Roedd ysgolion yn gefnogol i'r prosiect ac yn ei chael yn hawdd dewis grwpiau o bobl ifanc a allai elwa o'r peilot. Yn ddealladwy, roedd amrywiadau rhwng ysgolion o ran amlder a hyd yr amser y gellid rhyddhau pobl ifanc o'u hamserlen i gymryd rhan yn y peilot. Felly roedd angen i'r cyflwyno fod yn hyblyg ac yn hawdd ei addasu i gyd-destun yr ysgol.
Dyma’r sesiynau a weithiodd yn dda ac a oedd yn diwallu anghenion y bobl ifanc, yr ysgolion a’r awdurdodau lleol:
- Grwpiau bach o 8 i 10, a oedd yn galluogi'r hwylusydd a'r bobl ifanc i gael y gorau o'r broses a'r cyfle i wrando'n iawn ar holl aelodau'r grŵp.
- Annog pobl ifanc i fabwysiadu ac arddangos cyfres o werthoedd ac ymddygiadau ar gyfer y broses.
- Wyneb yn wyneb, nid ar-lein.
- Sesiynau rheolaidd am gyfnodau cymharol fyr, gyda chyfnodau o seibiant wedi'u cynnwys.
- Yn seiliedig ar bynciau sy’n berthnasol i fywydau pobl ifanc – e.e., cyfryngau cymdeithasol, beth maen nhw’n ei wneud yn ystod eu hamser hamdden.
- Ddim yn rhy ‘academaidd’ – yn gyffredinol roedd y rhain yn bobl ifanc wedi ymddieithrio, ac mae’r sesiynau’n cynnig rhywbeth gwahanol i wersi arferol.
- Yn seiliedig ar dasgau, sy'n defnyddio siartiau troi, sticeri a nodiadau post-it, a gweithio mewn parau / triawdau, gan annog cyfranogiad gan bobl ifanc sy’n dawelach.
- Cynnwys elfennau o weithgarwch corfforol, a all fod yn yr ystafell ddosbarth, heb fod angen unrhyw offer / cit arbennig, gyda phobl ifanc yn cael cyrraedd ‘yn barod i’r gampfa’ mewn dillad cyfforddus.
- Arwain drwy gadarnhau i’r bobl ifanc bod y broses yn cael ei llywio ganddynt hwy, gan roi perchnogaeth.
- Cyfleoedd i bobl ifanc siarad ag oedolion heb fod yn athrawon, heb bresenoldeb athrawon.
- Yn cynnwys ‘manteision’ sy’n ysgogi ac yn cael eu mwynhau gan bobl ifanc e.e., poteli dŵr, crysau-t, nwyddau am ddim, gwobrau am ymrwymiad.
- Eglurhad wedi’i roi i’r ysgol ymlaen llaw. Mae amserlenni hyblyg a chynnwys hyblyg o fewn sesiwn yn debygol o fod yn angenrheidiol er mwyn darparu ar gyfer newidiadau ar fyr rybudd.
- Gyda chyllideb gymedrol ar gyfer darparu, er mwyn rhoi syniadau pobl ifanc ar waith.
Cyllideb darparu
Wrth i’r peilot gyrraedd y cam o roi syniadau’r bobl ifanc ar waith, daeth i’r amlwg nad oedd ffordd gyson o gyllido gweithgareddau a oedd â chostau ynghlwm wrthynt. Byddai'n fuddiol cynnwys cyllideb fechan ar gyfer darparu. Byddai hefyd yn dangos ymhellach i’r bobl ifanc yr ymrwymiad sydd iddynt. Gallai rhannu’r swm sydd ar gael ymlaen llaw gyda’r bobl ifanc a) eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn y broses a b) bod yn gyfrwng i’w helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth o hyfywedd ariannol eu hawgrymiadau a’r agweddau ymarferol ar roi pethau ar waith. Pe bai'r peilot yn cael ei ymestyn i rywle arall, byddai'n fuddiol dyrannu swm bychan iawn am rai wythnosau o gostau darparu / cludo i roi cychwyn i weithgareddau.
“Yr hyn oedd yn ddefnyddiol, ac mewn byd delfrydol fe fydden ni’n gwneud llawer mwy o hyn, oedd cael yr amser yna i eistedd i lawr gyda’r bobl ifanc a gofyn iddyn nhw o ddifrif beth sy’n eu cyffroi nhw a beth hoffen nhw ei gael. Mae’r math hwnnw o ymgynghori’n ddefnyddiol ac yn arfer da i’w fabwysiadu mewn ysgolion ac amgylcheddau eraill, yr ymdeimlad o gyd-greu a gwrando ar bobl ifanc – mae’n cael ei gydnabod fel arfer da ond mewn realiti nid yw bob amser yn cael ei wneud cymaint â hynny” (Cynrychiolydd awdurdod lleol)
Canlyniadau a chasgliad
Mae pobl ifanc sydd ‘bob amser’ yn teimlo bod pobl yn gwrando arnynt yn fwy tebygol o gymryd rhan yn amlach mewn chwaraeon a mwynhau AG a chwaraeon yn yr ysgol. Mae’r peilot hwn wedi cyfrannu rhywfaint at bwysleisio pwysigrwydd ymgynghori a gwrando – o ganlyniad, mae’r bobl ifanc hyn wedi elwa o gymorth parhaus dros gyfnod o chwe mis a mwy, ac mae rhai wedi ailymgysylltu â gweithgarwch corfforol, er bod hynny mewn cam cynnar. Mae hyn wedi rhoi cyfle iddynt glywed eu llais drwy'r cynllun peilot hwn, ac yn bwysicach fyth, gweithredu ynghylch eu llais. Mae eu hadborth wedi bod yn graff ac yn berthnasol wrth helpu’r gweithlu i ddeall sut mae pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio yn teimlo, a beth allai’r atebion posibl fod.
Yn bwysig, mae’r holl awdurdodau lleol a gymerodd ran yn y peilot yn parhau â’r sesiynau grŵp hyn mewn fformatau amrywiol ac mae rhai yn cynllunio eu grŵp nesaf o bobl ifanc i weithio gyda nhw, yn annibynnol ar y cymorth ymgynghori. Mae'r staff hyn yn yr awdurdodau lleol yn fedrus ac yn hyderus wrth ddatblygu perthnasoedd â phobl ifanc. Maent hefyd yn rhannu'r wybodaeth a gafwyd gyda'u timau ehangach. Hyd yn oed fel prosiect ar raddfa fechan, mae’r effaith bosibl a’r gallu i newid meddylfryd a lefelau gweithgarwch yn y dyfodol ar gyfer rhai pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio, neu sydd ar fin bod felly, yn hynod werthfawr. Mae tracio pellach i ddilyn unrhyw gynnydd a chanlyniadau tymor hwy i bobl ifanc wedi'i argymell.
Yn strategol, mae'r peilot wedi bod yn addas ac yn gyfrwng i fynd i'r afael â nodau a pholisïau lleol a chenedlaethol. Mae'r peilot wedi ategu yn hytrach na dyblygu rhaglenni gwaith presennol. Mae wedi cyd-fynd yn dda â ffocws y sector ar gymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, gan dargedu cyfranogiad merched a meithrin perthnasoedd ag ysgolion a phobl ifanc.
Ar gyfer Chwaraeon Cymru, mae’n mynd i’r afael â sawl maes o fwriad strategol: canolbwyntio ar yr unigolyn, rhoi dechrau gwych i bob person ifanc, a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fod yn actif drwy chwaraeon. Drwy’r gwerthusiad hwn o’r broses, rydym wedi nodi pethau sy’n gweithio’n dda ac y gellir eu hailadrodd a rhai ffyrdd amgen o gyflawni camau i gyflymu’r broses a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i wrando ar bobl ifanc a meithrin perthnasoedd gyda hwy.