyfodol yn cynnwys y canlyniadau mesur a phrisio ar gyfer pobl ifanc ac ymchwiliad llawnach i effeithiau negyddol cyfranogiad.

Cyfeiriadau