Skip to main content

Pobl Ifanc sy'n Pontio o Amgylcheddau Ysgol i Gymuned

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Pobl Ifanc sy'n Pontio o Amgylcheddau Ysgol i Gymuned

Dod i Ddeall Ieuenctid a Chyd-greu

Awduron – Dannielle Roberts (SLC a Proper Active) a Becca Mattingley

Hoffai SLC (The Sport, Leisure and Culture Consultancy Ltd) a Proper Active ddiolch i'r tîm o Chwaraeon Cymru, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Benfro a Chyngor Abertawe am eu hegni, eu syniadau a'u cefnogaeth drwy gydol y prosiect hwn hyd yma.

Hoffem ddiolch hefyd i’r ysgolion ac, wrth gwrs, i’r bobl ifanc wych sydd wedi cymryd rhan.

Mae Grŵp Cyfranogiad Gorllewin Cymru (GCGC) yn cynnwys cynrychiolwyr o bedwar awdurdod lleol: Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Yn 2022, comisiynodd Chwaraeon Cymru gymorth ymgynghori gan SLC / Proper Active i weithio ar brosiect dau gam gyda GCGC - peilot Blwyddyn 9 Pontio o Weithgarwch Ysgol i Gymunedol (TSCA).

Archwiliodd y prosiect peilot hwn y cwestiwn ymholiad proffesiynol canlynol:

Beth sy’n cymell pobl ifanc rhwng 13 ac 14 oed (Blwyddyn 9) i bontio o fod yn gorfforol actif mewn rhaglenni ysgol i gyfleoedd cyfranogiad cymunedol rheolaidd?

Roedd Swyddogion Gweithgarwch Corfforol yr Awdurdodau Lleol (ALl) yng Ngrŵp Cyfranogiad Gorllewin Cymru yn awyddus i fynd i’r afael ag ymddieithriad pobl ifanc o chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar ôl iddynt ddechrau addysg uwchradd. Yn gynnar yn 2022, codwyd ymholiad proffesiynol ganddynt gyda’i gilydd ynghylch pam mae rhai pobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn lleoliadau cymunedol y tu allan i’r ysgol, ond nad yw eraill yn gwneud hynny.

Pam mae hyn o ddiddordeb?

Mae wedi’i hen sefydlu bod pobl ifanc yn dechrau rhoi’r gorau i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol o’r arddegau cynnar ymlaen, yn enwedig merched ifanc. Mae canlyniadau diweddaraf yr Arolwg Chwaraeon Ysgol yn cadarnhau’r patrwm hwn.

Mae’r cwestiwn hwn wedi codi oherwydd y gostyngiad hysbys mewn cyfranogiad ymhlith pobl ifanc tua’r oedran hwn, ynghyd â chydnabyddiaeth nad yw pobl ifanc, unwaith maent yn gadael lleoliadau addysg, yn cael eu gorfodi bellach i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol o fewn y lleoliad addysg. Ar y pwynt hwn, mae llawer o'u cysylltiadau â chyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon yn cael eu colli.

Cydnabyddir bod y gostyngiad cyffredinol yn broses estynedig, gyda niferoedd cynyddol o bobl ifanc yn dod yn llai actif drwy gydol addysg gynradd ac uwchradd; fodd bynnag, credir efallai bod ieuenctid 13 i 14 oed yn dangos gostyngiad mwy nodedig.

Hoffai’r ALlau ddeall a yw hyn yn wir ac, os ydyw, pam mae’r grŵp oedran hwn yn benodol yn rhoi’r gorau iddi. Yn ogystal â hyn, hoffent ddeall beth sy'n cymell y bobl ifanc hynny sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol y tu allan i'r ysgol i wneud hynny a sut mae hyn yn dylanwadu ar eu perthynas â bod yn actif yn y tymor hwy.

Prif werth y dysgu hwn fyddai llywio’r gwaith o ddylunio a gweithredu ymyriadau lleol yn y dyfodol i gefnogi pobl ifanc. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol wrth ddylanwadu ar strategaeth / gwariant ehangach ac ar gyfer rhannu / dysgu.

Diffinio'r cwestiwn

Beth sy’n cymell pobl ifanc rhwng 13 ac 14 oed (Blwyddyn 9) i bontio o fod yn gorfforol actif mewn rhaglenni ysgol i gyfleoedd cyfranogiad cymunedol rheolaidd?

Annibyniaeth

Cydnabyddir bod pobl ifanc 13 i 14 oed yn dangos mwy o ymreolaeth ac yn dod yn llai dibynnol ar eu rhieni i ddewis a hwyluso gweithgareddau amser rhydd.

Cyfranogwyr Cwricwlaidd v Allgyrsiol

Cydnabyddir y gallai fod gan bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol berthnasoedd mwy cadarnhaol eisoes â gweithgarwch corfforol a’u bod felly'n fwy tebygol o drosglwyddo i weithgarwch y tu allan i'r ysgol.

Os yw’r dybiaeth honno’n wir, mae’n arbennig o bwysig deall sut mae’r rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau cwricwlaidd yn unig (h.y. gorfodol) yn teimlo am chwaraeon cymunedol.

Math o weithgaredd cymunedol?

Wrth wraidd y cwestiwn hwn mae dyhead i gefnogi pobl ifanc i sefydlu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol â gweithgarwch corfforol er mwyn rhoi’r sgiliau a’r cymhelliant iddynt barhau i fod yn actif yn eu bywydau fel oedolion. Felly, os ydynt yn actif, does dim ots pa weithgaredd maent yn ei wneud.

Ymhellach i hyn, gallai’r gweithgareddau fod:

  • Ar-lein NEU all-lein
  • Mewn lleoliadau trefnus e.e., clybiau NEU gyfleoedd anffurfiol
  • Gyda ffrindiau / teulu NEU gyda chyfranogwyr eraill NEU ar eu pen eu hunain
  • Gweithgareddau penodol i berson ifanc NEU weithgareddau cyffredinol
  • Mewn amgylcheddau sy'n canolbwyntio ar chwaraeon NEU unrhyw leoliad cymunedol

Fodd bynnag, mae'n bwysig deall y math o weithgaredd y mae pobl ifanc eisiau ei wneud, ble, pryd a gyda phwy.

Rôl technoleg

Gan fod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn hynod gysylltiedig ac yn ddeallus yn dechnolegol, bydd yn hanfodol ystyried rôl platfformau digidol drwy'r gwaith hwn.